Cartref > Cof y Cwmwd > Beth yw Cwmwd?
Beth yw Cwmwd?
Dan y Tywysogion rhannwyd Cymru’n gantrefi megis Llŷn neu Arfon. Rhannwyd y cantref yn ddau neu dri o gymydau. Enwyd sawl cwmwd ar ôl prif afon y cantref a’i safle mewn perthynas â llys y Tywysog : yn yr achos hwn, Llys Abergwyngregyn. Ystyr ‘Uwch’ yn y cyd-destun hwn yw ‘ymhellach draw’, tra bod ‘Is’ yn golygu ‘nes yma’ : felly, dyna Isgwyrfai ac Uwchgwyrfai.
Dyma rai enghreifftiau o rai ffeithiau difyr sydd i’w canfod wrth syrffio Cof y Cwmwd
- Ar un adeg roedd 8 o felinau’n cael eu troi gan Afon Gwyrfai ;
- Enwyd Afon Desach ar ôl llwyth a ddaeth o Iwerddon bron i 2,000 o flynyddoedd yn ôl ;
- Codwyd morglawdd i ennill tir Dinas Dinlle o’r môr cyn gynhared â 1808 - ac mae’n dal yno hyd heddiw ;
- Gwyndaf Hen yw nawddsant Eglwys Llanwnda, ond nid yw’r eglwys bresennol yn hŷn na 200 oed ;
- Sefydlwyd Y Sefydliad Chwarelydda, corff byd-eang, gan reolwr chwareli yn Uwchgwyrfai ;
- George a Robert Stevenson oedd ymgynghorwyr y rheilffordd gyntaf yn yr ardal, a hynny ym 1828 ;
- Bu i Eben Fardd ennill ei gadair gyntaf ym 1824 ond y pryd hynny defnyddiai’r enw barddol ‘Cybi o Eifion’ ;
- Mynnwyd bod tlodion plwyf Llandwrog yn arddangos y llythrennau breision P a D ar eu dillad ;
- Mae Gwasanaeth Plygain Llanllyfni wedi ei gynnal ers o leiaf 200 o flynyddoedd ;
- Ganrif a hanner yn ôl ceid cloddfa fanganîs lewyrchus ar lethrau Gurn Ddu.