"Anghofio yw Bradychu"

Cartref > Archif > Cyfarfodydd

Cyfarfodydd

Nos Wener 22 Tachwedd yn yr Ysgoldy

Gardd Morgannwg: Huw Dylan Owen

Cadeirydd: Jina Gwyrfai

Hanes y cyfnewidiadau enfawr a welwyd dros saith canrif a mwy yn hanes darn o dir ar gyrion Abertawe a gafwyd yn y ddarlith ddifyr a dadlennol hon gan Huw Dylan Owen. Am ganrifoedd bu Gardd Morgannwg yn dir hynod ffrwythlon gyda phlas Llys Newydd yn ganolbwynt iddo. Bu’r teulu yno am genedlaethau yn noddwyr beirdd o fri a hyd yn oed yn y ddeunawfed ganrif roedd yn dal y dŷ bonedd er bod y rheini’n Seisnigo erbyn hynny. Ond yna daeth y chwyldro diwydiannol gan lygru a difetha’r tir. Diflannodd yr hen lys ymhen tipyn dan domen slag a’r caeau o dan y Llansamlet Arsenic Works a’r Llansamlet Spelter Works. Erbyn hyn, fodd bynnag, machludodd oes y diwydiannau trymion hwythau hefyd, cliriwyd a glanhawyd y tir ac yno bellach ceir archfarchnad Morrisons a siopau mawrion eraill, gyda Stadiwm Swansea.com yn ymgodi gyferbyn â hwy.


Nos Wener 25 Hydref yn yr Ysgoldy

Cymry Glannau Mersi: Gari Wyn

Cadeirydd: Dawi Griffiths

Cafwyd cyflwyniad amrywiol a diddorol gan Gari Wyn ar y gymdeithas Gymraeg sylweddol a ffynnai gynt ar lannau Mersi – pwnc y mae wedi ymdrwytho ynddo gan arwain nifer o deithiau i Lerpwl a’r cyffiniau dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd yn destun na ellid ei gofleidio yn ei gyfanrwydd mewn un ddarlith ond cafwyd golwg ar y bwrlwm Cymreig, yn grefyddol, diwylliannol a masnachol a ffynnai yn Lerpwl, yn arbennig yn oes aur y Cymry yno yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Ymdriniodd y darlithydd â rhai o arweinwyr amlycaf y Cymry yno – yn weinidogion, blaenoriaid, masnachwyr, adeiladwyr ac argraffwyr, ac i gyd-fynd â’i sylwadau roedd ganddo nifer helaeth o luniau o gapeli urddasol, busnesau cyhoeddi ac argraffu, cofebau a cherrig beddau, ynghyd â rhai o’r strydoedd niferus a godwyd gan yr adeiladwyr Cymreig, a dystiai i hyder, dycnwch a chyfoeth ein cydwladwyr gynt ym ‘mhrifddinas Gogledd Cymru’.


Nos Wener 26 Ebrill yn yr Ysgoldy

Brwydr y Gwir a’r Gau: Gareth Jones a’i Deithiau yn Rwsia a Tsieina – Bob Morris

Cadeirydd: Sarah Roberts

Pleser oedd cael croesawu Bob Morris i ddarlithio i’r Ganolfan unwaith yn rhagor. Y tro hwn cafwyd ganddo hanes yr ieithydd disglair a’r newyddiadurwr eofn, Gareth Jones (1905-1935). Yn enedigol o’r Barri, graddiodd Gareth Jones gydag anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg, Almaeneg a Rwsieg o Goleg y Brifysgol, Aberystwyth ac o Goleg y Drindod Caergrawnt. Ymunodd â staff y Western Mail ym 1933 a’r flwyddyn ganlynol cychwynnodd ar daith o amgylch y byd. Anfonodd adroddiadau am y newyn enbyd a oedd yn yr Wcrain bryd hynny oherwydd polisïau annynol Stalin. Erbyn 1935 roedd yn Tsieina lle cafodd ei lofruddio gan ladron a herwyr yng nghanolbarth Mongolia ar 12 Awst y flwyddyn honno. I gyd-fynd â’i sgwrs ar y gŵr nodedig hwn roedd gan y darlithydd amrywiaeth helaeth o luniau a mapiau a oedd yn ychwanegu’n sylweddol at y traethiad.


Nos Wener 22 Mawrth yn yr Ysgoldy

Helynt Eglwys Rydd y Cymry: Geraint Tudur

Cadeirydd: Geraint Jones

Cafwyd darlith eithriadol ddiddorol, a chyffrous yn wir ar adegau, gan y Parch. Ddr. Geraint Tudur ar yr helynt mawr a rwygodd gyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl ar droad yr ugeinfed ganrif pan ddygwyd cyhuddiadau o feddw-dod ac anlladrwydd yn erbyn y Parch. W.O. Jones, gweinidog eglwys lewyrchus Chatham Street. Mae’r hanes fel stori dditectif a chlywyd am y cynllwynio a’r tynnu llinynnau a fu i bardduo’r gweinidog anffodus a’r ymgiprys am oruchafiaeth a bri a welid ymhlith arweinwyr crefyddol Lerpwl ar y pryd a’r awydd mawr mewn capeli o’r un enwad i ragori ar eu cymheiriaid. Y canlyniad fu dyrnod hegar iawn i rym yr Hen Gorff yn y ddinas gyda W.O. Jones a’i gannoedd dilynwyr yn torri eu cwys eu hunain gan sefydlu Eglwys Rydd y Cymry a fu’n sefydliad o bwys yn Lerpwl am oddeutu ugain mlynedd.


Nos Wener 23 Chwefror yn yr Ysgoldy

T.H. Parry-Williams: Y blynyddoedd cynnar: Angharad Price

Cadeirydd: Dawi Griffiths
Cafwyd sgwrs ddifyr a sylweddol gan Yr Athro Angharad Price ar gyfnod cynnar T.H. Parry-Williams, pwnc y mae wedi ymchwilio’n helaeth iddo a’i groniclo yn ei chyfrol Ffarwél i Freiburg. Yn dilyn ymdriniaeth fer â bachgendod T.H.P-W. yn Rhyd-ddu a’i ddyddiau ysgol ym Mhorthmadog, aeth y darlithydd ymlaen i edrych yn fanylach ar ei gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Freiburg yn yr Almaen a’r flwyddyn a dreuliodd wedyn ym Mharis ar drothwy’r Rhyfel Byd Cyntaf. Bu’n sôn am y modd y dylanwadodd yr athronwyr, arlunwyr ac ysgolheigion y daeth i gysylltiad â hwy ar y cyfandir ar waith cynnar T.H.P-W., gan ddefnyddio dyfyniadau addas i egluro hynny. Bu ei gyfnod ar y cyfandir yn fodd i ‘foderneiddio’ ei waith yn sylweddol gan arwain, ymysg gweithiau eraill, at awdl fentrus ‘Y Ddinas’, a enillodd iddo gadair Eisteddfod Genedlaethol Bangor ym 1915. I gyd-fynd â’r ddarlith cafwyd nifer o luniau o rai o’r mannau cysylltiedig â’i gyfnod ar y cyfandir.


Nos Wener 26 Ionawr ar Sŵm

Brwydr y Preselau : Hefin Wyn

Cadeirydd: Dawi Griffiths
I ddechrau 2024 pleser oedd cael croesawu Hefin Wyn o Sir Benfro i roi sgwrs ar y frwydr a fu rhwng 1946 a 1948 i amddiffyn bro’r Preselau rhag cael ei meddiannu’n faes ymarfer brwydro gan y fyddin Brydeinig. Ac yntau’n un o’r ardal ac wedi ymchwilio’n sylweddol i’r hanes a chyhoeddi llyfr ar y pwnc, Hefin Wyn oedd yr un delfrydol i draethu ar yr hanes pwysig hwn. Yn wahanol i sawl ymgyrch a brwydr arall yn hanes ein cenedl, diweddodd hon mewn buddugoliaeth i ardalwyr y Preselau a ‘gadwodd y mur rhag y bwystfil a’r ffynnon rhag y baw’. Rhoddodd y darlithydd beth o hanes cefndirol y fro (ynghyd â lluniau rhagorol o dirwedd drawiadol y Preselau) cyn mynd ati i ymhelaethu ar yr ymdrech i gadw palfau’r fyddin oddi ar y tir a hanes y rhai a chwaraeodd ran flaenllaw yn y frwydr i ddiogelu eu bro. Da deall bod yr achlysur yn dal i gael ei gofio gyda theithiau cerdded a digwyddiadau eraill dri chwarter canrif yn ddiweddarach.

Nos Wener 24 Tachwedd yn yr Ysgoldy

Y ddau Syr Love (1) : John Dilwyn Williams

Cadeirydd: Geraint Jones
Pleser oedd cael croesawu John Dilwyn Williams i ddarlithio unwaith eto yn y Ganolfan. Ei fwriad oedd traethu ar ddau o sgweieriaid Stad Madryn yn Llŷn – y tad a’r mab – ond cymaint oedd y deunydd a oedd ar gael fel y penderfynodd gyfyngu’r ddarlith gyntaf i ymdrin â’r tad yn unig – Syr Love Parry Jones-Parry (1781-1853) – ‘yr hen Syr Love’.  Cafwyd ymdriniaeth sylweddol â datblygiad y teulu a’r stad dros nifer o genedlaethau a dangoswyd lluniau o bortreadau nifer ohonynt. Yna manylwyd ar yr ‘hen Syr Love’ a’r ddeuoliaeth a berthynai i’w gymeriad. Er ei addysgu yn Ysgol Westminster a Phrifysgol Rhydychen a phrynu comisiwn yn y fyddin a throi ymysg boneddigion ei gyfnod mewn mannau fel Bath a Weymouth, eto gartref yn Llŷn roedd yn ymwneud cryn dipyn â’i denantiaid (ac yn wahanol i’r rhelyw o’i ddosbarth siaradai Gymraeg digon ystwyth) ac yn uchel ei barch yn eu mysg. Ymddiddorai hefyd mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg ac roedd yn mynychu eisteddfodau ei gyfnod yn gyson. Bwriedir ymdrin â’i fab Syr Thomas Love Duncombe Jones-Parry (1832-91) yn y ddarlith nesaf.


Nos Wener 27 Hydref yn yr Ysgoldy

Parodïau D. Tecwyn Lloyd : Peredur Lynch

Cadeirydd: Dawi Griffiths

Croesawyd Yr Athro Peredur Lynch i’r Ganolfan unwaith yn rhagor, y tro hwn i draethu ar faes a oedd yn un pur ddieithr i lawer, sef parodïau y diweddar D. Tecwyn Lloyd, o Lawr y Betws ym Meirionnydd. Mae Tecwyn Lloyd yn adnabyddus fel cofiannydd ac ysgrifwr medrus, ond diddorol oedd clywed am y wedd neilltuol hon i’w weithgaredd llenyddol. Dangosodd y darlithydd nifer o enghreifftiau o’i barodïau amrywiol gan roi sylw i’w cefndir, eu crefft a’u miniogrwydd yn aml. Roedd dynwarediadau Tecwyn Lloyd o farddoniaeth goncrit y 60au a’r 70au (a oedd yn anathema iddo) yn hynod ddoniol a hefyd ei feiddgarwch yn creu ffug-awduron, gan fynd cyn belled â llunio coffâd i un ohonynt.


Nos Wener 28 Ebrill yn yr Ysgoldy

Llên Gwerin Bangor a’r Cyffiniau : Howard Huws

Cadeirydd: Dawi Griffiths

Daeth Howard Huws atom i rannu peth o ffrwyth ei ymchwil helaeth i’r maes uchod, gwaith a arweiniodd at gyhoeddi cyfrol sylweddol ganddo yn 2022. Mae hon yn ddi-os yn gyfraniad pwysig iawn at astudiaethau yn y maes hwn. Bu’n sôn i ddechrau sut y tyfodd dinas Bangor yn gyflym yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda dyfodiad y rheilffordd yn arbennig, gyda llawer o bobl o’r ardaloedd cyfagos yn ymgartrefu yno gan ddod â’u dywediadau a’u coelion i’w canlyn. Cawsom flas ar rai o lys-enwau Bangor a’r cyffiniau, rhai ohonynt yn bur amharchus, gydag eglurhad ar darddiad rhai ohonynt. Yn ogystal bu’r darlithydd yn sôn am rai coelion ac ofergoelion nodedig, ynghyd â meddyginiaethau gwerin – rhai ohonynt yn bur effeithiol ac eraill yn llwyr fel arall. Mentrwyd i’r byd ysbrydol hefyd gyda straeon am drychiolaethau a bwganod a welwyd mewn rhai rhannau o Fangor a’r cyffiniau.


Nos Wener 31 Mawrth ar Sŵm

Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24 a chysylltiadau â sir Gaernarfon : Catrin Stevens  

Cadeirydd: Sarah Roberts

Croesawyd Catrin Stevens atom i draddodi darlith ddiddorol a hynod amserol ar y pwnc uchod. Rhannodd ffrwyth yr ymchwil sylweddol y mae wedi ei gwneud i’r ddeiseb bwysig hon a’i chefndir, ganrif union wedi’r gwaith llafurus o gasglu enwau bron i 400,000 o ferched Cymru arni (sef tua 60% o ferched y wlad ar y pryd).  Eglurodd y cefndir tu ôl i ddechrau’r ddeiseb, bum mlynedd wedi diwedd erchylltra’r Rhyfel Mawr – cyflafan yr oedd llawer o’r merched â’i llofnododd wedi colli anwyliaid ynddo.  Cafwyd gwybodaeth ddiddorol am beirianwaith trefnu’r ddeiseb a bywgraffiadau rhai o’r arweinwyr a oedd y tu ôl iddi – gan sôn yn neilltuol am rai o’r trefnwyr lleol yn Sir Gaernarfon. Cludwyd y ddeiseb – a oedd yn 7 milltir o hyd – dros yr Iwerydd wedyn i America mewn cist bren, gyda’r ddirprwyaeth o bedair yn cyfarfod â’r Arlywydd Coolidge i’w chyflwyno iddo ar ran merched Cymru. Erbyn hyn, wedi canrif oddi cartref yn Amgueddfa Smithsonian yn Washington, mae’r ddeiseb ar ei ffordd yn ôl i Gymru lle bydd yn cael ei harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol a diddorol oedd clywed am y gwahanol ddigwyddiadau fydd yn gysylltiedig â’i chroesawu’n ôl.


Nos Wener 24 Chwefror yn yr Ysgoldy

Bywyd a chymdeithas yn Uwchgwyrfai yn yr ail ganrif ar bymtheg: Gareth Haulfryn Williams

Cadeirydd: Dawi Griffiths

Cafwyd darlith gynhwysfawr ar y pwnc uchod gan Gareth Haulfryn Williams, cyn-bennaeth gwasanaeth archifau Gwynedd. Ymdriniodd ag ystod eang o feysydd megis haenau cymdeithasol a’u cysylltiadau â’i gilydd; ffyrdd a thrafnidiaeth; amaethyddiaeth a diwydiannau gwledig. Edrychodd yn ogystal ar ddiwylliant a chrefydd y cyfnod a’r darpariaethau addysg prin a oedd ar gael yn y cwmwd. Maes arall a ddaeth dan sylw oedd cyflwr iechyd y trigolion a’r cyfleusterau meddygol cyntefig a fodolai bryd hynny.  I egluro ei osodiadau, cyfeiriodd y darlithydd at nifer o enghreifftiau penodol o’r cwmwd a oedd yn ddrych i’r hyn a ddigwyddai yn y gymdeithas yn ehangach.


Nos Wener 27 Ionawr ar Sŵm

Ewyllysiau Cymraeg: Gerald Morgan

Cadeirydd: Dawi Griffiths

Croesawyd yr athro, yr hanesydd a’r awdur diwyd o Aberystwyth, Gerald Morgan, atom i draddodi darlith gyntaf 2023. Rhannodd â ni ffrwyth ei ymchwil faith i faes ewyllysiau a luniwyd yn y Gymraeg, ac a gyhoeddwyd ganddo yn y gyfrol Ewyllysiau Cymraeg: Pennod Goll yn Hanes yr Iaith. Ymdriniodd â’r modd yr aeth ati i gasglu’r wybodaeth ynghyd a sut yr hwyluswyd hynny gan y dechnoleg ddiweddaraf. Bu’n sôn am rai ewyllysiau a rhestrau eiddo penodol o ddiddordeb arbennig o blith yr ychydig dros fil o ewyllysiau Cymraeg a gadwyd o ganol yr unfed ganrif ar bymtheg i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Diddorol oedd sylwi fel y cynyddodd eu nifer gyda chynnydd llythrennedd yn dilyn sefydlu ysgolion cylchynol Griffith Jones a dyfodiad yr ysgolion Sul.

24 Tachwedd yn yr Ysgoldy

Y Cymry Cynnar ym Moroedd y De: Wil Aaron

Cadeirydd: John Dilwyn Williams

Yn y ddarlith hon ymdriniodd y darlithydd â hanes cythryblus y cenhadon Cymreig cyntaf a fentrodd i ynysoedd Môr y De fel rhan o genhadaeth Cymdeithas Genhadol Llundain yn niwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Manylodd ar hanes pedwar o’r Cymry a anfonwyd i ynys Tahiti ac enbydrwydd y sefyllfa a’r dasg a’u hwynebai, nid yn unig oherwydd brodorion gelyniaethus ond hefyd oherwydd agwedd drahaus a hiliol eu cyd-genhadon Seisnig tuag atynt. Edrychir ymlaen at weld cyhoeddi’r hanes pwysig hwn gan y darlithydd maes o law.

28 Hydref yn yr Ysgoldy

Ffrae Eisteddfodol: Cybi a Helynt Eisteddfod Cricieth: Alun Jones

Cadeirydd: Dawi Griffiths
Testun y ddarlith hon oedd y ffrae enbyd a dorrodd allan rhwng Cybi (Robert Evans) ac Eifion Wyn ar ôl eisteddfod Cricieth ym 1911 pan wrthododd Eifion Wyn wobrwyo pryddest hirfaith Cybi, gan ei chollfarnu’n hallt. Ac yntau’n credu’n sicr ei fod yn fuddugol, aeth Cybi’n benwan a’r canlyniad fu gohebu maith am fisoedd lawer mewn gwahanol bapurau newydd. Yn ogystal â chael golwg ar gymeriad y ddau ffigwr canolog yn y ddrama, fel petae, codwyd cwr y llen hefyd ar holl gythraul eisteddfota’r cyfnod – byd diflanedig erbyn hyn.

30 Medi yn yr Ysgoldy

Y cwlwm sy’n creu: cyfoeth Diwylliant Gwerin Cymru: Robin Gwyndaf

Cadeirydd: Dawi Griffiths
Hyfryd oedd cael croesawu cynulleidfa’n ôl i’r Ysgoldy am y tro cyntaf wedi helbulon maith y Cofid, a chroesawu Robin Gwyndaf, a oedd wedi teithio o Gaerdydd i’n hannerch. Ymdriniodd ag amryfal haenau ein diwylliant gwerin amrywiol a chyfoethog. Cafwyd nifer o straeon gwerin o wahanol rannau o Gymru, gan sylwi ar y modd y mae’r un math o storïau yn ymddangos mewn ardaloedd pur bell oddi wrth ei gilydd, ac yn wir yn croesi ffiniau gwledydd. Ac yntau wedi treulio ei oes waith yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, bu’r darlithydd yn ymdrin hefyd â’r adnoddau sydd yn yr Amgueddfa a’r gwaith hollbwysig a gyflawnwyd dros y blynyddoedd – ac sy’n parhau – i gofnodi a recordio gwahanol agweddau ar ein diwylliant gwerin cyn iddo fynd yn angof.

29 Ebrill 2022 – Rhiannon Ifans: Carolau Mai – Sŵm

25 Mawrth 2022 – Haydn Edwards: Griffith Davies FRS – Sŵm

25 Chwefror 2022 – Howard Huws: H.M. Stanley – Sŵm

  • 29 Ionawr 2021 -  J. Elwyn Hughes:  Hiwmor Dyffryn Ogwen Zoom
  • 26 Chwefror 2021 -  Meilyr Emrys: Chwaraeon, crefydd, parchusrwydd a hunaniaeth yng nghymunedau chwarelyddol Gwynedd 1884-1920.  Zoom
  • 26 Mawrth 2021 - Deri Tomos: Gwyddonwyr Gwynedd Zoom
  • 30 Ebrill 2021 -  Lowri Angharad Hughes: O.M. Edwards yr hanesydd Zoom   
  • 24 Medi 2021 – Gruffydd Jones: Y Gwir am Betsi Cadwaladr - Sŵm
  • 29 Hydref 2021 – Lowri Cunnington Wynn: Allfudiaeth pobl ifanc o’r Bröydd Cymraeg  - Sŵm
  • 26 Tachwedd 2021 – Rhian Parry: Hanes Mân Enwau – Sŵm
  • 28 Medi 2019 - Ni chafwyd y cyfarfod arferol..
  • 18 Hydref 2019 - Yng nghwmni Arfon a Sioned Gwilym a Mair Tomos Ifans  - Canmlwyddiant geni Merêd
  • 29 Tachwedd 2019 -  Angharad Tomos    David Thomas: hanesydd a radical
  • 28 Chwefror 2020 -   Robat Idris    Brwydr Wylfa B

    Gohiriwyd y cyfarfodydd am weddill y flwyddyn oherwydd Covid-19, ac eithrio Cofio Llywelyn yn Rhagfyr, (Zoom)   

  • 28 Medi 2018   -    Ni chafwyd y cyfarfod arferol
  • 27 Hydref 2018 -   Dominig Kervégant    Llydaw a Chymru
  • 30 Tachweddd 2018  -  Bob Morris    Y Ddrama a’i Phobol yng Nghymru
  • 22 Chwefror 2019 -   Wyn Thomas    Gwaddol Cerddorol y Coleg ar y Bryn
  • 29 Mawrth 2019 -   Rhys Mwyn    Archaeoleg a’r Gymraeg
  • 26 Ebrill 2019  -  Sara Elin Roberts    Hywel Dda a’i Gyfraith
  • 29 Medi 2017  -  Dei Tomos    Cyflwyno Dyffryn Gwyrfai
  • 27 Hydref 2017  -  Llion Jones    Ar Daith gydag ef ei hun. Golwg ar ddyddiaduron taith T.H. Parry-Williams
  • 24 Tachwedd 2017  -  Wyn Thomas    Gwragedd ym myd cerddoriaeth Cymru
  • 23 Chwefror 2018  -  W. Gwyn Lewis    Clybio yng Nghaernarfon: Anthropos a Chlwb Awen a Chân
  • 23 Mawrth 2018  -  Yr Athro Peredur Lynch    Gwyddel yn y Dref
  • 27 Ebrill 2018  -  Gari Wyn    Dylanwad y Gwyneddigion
  • 30 Medi 2016  -   Karen Owen     Cyflwyno Bro Dyffryn Nantlle
  • 28 Hydref 2016   -    Helen Williams Ellis, Glasfryn    Catrin o Ferain
  • 25 Tachwedd 2016  -  Dr Iwan Edgar    William Salesbury
  • 24 Chwefror 2017   -  Lefi Gruffudd    Hanner Canmlwyddiant Gwasg y Lolfa
  • 31 Mawrth 2017  -  Vivian Parry Williams    Elis o’r Nant, Cynrychiolydd y Werin, y cymeriad hynod o ardal Dolwyddelan yn Eryri
  • 28 Ebrill  2017  -   Eryl Owain Mynydda yng Nghymru.  Yn ddiweddar cyhoeddwyd Copaon Cymru, cyfrol ysblennydd Clwb Mynydda Cymru, dan olygyddiaeth y siaradwr
  • 30 Medi 2015    -   Dafydd Whiteside Thomas    Oddeutu Afon Saint
  • 28 Hydref 2015  -  Branwen Jarvis    Cyfenwau Cymreig
  • 25 Tachwedd 2015  -  Gwenan Gibbard    Cyflwyniad o ganeuon gwerin.
  • 26 Chwefror  2016  -   William Owen, Borth-y-Gest    Llew Llwydiarth Y Llew Frenin
  • 18 Mawrth 2016  -  Dr. Robyn Lewis             Merched, Llenyddiaeth a’r Gyfraith                                                         
  • 29 Ebrill 2016  -  Wil Aaron         Poeri i lygad yr eliffant.  Stori antur y Mormoniaid Cymreig dewr a di-ildio a groesodd America i Ddinas y Llyn Halen gan wynebu ofn, cynnwrf a thorcalon ar hyd y daith.
  • 24 Medi 2014 -   Y Prifardd Cen Williams     Cyflwyno’r Fro O Landegfan i Lanfair.Llywydd: Y Cynghorydd Lewis Davies, Ynys Môn.
  • 29 Hydref 2014 -  Dr Huw John Huws    Thomas Charles o’r Bala, yr addysgwr  (1755-1814)
  • 26 Tachwedd 2014    Bedwyr Rees, Cwmni Rondo Media    Trysorfa o Enwau Arfordir Môn
  • 25 Chwefror 2015       Eifion Glyn    Newyddiaduraeth Cymru
  • 25 Mawrth 2015       Tegwyn Jones    Tribannau
  • 29 Ebrill 2015    Vivian Parry Williams    Nafis Dolwyddelan
  • 25 Medi 2013    Elfed Gruffudd, Pwllheli    Cyfres Cyflwyno Bro:    Gwlad Llŷn
  • 30 Hydref 2013    Dafydd Islwyn, Caerffili    Tanchwa Senghennydd 1913
  • 27 Tachwedd 2013    Y Prifardd Ieuan Wyn    R Williams Parry yn Nyffryn Ogwen Cynhyrchwyd cryno-ddisg o’r ddarlith ddifyr a dadlennol hon.
  • 26 Chwefror  2014         Dr Geraint Tudur        Dyddiaduron Howel Harris. Darlith ar achlysur trichanmlwyddiant geni Howel Harris (1714-1773), un o arloeswyr y Diwygiad Methodistaidd, un a ddenai ddeng mil o wrandawyr, ac un y teflid tyweirch a cherrig a baw ato weithiau i’w rwystro rhag pregethu.  Yn ôl yr hanes bu ugain mil (20,000) o bobl yn ei angladd yn Nhalgarth yn 1773. Gwasanaeth hollol fud ydoedd gan fod y gwŷr eglwysig dan ormod o deimlad i fedru torri yr un gair.
  • 26 Mawrth 2014    Wil Aaron     Cyflwyno’r glasur o ffilm: Tir na n-Og.
  • 30 Ebrill 2014    Geraint Jones    John Preis. Roedd llyfr anfarwol Geraint Jones am y crwydryn anfarwol ar werth (£10).  Oherwydd poblogrwydd y testun a’r siaradwr trefnwyd y cyfarfod hwn yn Neuadd Bentref Trefor, a oedd yn orlawn y noson hon. Llywyddwyd gan Emlyn Richards.
  • 28 Medi 2012      J. Dilwyn Williams     Cyfres Cyflwyno Bro: Hen Dref Pwllheli’ Y noson hon cyhoeddwyd cryno-ddisg “Hanes Stad Weirglodd Fawr / Broom Hall” gan J. Dilwyn Williams
  • 31 Hydref  2012     Harri a Nan Parri    Rhys Hendra Bach.  Y noson hon cyflwynwyd cryno-ddisg newydd: “Portreadau” gan Harri Parri, yn cynnwys Rhys Hendra Bach, Wili Bodwyddog, Siôn Gwerthyr, Henry Hughes Bryncir, Tom Nefyn, a llawer, llawer mwy o bobl ddiddorol eraill
  • 28 Tachwedd 2012     Stephen Rees    Hen Alawon yng nghwmni yr offerynnwr medrus fu’n aelod o Ar Lôg ac sydd yn awr yn ddarlithydd yn Adran Gerddoriaeth Prifysgol Bangor.
  • 27 Chwefror 2013    Rhaglen amrywiol ar Eben Fardd a fu farw 150 mlynedd yn ôl. Dawi Griffiths, J. Dilwyn Williams, Diane Jones, Huw J. Jones, Sarah Roberts, Geraint Jones a Twm Elias,     Bardd enwog, beirniad cenedlaethol, ysgolfeistr yng Nghlynnog, postfeistr, hanesydd lleol, emynydd, cyfieithydd, llythyrwr, cerddwr, arwr i lawer a dyddiadurwr anghyffredin o werthfawr.
  • 27 Mawrth 2013   Arwel Jones (Hogia’r Wyddfa):       Cythraul y Bêl Gron.Cynhyrchwyd cryno-ddisg o’r un enw o’r sgwrs feistrolgar a hwyliog hon.
  • 28 Medi 2011     Dr J. Elwyn Hughes    Cyflwyno Bro Dyffryn Ogwen
  • 26 Hydref 2011     Dr Glenda Carr    Enwau Lleoedd yr Ardal  
  • 31 Tachwedd 2011    Bleddyn Owen Huws    Carneddog (1861 – 1947)
  • 28 Chwefror  2012    Geraint Jones (hefyd gweler Arddangosfeydd)    Moto Coch    Eleni dathlwyd canmlwyddiant sefydlu un o gwmnïau bysus enwocaf Cymru, Clynnog & Trefor (Moto Coch) ac adroddodd  Geraint Jones ei hanes trwy gymorth canrif o luniau gan gofio rhai o gymeriadau rhyfeddol y sefydliad unigryw hwn.
  • 28 Mawrth 2012    Wil Aaron a’r Dr Meredydd Evans yn cyflwyno a thrafod yr hen ffilm arloesol hon a Merêd ei hun yn chwarae rhan amlwg ynddi gydag enwogion fel Bob Tai’r Felin, y Co Bach a Thriawd y Coleg    Yr hen ffilm Noson Lawen
  • 25 Ebrill  2012          Delyth a Cynog Prys (merch ac ŵyr Trefor ac Eileen Beasley). Yr oedd Mrs Eileen Beasley hefyd yn bresennol. Cyflwynwyd englynion gorchestol iddi gan y Prifardd Ieuan Wyn ei hun.     Brwydr y Teulu Beasley Cofio brwydr arloesol ac aberthol Trefor ac Eileen Beasley dros y Gymraeg hanner canrif a rhagor yn ôl a dathlu hanner canmlwyddiant darlith radio fawr    Saunders Lewis, “Tynged yr Iaith”.
  • 29 Medi 2010     Cledwyn Jones, un o aelodau Triawd y Coleg Hefyd cyhoeddwyd llyfr gan Aelwen Roberts ar hanes Mary King Sarah.      Triawd y Coleg
  • 27 Hydref 2010     Hafina Clwyd Hefyd cyhoeddwyd,  yn berthnasol i’r testun, lyfr gan Marian Elias Roberts ar hanes Teulu Tan-y-clawdd..     Hel Achau Ardaloedd Sgwrs gan yr awdures a’r newyddiadurwraig ar bwnc cynyddol boblogaidd
  • 24 Tachwedd 2010 Geraint Jones ac Ifan Glyn Jones yn cyflwyno c.dd. newydd     Hen Gantorion Dyffryn Nantlle
  • 23 Chwefror 2011    Wil Aaron Hefyd Evie Wyn Jones    Llythyr o Gymru (Sgript: John Gwilym Jones) - Hen Ffilm a ddangosid mewn darlundai yn y 1950au i gyd-fynd â’r brif ffilm Plant ysgol Llandwrog oedd yn cymryd rhan a’r prif gymeriad oedd Evie Wyn Jones. Dangoswyd ffilm arall gan Wil Aaron ar yr un testun yn y gyfres boblogaidd Almanac.
  • 30 Mawrth 2011     Dr Anne Elizabeth Williams Bethan Wyn Jones    Meddyginiaethau Gwerin a gasglwyd ganddi dros Amgueddfa Werin Cymru Llysiau meddyginiaethol.
  • 27 Ebrill 2011    Geraint Jones, Gareth Williams (Gareth Neigwl), Morgan Jones, Robyn Lewis ac Alwyn Pritchard, yn ymdrin ag R.S. Thomas, y gwladgarwr tanbaid a digyfaddawd. Hefyd gwelwyd ffilmiau unigryw o anerchiadau dadleuol ac ymfflamychol y bardd ym Mhenyberth 1986 ac yn Eisteddfod Bro Madog 1987.  Noson hwyliog a gwladgarol.    R.S. Thomas – Gwladgarwr
  • 30 Medi 2009    Arfon Gwilym a Sioned Webb    Canu’r Cymry
  • 21 Hydref 2009     Y Prifardd Ieuan Wyn yn cyflwyno’r gyfrol Epil Gwiberod yr Iwnion Jac (Geraint Jones) sef casgliad o ysgrifau’r golofn boblogaidd Sêt y Gornel a gyhoeddid yn wythnosol  yn Y Cymro yn ystod 2005/6.  Cyhoeddwyr:   Gwasg y Bwthyn. Llywyddwyd gan Geraint Lloyd Owen.       Hefyd cafwyd Pantorliwt:  cyflwyniad crafog gan rai o aelodau’r Ganolfan: Gwiberod Windsor.  
  • 20 Tachwedd 2009    Noson cyhoeddi Hunangofiant Malcolm Allen gan Geraint Jones. Cyhoeddwyr: Gwasg y Lolfa.    Yng Nghlwb Rygbi Caernarfon. Cyflwynwyd holl elw gwerthiant y noson i goffrau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.
  • 25 Tachwedd 2009    Wil Aaron yn cyflwyno ac yn dangos y ffilm Y Ddau Frawd (o’i gyfres deledu boblogaidd, Almanac)    Clasur o ffilm gan Wil Aaron. Ysgrifennwyd y sgript gan W.S. Jones am y ddau frawd hynod o’r Galltraeth yn Llŷn.  Cawsant ffrae mor ddifrifol nes treulio blynyddoedd heb dorri gair â’i gilydd, er eu bod yn byw yn yr un tŷ ac yn addoli yn yr un capel – am gyfnod hwy ill dau oedd yr unig aelodau – Griffith Jones yn y sêt fawr a Watkin Jones yn y sêt agosaf at y drws yng nghefn y capel, ond âi’r gwasanaeth rhagddo yn union fel pe bai’r capel yn llawn.
  • 24 Chwefror 2010     Sian Teifi    Mary, Sali a Fi - Sgwrs  am yr awdures Mary Wyn Jones, a Sali Mali ei llyfr poblogaidd i blant. Anelwyd y sgwrs at oedolion ac roedd yn cynnwys pytiau o ffilm. Yn glo i’r noson cyhoeddwyd Ellyll Hyll a Ballu gan Mary Hughes (chwedlau lleol i blant) ac fe’i cyflwynwyd gan Anwen Roberts, Prifysgol Bangor.
  • 31 Mawrth 2010      Dr Goronwy Wynne,  y gwyddonydd a’r cerddor  yn ymdrin â gwahanol agweddau ar draddodiad plygain cyfoethog Cymru.    Y Traddodiad Plygain  
  • 28 Ebrill 2010    Emlyn Richards    Mae ddoe wedi mynd
  • 28 Mehefin 2008 – i’r teulu
  • 29 Mehefin i’r cyhoedd. Geraint Jones yn cyhoeddi CD Cantorion Bro’r Eifl    Gwrandawyd ar yr holl gynnwys o’i gwr a chafwyd lluniau PowerPoint a sylwadau perthnasol ar y cantorion a’r caneuon gan Geraint Jones. Mae’r recordiadau fel ag y’u cafwyd (mwy neu lai).  Mae’n galondid eu bod bellach ar gof a chadw i bawb fel y cadwer i’r oesoedd a ddêl beth o’r glendid a fu a hynny yn y Gymru ryfedd hon sy’n gynyddol ddibris o’i hetifeddiaeth a’i hen ddiwylliant gwâr.
  • 5 Tachwedd 2008    Geraint Jones    Darlith ar Robert Hughes Uwchlaw’r Ffynnon. Ar noson cyhoeddi’r llyfr (gweler Gŵr Hynod Uwchlaw’r Ffynnon (Geraint Jones, Gwasg Carreg Gwalch).
  • 6 Rhagfyr 2008    Cyhoeddi llyfr Aelwen Roberts (Teulu’r Post, Llanwnda (Gwasg yr Utgorn)    Cyfarfod yn Felinwnda. Neuadd lawn.
  • 16 Rhagfyr 2008    Cyhoeddi llyfr Mary Hughes (Ellyll Hyll a ballu)   lluniau gan Jasmine Hughes) Yn Ysgol Brynaerau efo rhai o blant Ysgol Carmel.
  • 23 – 25 Ebrill 2007      Tair Noson o Hen Ffilmiau yn cynnwys:Y Llygad Coch  (enw llechen Dyffryn Nantlle)   Ffilm  BBC Cymru o Ddyffryn Nantlle, yn 1967 yn     dangos Chwarel Dorothea a rhai chwarelwyr – yn bennaf Evan John Jones.  Cymerir rhannau gan  T.H. Parry-Williams a  Thomas Parry, William Pleming (Goruchwyliwr Dorothea), Band Nantlle, chwarelwr ifanc yn Chwarel y Cilgwyn ayb.   Sgript: Gruffudd Parry; Llefarydd: W.H. Roberts; Cynhyrchydd:  John Roberts Williams. Caewyd y Chwarel ymhen ychydig flynyddoedd wedyn.                         Chwarel Penyrorsedd c. 1950 yn cynnwys llwytho’r “blondins” sef y gwifrau y cludid y llwythi arnynt dros y twll chwarel (enwyd ar ôl y Ffrancwr a groesodd y Niagara ar wifren dros 30 o weithiau.  “Gwylanod” yw’r enw yng Ngwaith Mawr Trefor)                         Gwaith Mawr Trefor 1929 ac un arall 1959/60        Pysgota Mecryll ym mae Caernarfon 1959                    a Corddi yn Nhan-y-clawdd (tua 1966).    Croesawyd Glenda Evans, Abergele, merch y diweddar Evan John Jones, y chwarelwr diwylliedig o Dal-y-sarn, i’r cyfarfod hwn;  Alwyn a Helen Pleming, mab a merch William Pleming, y Goruchwyliwr,  a theulu’r diweddar Gruffudd Parry.
  • 23 Mai 2007    Twm Elias    Sgwrs ar Smyglars i agor Arddangosfa’r Môr, môr-ladron, llongddrylliadau a hanes yr arfordir o’r Foryd i Edern.  Cyhoeddwyd llyfr o’r un enw ar yr un noson a ysgrifennwyd gan y diweddar Dafydd Meirion ac yntau. (Gwasg Carreg Gwalch).
  • 6 Gorffennaf 2007     Llio Rhydderch, virtuoso’r delyn deires.    Yng Nghapel Beuno. Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr.
  • 12 Medi 2007    Sophia Pari-Jones – sgwrs Cyhoeddwyd y llyfryn “Melin Faesog” (Sophia Pari-Jones) gan Wasg yr Utgorn yn y cyfarfod. Hanes Melin Faesog (gweler hefyd Arddangosfa Melin Faesog a agorwyd 15 Medi)
  • 20 Medi 2006    Geraint Jones    Darlith ar achlysur agor Arddangosfa hynod Robert Hughes Uwchlaw’r Ffynnon.
  • 8 Gorffennaf  2006    Twm Elias : Sgwrs a lluniau:  “Y Dyrnwr Mawr yn Dyrnu”    Ar achlysur agor Arddangosfa Dyrnwyr
  • 25 Ebrill 2006    Diwrnod Agor y Ganolfan: Darlith Hywel Teifi Edwards a chyhoeddi Ar Anwadal Donnau’r Byd (Dawi Griffiths) (gweler Llyfrau) Hefyd gweler Arddangosfa Eben Fardd. Eben Fardd a Brwydr Maes Bosworth. (Meddylfryd y Llyfrau Gleision yn rheoli bywydau’r Cymry). (recordiwyd)  Yng Nghapel Ebeneser, Clynnog. Yn union ar ôl y ddarlith agorwyd yr Ysoldy gerllaw gan Ysgrifennydd y Ganolfan, Marian Elias Roberts. Yno gwelwyd Arddangosfa Eben Fardd.
  • 12 Mai 2004    Darlith Emlyn Richards i ddathlu’r ffaith fod yr Ysgoldy a’r Tŷ Capel wedi dod yn eiddo i ni ar y 5ed o Fai.    Ysgol Eben Fardd – Ysgol yr ail gynnig.
    Yng Nghapel Ebeneser, Clynnog.
    Cyhoeddwyd y ddarlith gan Wasg Gwynedd ac roedd ar werth ar y noson. Diolchwn yn fawr i’r awdur ei hun am ysgwyddo’r gost.

Cyfarfod Arbennig a Phwysig

26 Tachwedd 2016 (dydd Sadwrn) 1 – 4 o’r gloch.

DYSGU HANES I’N PLANT –  PA HANES ? Trafodwyd y diffyg dysgu Hanes Cymru yn ein hysgolion

Dr. Elin Jones, hanesydd; Eryl Owain, cyn-athro hanes Llywydd: J. Dilwyn Williams, hanesydd ac archifydd