"Anghofio yw Bradychu"

Cartref > Archif > Cofio/Dathlu

Cofio/Dathlu

Dathlu Gŵyl Owain Glyndŵr A Chofio Llywelyn

Cofio Llywelyn

 

10 Rhagfyr 2021 ar Sŵm

Huw Pryce: Llywelyn Fawr: Tywysog Aberffraw ac Arglwydd Eryri

Darlith gynhwysfawr ar un o’n tywysogion grymusaf a’i gyfnod.

 

9 Rhagfyr 2022 ar Sŵm

“Pen a tharian y Dehau” – Yr Arglwydd Rhys 1132 – 1197:  Dawi Griffiths

Cadeirydd: Geraint Jones

Yn y cyfarfod eleni ymdriniwyd â thywysog amlycaf teyrnas Deheubarth, sef Rhys ap Gruffudd, neu’r Arglwydd Rhys. Edrychwyd ar ei flynyddoedd cynnar cythryblus a’r modd yr enillodd rym yn raddol gan drechu llawer o’r arglwyddi Eingl-Normanaidd a ymsefydlodd ar ffiniau ei deyrnas, gan ddod yn arweinydd grymusaf Cymru wedi marwolaeth Owain Gwynedd ym 1170. Ymdriniwyd yn ogystal â’i nawdd i feirdd a llên a’i haelioni tuag at abatai a lleinadai o fewn ei deyrnas, megis Ystrad Fflur a Thalyllychau.

 

Gŵyl Owain Glyndŵr

 

17 Medi 2021 ar Sŵm

E. Wyn James: Ieuan Gwynedd

Ymdriniaeth â chyfraniad nodedig y dyngarwr a’r gwladgarwr Evan Jones (Ieuan Gwynedd - 1820-1852) ar achlysur cofio dauganmlwyddiant ei eni.

 

16 Medi 2022 ar Sŵm

Cofio Hywel Teifi Edwards: Geraint H. Jenkins

Cadeirydd: Geraint Jones

Agorwyd y tymor gyda darlith gan Geraint H. Jenkins, cyn-gyfarwyddwr y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd, ar gyfraniad nodedig y diweddar Hywel Teifi Edwards. Bu Hywel Teifi yn ddarlithydd cyson yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yn ei blynyddoedd cynnar. Ymdriniodd y darlithydd â’r gwahanol agweddau ar gyfraniad Hywel Teifi i’n hanes a’n llenyddiaeth, yn arbennig ei ddadansoddiadau treiddgar o hanes y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ogystal â hynny, cafwyd golwg ar Hywel Teifi’r dyn a’r cyfeillgarwch a fu rhyngddo ef a’r darlithydd a’i deulu ar hyd y blynyddoedd.

10 Rhagfyr 2020   

Y Prifarddd Ieuan Wyn

Lladd Llywelyn ein Llyw Olaf ac ailystyried sut ac ym mhle. Zoom


11 Rhagfyr 2020    

Geraint Jones

Lladd ein Tywysog a pharhau i ailystyried sut ac ym mhle.  Zoom

13 Medi 2019    

Owain Glyndŵr  – Tywysog Cymru    

Ffilm S4C, 1983 efo J.O. Roberts, John Pierce Jones, Ellen Roger Jones, Sharon Morgan,   David Lyn ac eraill. Y sgript gan Dafydd Huw Williams, Ifor Wyn Williams  a James Hill.

 

13 Rhagfyr 2019    

Cofio Llywelyn: Dafydd Iwan    

Canu Gwladgarol Arwisgiad ’69

14 Medi 2018    

Yr Athro Gruffydd Aled Williams    Glyndŵr yn ei gynefin


14 Rhagfyr 2018    

Cofio Llywelyn:Yr Athro A.D. Carr    

Owain Lawgoch

15 Medi  2017    

Dafydd Glyn Jones    

“Ystyried Lloyd George”


8 Rhagfyr  2017    

Neil Johnstone    

Archaeoleg Llysoedd Llywelyn yng Ngwynedd

16 Medi  2016      

Gŵyl Glyndŵr: E. Gwynn Matthews     

Jac Glan-y-Gors


9 Rhagfyr 2016      

Cofio Llywelyn: Y Prifardd Myrddin ap Dafydd    

Gwrthryfel Llywelyn Bren (1316)

11 Medi 2015    

Gŵyl Glyndŵr: Michael D. Jones a’r Wladfa

Dafydd Tudur
Llywydd: Glory Roberts (o’r Wladfa)


11 Rhag 2015      

Cofio Cilmeri: Craig Owen Jones

Ymateb i lofruddiaeth Llywelyn ein Llyw
Olaf:  Gwrthryfel Madog ap Llywelyn (1294-95)

12 Medi 2014

Dr Rhys Evans, Adran Newyddion BBC Cymru, Caerdydd ac enillydd gwobr Llyfr y Flwyddyn 2006 am ei gofiant i Gwynfor Evans.

Gwynfor Evans.
Llywydd: Dafydd Wigley

 

12 Rhagfyr 2014

Dwy sgwrs: Geraint Lloyd Owen a’r Prifardd Ieuan Wyn

Gerallt a Chilmeri

12 Medi 2013

Christine James, Archdderwydd  newydd Cymru

Agwedd ar Gyfraith Hywel


11 Rhagfyr 2013    

Tecwyn Ifan ac Eryl Owain

Cofio Llywelyn

14 Medi 2012    

Gŵyl Glyndŵr

Dafydd Glyn Jones

Emrys ap Iwan a’i bamffled enwog Breuddwyd Pabydd wrth ei Ewyllys, sef gweledigaeth ddychanol y cenedlaetholwr mawr ym 1890 o Cymru 2012.
Ailgyhoeddwyd y gwaith hwn yn ddiweddar gan wasg Dalen Newydd yn y gyfres “Cyfrolau Cenedl”, ac yn ei ddull dihafal cawsom ragflas hefyd gan Dafydd Glyn Jones o’i fenter a’i weledigaeth yntau yn sefydlu’r wasg hollol arbennig hon.

 

11 Rhagfyr  2012

Cofio Llywelyn.

Awr o ddathlu gwladgarol Cymreig gan aelodau o’r Ganolfan hon. Lluniwyd y sgript gan Geraint Jones a’r Prifardd Ieuan Wyn. Cyflwynwyd dehongliadau o gerddi enwog a detholiadau o ryddiaith glasurol.

16 Medi 2011

Owain Glyndŵr: Arwr Cymru    

Nia Watkin Powell


10 Rhagfyr 2011 11-12 o’r gloch y bore    

Awr o ddathlu gwladgarol Cymreig

Lluniwyd y sgript gan Geraint Jones a’r Prifardd Ieuan Wyn. Cyflwynwyd dehongliadau o gerddi enwog a detholiadau o ryddiaith glasurol.