"Anghofio yw Bradychu"

Cartref > Utgorn Cymru

Utgorn Cymru

Beth yw Utgorn Cymru ?

Dyma brif ffynhonnell incwm y Ganolfan.

Cylchgrawn hanes llafar gwladgarol yw Utgorn Cymru a gyhoeddir yn chwarterol – Gaeaf, Gwanwyn, Haf, Hydref – i aelodau’r Ganolfan ar ffurf ddewisol, Cryno-ddisg neu mp3.

Ym mhob rhifyn ceir  80 munud o sgyrsiau difyr a safonol yn ymwneud â Chymru a’r Gymraeg, yn hanes, llenyddiaeth, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth a llawer rhagor.

Byddwn, ar draul y Ganolfan,  yn anfon Cryno-Ddisg o’r Utgorn, yn ddi-dâl, at gannoedd o ddeillion a rhai sydd â nam ar y golwg.

Tanysgrifiad : Mae’r tanysgrifiad o £18 y flwyddyn yn cynnwys aelodaeth aelwyd o Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Rhifyn nesaf :  Hydref 2024 (rhifyn 119)

Cynnwys y 2 rifyn diweddaf :

GAEAF (rhifyn 120)

Cyflwynydd : Morgan Jones

Angharad Tomos : Pam ymgyrchu?

Howard Huws : Gordwristiaeth

Alwyn Pritchard : John Elias o Fôn

Geraint Jones : Yr Adroddwr Eisteddfodol (1)

 

 

HYDREF 2024 (rhifyn 119)

Cyflwynydd : Morgan Jones

Dawi Griffiths : Cofio Prosser Rhys

Jina Gwyrfai : Trychineb Gresffordd 1934

Syr Ifor Williams: Yn Hogyn yn Nhre-garth

Geraint Tudur : Helynt Chatham Street (2)

Y Co Bach (Richard Hughes): Nerpwl

Am grynodeb llawnach o weddill rhifynnau’r Utgorn ewch i:

 Archif Rhifynnau'r Utgor