"Anghofio yw Bradychu"

Cartref > Amdanom > Sefydlu’r Ganolfan

Sefydlu’r Ganolfan

Lleolir y Ganolfan yng Nghlynnog Fawr, Cwmwd Uwchgwyrfai, Cantref Arfon, mewn tri safle :

  • Hen goleg rhagbaratoawl y Methodisiaid Calfinaidd, a elwir hefyd yn hen ysgol Eben Fardd. Yn yr ysgoldy hwn y cynhelir ein hamrywiol gyfarfodydd.
     
  • Hen dŷ capel Ebeneser M.C. (a gaewyd 2022).  Yma y lleolir ein swyddfeydd, archifau a’n stiwdio recordio.
     
  • Gardd berlysiau draddodiadol a gardd fwthyn sydd yn tyfu blodau persawrus .

I’w sefydlu, cafodd y Ganolfan gefnogaeth ariannol Rhaglen Amcan Un yr Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth Cymru i brynu Ysgoldy a Thŷ Capel Ebeneser, Clynnog Fawr, ynghyd â chymorth hael i weinyddu’r cynllun am gyfnod o dair blynedd. Yn ogystal cafwyd cymorth ariannol Cyngor Gwynedd, Cynllun CAE, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a Mantell Gwynedd. Datblygwyd yr Ardd ar wahân trwy gymorth y corff amgylcheddol Enfys ac yn ddiweddarach Amgylchedd Cymru.

Agorwyd y Ganolfan yn Ebrill 2006 pan ddadorchuddiwyd plac o lechen Gymreig ar fur yr Ysgoldy ac a luniwyd gan gwmni Inigo Jones, Y Groeslon. Fe’i dadorchuddiwyd gan Ysgrifennydd y Ganolfan, Marian Elias Roberts, Clynnog, yn werthfawrogiad o’i gwaith diflino yn hanes sefydlu’r fenter.

Cafwyd agoriad swyddogol gyda chyfarfod yng Nghapel Ebeneser oedd dan ei sang y pnawn dydd Mawrth bythgofiadwy hwnnw. Llywyddwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor, Geraint Jones, Trefor, a chymerwyd rhan gan wahanol aelodau o’r Pwyllgor Gwaith. Mwynhaodd y gynulleidfa o dros drichant ddarlith ysgubol gan yr Athro Hywel Teifi Edwards, Llangennech, ar ‘ Cymru a’i Harwyr?’  Yn bresennol hefyd roedd Dr. E.G.

Millward, Aberystwyth, golygydd dyddiaduron Eben Fardd. Cyflwynwyd copi o lyfryn a gyhoeddwyd ar gyfer yr achlysur gan Dawi Griffiths, Trefor, aelod o’r Pwyllgor, am Eben Fardd a’r ardal, ‘Ar Anwadol Donnau’r Byd’, i Dr. Millward gan yr awdur. Cyhoeddwyd yn ogystal lyfryn ar hanes pentref Trefor gan y ddau gefnder, Geraint Jones a Dafydd Williams. Daeth yr holl weithgareddau i ben gyda lluniaeth ysgafn i bawb.