"Anghofio yw Bradychu"

Cartref > Archif > Achlysuron Arbennig

Achlysuron Arbennig

Ddydd Llun 7 Awst 2023
Yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan, cyflwynwyd Medal Goffa Syr T H Parry-Williams – Er Clod i Geraint Jones, Rheolwr y Ganolfan, mewn seremoni gynnes ac urddasol yn y Pafiliwn Mawr. Roedd hyn yn gydnabyddiaeth o’i lafur diflino dros gyfnod o drigain mlynedd yn ei filltir sgwâr ym Mro’r Eifl, ac yn llawer ehangach, i warchod yr iaith Gymraeg a’r diwylliant Cymreig mewn ystod eang o feysydd a throsglwyddo gwerthoedd gorau ein cenedl i genedlaethau’r dyfodol. Arweiniwyd y seremoni gan Dei Tomos a chyfarchwyd Geraint ar y llwyfan gan Y Prifardd Ieuan Wyn (a ddarllenodd ddilyniant treiddgar o englynion o’i waith iddo), John Glyn Jones a Dawi Griffiths. Hefyd dangoswyd ffilm fer lle cyfarchwyd Geraint gan Marian Elias Roberts (Ysgrifennydd y Ganolfan), ei fab, Morgan Jones, ac Arwel Griffiths (cyn-ddisgybl o Ysgol Trefor).  Dangoswyd yn ogystal glipiau ffilm o Geraint yn arwain Band Trefor nôl yn y 1970au a’r 80au, pryd yr enillodd nifer o wobrau o bwys. Yna, dan arweiniad John Glyn, daeth ensemble pres (yn cynnwys Caren a Morgan – plant Geraint) ymlaen a mwynhawyd cyfuniad o wahanol ddarnau ganddynt. I gloi’r seremoni, arwisgwyd Geraint â’r Fedal gan Gethin Thomas, Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod. Achlysur cofiadwy yn sicr.

19 Awst 2019
Cyfarfod arbennig i gyhoeddi Cerddi Gwenllian. Detholiad o gerddi cyfareddol Gwenllian Jones.“Go brin fod unrhyw fardd yn ein cyfnod ni wedi cyfuno cariad at deulu, bro a chenedl gyda phrofiadau o ddiwylliannau a dioddefaint pobloedd eraill y byd fel y gwna Gwenllian,” meddai Emyr Llywelyn yn y Rhagair. “Nid crefft yn unig sydd yma ond hefyd angerdd sy’n gwneud i’r cerddi fynnu aros ar y cof.”

Oherwydd cyflwr ei hiechyd, aelodau o’r teulu a Chyfeillion Eban yn unig a wahoddwyd.    
 

30 Awst  2017      
Gwasg Y Lolfa yn cyhoeddi Meddyginiaethau Gwerin Cymru gan Anne Elizabeth Williams.
Cafwyd sgysriau gan yr awdur a Twm Elias.


16 Mawrth 2017    
Gwasg Y Lolfa yn cyhoeddi Brwydrau dros Gymru gan Myrddin ap Dafydd (a oedd ar werth yma gan Lên Llŷn am £5.95).     
Aeth yr awdur â ni ar daith trwy luniau a hanesion i rai o’r meysydd cad a geir yn y llyfr.


16 Rhagfyr 2008
Cyflwyno (i) Ellyll Hyll a Ballu (Mary Hughes). Cyhoeddwyd gan Wasg yr Utgorn.
(ii) Llyfr Lliwio i Blant gan Dafydd Jones (12 llun i’w lliwio). Gwasg yr Utgorn.    

Llyfr chwedlau Uwchgwyrfai a ysgrifennwyd i blant gan Mary Hughes ac a gyhoeddwyd yn Ysgol Brynaerau yng nghwmni Ysgolion Carmel a’r Groeslon. Darllenodd yr awdur  un o’r chwedlau.  Yr oedd yr arlunydd, Jasmine Hughes, hefyd yn bresennol – arluniodd 12 llun lliw hardd ac 8 du a gwyn i gyd-fynd â’r chwedlau. 

 

6 Rhagfyr 2008
Noson cyhoeddi Teulu’r Post Llanwnda (Gwasg  Utgorn Cymru) gan Aelwen Roberts yng Nghanolfan Bro Llanwnda.  Dathlu cyhoeddi llyfryn sydd yn portreadu pedair cenhedlaeth yn hanes Swyddfa’r Post, Llanwnda a gaewyd yn Nhachwedd 2008. Cafwyd cyflwyniad gan Aelwen Roberts a chymerwyd rhan gan aelodau ifainc o deulu’r Post – dau ohonynt yn aelodau o Gôr Glanaethwy – unawd ar y piano gan Miriam, carol gan y ddau frawd Ifan ac Emyr Jones a’u cyfyrder Dafydd Siôn, yna unawd gan Emyr i gyfeiliant Siân Wyn Gibson.


25 Tachwedd 2008
Noson cyhoeddi Am y Tywydd gan Twm Elias.
Gwahoddiad gan Wasg Carreg Gwalch i ddod drwy’r eira mawr a’r rhew a niwloedd Tachwedd a sgrympiau Gŵyl Grog i ddathlu cyhoeddi’r casgliad swmpus hwn o ddywediadau difyr – testun sgyrsiau am genedlaethau! Cafwyd cyflwyniad Powerpoint gan yr awdur a phaned a mins pei. Pris y llyfr: £12 – ar werth gan y Ganolfan ar y noson. 


5 Tachwedd 2008    
Sgwrs a lluniau gan Geraint Jones i ddathlu cyhoeddi  Gŵr Hynod Uwchlaw’rffynnon (Gwasg Carreg Gwalch), cyfrol hardd, llawn lluniau lliw, yn cyflwyno hanes y porthmon, ffarmwr, bardd, pregethwr, darlithydd, achyddwr, areithiwr dirwest – ac arlunydd gwlad. Cynhwysir holl achau’r teulu lluosog.    

Y noson hon dangoswyd dros drigain o ddarluniau Robert Hughes ar y sgrin fawr sydd yn y Ganolfan a manylodd yr awdur, Geraint Jones, ar rai o’r cymeriadau hynod a’r golygfeydd rhyfeddol


29 Hydref 2008
Noson cyhoeddi cryno-disg Emlyn a Harri: Byd y Baledi a Byd y Llofft Stabal
yn Neuadd Sarn Meillteyrn yng nghwmni Emlyn a Harri Richards.  Mynediad, paned a llond gwlad o hwyl Cymreig AM DDIM!

 

26 Medi 2008
Cyhoeddi cryno-ddisg, Rhif 1, Beirdd Bro:  Myrddin ap Dafydd (Gwasg yr Utgorn) pryd y gwelwyd cyhoeddi llyfr a chryno-ddisg a chlywed y bardd yn darllen rhai o’i gerddi.

Cynhaliwyd yn Nhafarn y Fic, Llithfaen. Hefyd cyhoeddwyd Bore Newydd: casgliad newydd o gerddi Myrddin ap Dafydd (Gwasg Carreg Gwalch).


12 Mai 2004
Cyhoeddi Hen Ysgol Eben Fardd  gan Emlyn Richards (Gwasg Gwynedd).
Gweler Darlith / Sgwrs.

5, 7-12 Awst 2017 
Pabell yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ynys Môn
Gwasg Utgorn Cymru a’r Ganolfan


9 Mai 2015
Ffair Lyfrau, Canolfan y Morlan, Aberystwyth
Cymdeithas Bob Owen


28 Medi 2013
Ffair Lyfrau yn Y Borth, Ynys Môn
Cymdeithas Bob Owen


7 Medi 2013
Gŵyl Lyfrau Canolfan Soar, Merthyr Tudful
Gwasg Utgorn Cymru a’r Ganolfan


3-10 Awst 2013    
Ffair Lyfrau Y Lasynys yn Neuadd Talsarnau
Gwasg Utgorn Cymru a’r Ganolfan


13 Gorffennaf 2013
Pabell yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Dinbych
Gwasg Utgorn Cymru a’r Ganolfan

19 Tachwedd 2007
Ifan Glyn a Twm Elias    Taith i Ddyffryn Nantlle, Cae’r Gors a Rhyd-ddu i blant Ysgol yr Eifl, blwyddyn 4,5,6.


23 Tachwedd 2007
Geraint Jones yn holi Gwilym Jones, Felin, Tudweiliog am waith melin 
yn arddangosfa Melin Faesog, Canolfan Uwchgwyrfai. Yna taith  i Felin Faesog ac oddi yno i Felin Llynnon,    Plant blwyddyn 6 Ysgol Llanaelhaearn.
Trefnwyd y ddwy daith hon trwy gymorth Cronfa Datblygu Gynaliadwy Llŷn (AHNE).

24 Mehefin 2016
Artistiaid:  Arfon Gwilym, Sioned Webb, Mair Tomos Ifans a Mari Gwilym ynghyd â Chwmni Drama’r Ganolfan yn cyflwyno Ranterliwt newydd sbon gan Geraint Jones: “Arwisgiad 2019?”.  Cadeirydd: Dr Diane Jones.    
Yn Neuadd Bentref Clynnog.