Cartref > Cof y Cwmwd > Ardal y COF
Ardal y COF
Mae Cwmwd Uwchgwyrfai yn cynnwys plwyfi hanesyddol Clynnog Fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda.
Dyma ffiniau’r cwmwd : o aber afon Gwyrfai ar y Foryd ar hyd glannau gorllewinol yr afon hyd at Ryd Ddu, ar hyd Crib Nantlle i Bant-glas, ac o’r ardal honno mewn llinell eitha syth draw am Gwm Coryn, ac wedyn at y môr ar hyd copäon yr Eifl. Mae’n cynnwys yr oll o Ddyffryn Nantlle.
