"Anghofio yw Bradychu"

Cartref > Amdanom > Cenhadaeth

Cenhadaeth

  • Ein cenhadaeth ni yw goleuo ein pobl yn eu GWIR HANES, a thrwy hynny rhoi hyder iddynt o’r newydd i fod yn falch o’u treftadaeth ac yn awyddus i ymdrechu i gadw ‘i’r oesoedd a ddêl y glendid a fu’.

  • Sefydlwyd y Ganolfan i wrthsefyll dylanwadau estron sy’n tanseilio hunaniaeth ein cenedl yn ieithyddol, yn ddiwylliannol, yn seicolegol ac yn wleidyddol. Canlyniad y dadwreiddio a’r estroneiddio hyn yw difa’n Cymreictod trwy ein cael i anghofio pwy ydym ac o ble y daethom.

  • Costrelu hanes  Cwmwd Uwchgwyrfai, yn bennaf trwy gyfrwng ein Wici Cymraeg, Cof y Cwmwd, sydd ar hyn o bryd (2022) yn cynnwys dros 1,500 o ysgrifau gwybodaeth/dehongli.

  • Ymgyrchu’n drwyadl a chyson i wrthwynebu popeth sydd yn peryglu arwahanrwydd ein hanes a’n hunaniaeth.

Crynhoir y cyfan yn arwyddair Canolfan Hanes Uwchgwyrfai :

‘Anghofio yw Bradychu’.