"Anghofio yw Bradychu"

Croeso i wefan Canolfan Hanes Uwchgwyrfai

Clynnog Fawr yn Arfon, sefydlwyd 2006. Canolfan hanes wladgar, addysgiadol, difyr, cyfeillgar ac uniaith Gymraeg - dyma’n wir bwerdy bro.

Dyma lys hen gwmwd Uwchgwyrfai yng Nghantref Arfon, gwlad Gwynedd Uwch Conwy, cwmwd sy’n enwog am ei gyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol.

Amdanom

Digwyddiadau

Nos Wener 28 Mawrth am 7.00
yn yr Ysgoldy

John Dilwyn Williams:  Yr Ail Syr Love

(Bydd dwy ddarlith Dilwyn – Y Ddau Syr Love – ar werth yn llyfryn ar y noson. Pris: £6.00).

Nos Wener 11 Ebrill am 7.00
yn yr Ysgoldy

Cyfarfod i lansio cyfrol allweddol yn ein hanes diweddar: BRWYDR YR IAITH 1962-67 gan Geraint Jones

Rhaglen amrywiol, mynediad am ddim

Nos Wener 25 Ebrill am 7.00
yn yr Ysgoldy

Menna Baines: Un Nos Ola Leuad: Y nofel a'i hawdur