Cartref > Archif > Arddangosfeydd
Arddangosfeydd
2015
23 Mai 2015 (Sad.)
Arddangosfa Pennarth
(Pennardd yn Arfon y Mabinogi)
Yn Rali Ffermwyr Ifainc Eryri, Pennarth, Clynnog, 2015
2012
2 Mehefin – diwedd Gorffennaf 2012
Cludiant yn Uwchgwyrfai I agor yr arddangosfa hon cafwyd darlith hwyliog gan Geraint Jones ar ganmlwyddiant y Moto Coch. Bu dathlu canmlwyddiant y Moto Coch yn rhan ganolog o’n harddangosfa ar gludiant a theithio dros y canrifoedd yng nghwmwd Uwchgwyrfai. Fe’i gwelwyd yn yr Ysgoldy ar brynhawniau Mercher a Sadwrn 1.45 – 4 o’r gloch a hefyd trwy drefniant ymlaen llaw i grwpiau a chymdeithasau ac ysgolion.
2010
Mehefin – 28 Gorffennaf 2010
Arddangosfa Ffordd y Pererinion – Clynnog Fawr i Enlli
Derbyniwyd nawdd tuag at y ffilm a’r arddangosfa hon o Gronfa Datblygu Cynaladwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a Llwybr yr Arfordir.
Yn ogystal â’r eglwysi diddorol ar y ffordd, rhoddwyd sylw i henebion, ffynhonnau a’u rhinweddau meddyginiaethol, rhai tai nodedig a mannau o ddiddordeb neilltuol ar yr arfordir. Cyflwynwyd y cyfan fesul ardal drwy gyfrwng gwybodaeth ddifyr a lluniau trawiadol [yn cynnwys rhai gwych wedi eu tynnu o’r awyr]. Hefyd dangoswyd ffilm 18 munud o safon broffesiynol i gyd-fynd â’r arddangosfa.
Oherwydd ei phoblogrwydd ailagorwyd yr Arddangosfa hon ym mis Medi 2010 – eto ar brynhawniau Mercher a Sadwrn1.30-4 ac i grwpiau drwy drefniant ymlaen llaw.
2009
6 Rhagfyr 2009
Arddangosfa hen luniau a hen ffilmiau o Ddyffryn Nantlle
Arddangosfa hen luniau a hen ffilmiau o Ddyffryn Nantlle yn Neuadd Goffa Pen-y-groes 11 o’r gloch y bore – 5 o’r gloch yr hwyr. Dangoswyd y ffilmiau am 1.30 a 3.30 (i barhau am awr ar y tro).
Trefnwyd gan Gylch Meithrin Pen-y-groes mewn cydweithrediad â Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai
2008
Medi – 18 Hydref 2008
Arddangosfa Hen Dai (I)
Agoriad llygad i’r cyfoeth sydd wrth ein traed yn Uwchgwyrfai, sef plwyfi Llanaelhaearn, Clynnog, Llanllyfni, Llandwrog a Llanwnda
Ar brynhawniau Mercher a Sadwrn 1.30 – 4 o’r gloch. Parhad oedd hon o’n harddangosfa Mai/Mehefin ac roedd yn cynnwys peth gwybodaeth a lluniau newydd.Rhoddwyd cyfle i ysgolion a chymdeithasau drefnu ymweliadau ymlaen llaw.
Arddangosfa Hen Dai II
Hanes Plas Elerninon, Trefor am fil o flynyddoedd, a rhestr o’r tenantiaid a’r perchnogion o’r flwyddyn 1377.
Lluniau a hanes rhyfeddol dau hen, hen dŷ ym Mhen-y-groes.
Hanes diddorol Maenor Cwm. (Rhoddwyd trefgordd Cwm gan Lywelyn Fawr i fynaich Abaty Aberconwy drwy siarter ym 1198).
Hanes tai a thyddynnod unigol. Lluniau tai’r Rheilffordd. A llawer mwy.
Hefyd dangoswyd lluniau dyfrlliw o dai o waith William Selwyn, Robert Williams (Pen-y-groes), Jasmine Hughes (Llandegfan) a Carol Hughes (Y Groeslon) a llun diweddar Karen Jones (Waun-fawr) o Gae’r Gors mewn enamel a gwydr.
2007
12 Medi – 28 Tachwedd 2007
Arddangosfa Melin Faesog Darparwyd gan Sophia Pari-Jones, Melin Faesog, Tai’n-lôn.
Mercher a Sadwrn (2 – 4 o’r gloch) ac ar adegau eraill trwy drefniant ymlaen llaw i gymdeithasau ac ysgolion.
Arddangoswyd hefyd fodel cywrain o efail y gof, melin ac odyn, o waith Gwilym Jones, Tudweiliog. A chanddo ef y cawsom restr o dermau melin.
Yn ystod yr arddangosfa cafwyd ymweliad gan lond bws o drigolion Dinas y Llyn Halen dan arweiniad Yr Athro Ron Dennis –yr awdurdod ar hanes y Mormoniaid Cymreig ac sydd wedi dysgu Cymraeg i fedru darllen y miloedd o lawysgrifau a gadwyd mor ofalus gan y dewrion hynny.
Yr oedd un un o berchnogion y Felin hon yn ddigon cefnog i fedru talu am bleserau drudion un o’r meibion pan oedd yn fyfyriwr yn un o golegau Rhydychen a hynny efo arian rhent Melin Faesog, Bachwen a Choch-y-big. Yr oedd un arall yn gerddor a chôrfeistr.
Un o’u disgynyddion hwy a sefydlodd Gapel y Mormoniaid yn Ffestiniog ond yn wyneb y sen a’r gwawd a dderbynient penderfynasant deithio yr holl ffordd i Seion, sef Dinas y Llyn Halen yn Utah, Unol Daleithiau America ac ymsefydlu yno. Yr oeddent ymysg y deng mil o gyffelyb fryd a adawodd Gymru am Utah yn y 1840au a’r 1850au, gan deithio ar longau hwyliau, yna ar gychod llai, ar wagenni a dynnid gan ychen, ac ar droed, wedi llwyr ddiffygio a rhai wedi eu claddu ar y ffordd o ganlyniad i’r geri marwol.
23 Mai 2007 – dechrau Medi
Arddangosfa’r Môr, Môr-ladron, Llongddrylliadau a hanes yr arfordir o’r Foryd i Edern
Arddangosfa’r Môr, Môr-ladron, Llongddrylliadau a hanes yr arfordir o’r Foryd i Edern Harbwr Trefor a thrychineb 1795; Smyglwyr; Broc Môr; Clymau ar raffau llong; Sbigyn Datrys y Royal Charter (i ddatrys cwlwm ar raff); Pysgota Mecryll a Gorad Beuno; enwau cyn-hanes (o’r Mabinogi); Y Borth – tai pysgotwyr; modelau o gychod, ayb..
I’w hagor cafwyd sgwrs gan Twm Elias ar Smyglars, sef enw’r llyfr a gyhoeddwyd yr un noson gan Wasg Carreg Gwalch ac a ysgrifennwyd gan y diweddar Dafydd Meirion ac yntau. Roedd tocynnau ar werth.
Parhaodd yr arddangosfa hon trwy’r haf hyd at ddechrau Medi ac roedd yn agored i’r cyhoedd ar brynhawniau Mercher a Sadwrn (2 – 4 o’r gloch) a thrwy drefniant ymlaen llaw ar adegau eraill.
2006
22 Medi – 2 Rhagfyr 2006
Arddangosfa o luniau Robert Hughes Uwchlaw’r Ffynnon
I agor yr arddangosfa cafwyd darlith ar Robert Hughes gan Geraint Jones ar 20 Medi 2006. Cafwyd ymateb syfrdanol i’r arddangosfa hon ac roedd y mwyafrif o’r lluniau wedi eu cadw’n ofalus gan aelodau’r teulu. Ar yr 8fed o Dachwedd 2008 cyhoeddwyd llyfr ysblennydd gan Geraint Jones yn cynnwys y lluniau.
8 Gorffennaf 2006
Sgwrs a lluniau: “Y Dyrnwr Mawr yn Dyrnu” (Twm Elias)
Arddangosfa Dyrnwyr yn cynnwys model o ddyrnwr yn gweithio â thrydan o waith Richard Elias, Y Felinheli. Mynediad £3 (yn cynnwys paned) dechrau am 2 o’r gloch y prynhawn.
25 Ebrill 2006
Arddangosfa Eben Fardd ar ddiwrnod agor y Ganolfan
(yn dilyn darlith Hywel Teifi Edwards yng Nghapel Ebeneser gerllaw) Yn yr Ysgoldy. Dangoswyd medalau Eben Fardd ac eitemau eraill trwy garedigrwydd Gwenno Mai Parry ac Amgueddfa/Oriel Bangor.