Cartref > Archif > Ein Gwir Hanes
Ein Gwir Hanes
14 Hydref 2022 ar Sŵm
Blynyddoedd Cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 1962-67 Geraint Jones
Cadeirydd: Ieuan Wyn
Priodol iawn, drigain mlynedd ers ei sefydlu, oedd cael darlith ar bum mlynedd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a hynny gan Geraint Jones a oedd yn un o’i sefydlwyr ac a fu’n ysgrifennydd iddi yn ei blynyddoedd cynnar. Roedd ei ddarlith wedi ei seilio ar atgofion, dogfennau a ddiogelwyd ganddo, ac ymchwil ddiweddar. Ymdriniodd â’r digwyddiadau a arweiniodd at sefydlu’r Gymdeithas, ei diymadferthedd cynnar a’i rhwygiadau mewnol, cyn mynd ymlaen at y protestiadau cynnar a chynyddol effeithiol a arweiniodd at ei garcharu ef ei hun ddwywaith ym 1966, ac yna Gwyneth Wiliam a Neil Jenkins. Talodd deyrnged arbennig i Gwyneth Wiliam a fu farw ychydig ddyddiau cyn y traddodwyd y ddarlith hon. Edrychir ymlaen at weld cyhoeddi fersiwn estynedig o’r ddarlith hon maes o law.
28 Ionawr 2022 ar Sŵm
Tynged yr Iaith – y Ddarlith: Ieuan Wyn
Cadeirydd: Geraint Jones
A hithau’n drigain mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith allweddol Tynged yr Iaith priodol iawn oedd cael darlith gan Y Prifardd Ieuan Wyn yn ymdrin â chynnwys y ddarlith ei hun a chanlyniadau ei thraddodi. Arweiniodd yn un peth at sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ychydig fisoedd yn ddiweddarach a dechrau cyfnod newydd ac arloesol o ymgyrchu dros sicrhau tegwch a chyfiawnder i’r Gymraeg a’i siaradwyr.
11 a’r 12fed Mawrth 2021
Y Brenin Arthur.
Dr Ceridwen Lloyd-Morgan
ZOOM
Dydd Iau: Arwr Cymraeg? Arthur mewn llenyddiaeth Gymraeg yn yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern Cynnar.
Dydd Gwener: Darlunio hanes Arthur mewn llawysgrif Gymraeg o’r Oesoedd Canol.
1 Chwefror 2020
Hanes cynharaf y Cymry
Dafydd Glyn Jones:
Nennius a’r Historia Brittonum
Iestyn Daniel:
Gildas a Dinistr Prydain
5 Hydref 2019
Y Diwydiant Llechi
Dafydd Roberts:
Y diwydiant llechi hyd at y streic fawr.
J. Elwyn Hughes:
Diwylliant ardal y chwareli – Dyffryn Ogwen
18 Mai 2019
Morrisiaid Môn
Y Parchedig Ddr. Dafydd Wyn Wiliam ;
Morrisiaid Môn
Tegwyn Jones:
Lewis Morris
2 Chwefror 2019 10.30 – 2.30
Cymru yn y 18fed ganrif
Bob Morris:
Cymru yn y ddeunawfed ganrif.
Bore: Ellis Wynne a’i Oes
Pnawn: Oes y Chwyldro: newid mewn gwleidyddiaeth a diwydiant
13 Hydref 2018 10.30 – 2.30
Helyntion yn hen lysoedd barn Gwynedd:
J. Dilwyn Williams a Gareth Haulfryn Williams
10 Chwefror 2018
Enwau Lleoedd yng Ngwynedd
Dr. Glenda Carr:
Enwau Môn
Margiad Roberts:
Enwau Eifionydd
14 Hydref 2017
Dafydd Dywysog: “yr ola’ eiddila o’i lin” / “Tynged Etifeddion Dafydd a Llywelyn”
Yr Athro A.D. Carr:
Dafydd Dywysog: “yr ola’ eiddila o’i lin”
Y Prifardd Ieuan Wyn:
“Tynged Etifeddion Dafydd a Llywelyn”
13 Mai 2017
Ai Gwlad y Gân fu Cymru?
Arfon Gwilym:
Yr Hen Gymru Lawen
Rhidian Griffiths:
Ieuan Gwyllt a Chanu’r Cymry
4 Chwefror 2017
Trichanmlwyddiant geni W. Williams Pantycelyn
Yr Athro E. Wyn James:
William Williams
Y Parchedig Ddr. Goronwy Prys Owen:
Dylanwadau
15 Hydref 2016
Taith yr Iaith 1800 - 1900
Yr Athro Robert Owen Jones: awdur y gyfrol Hir Oes i’r Iaith
Abertawe a’r Dr Simon Brooks: awdur Pam na fu Cymru?
14 Mai 2016
Cilmeri – Ai celwydd?
Y Prifardd Ieuan Wyn a Geraint Jones
13 Chwefror 2016
Teyrnas yr Hen Bowys
Y Prifardd Myrddin ap Dafydd a’r Athro Peredur Lynch
Llywydd: Tecwyn Ifan.
Ill dau yn dilyn trywydd Canu Heledd a Chanu Llywarch Hen. Mae’r stori arwrol am ddewrion y ffin yn amddiffyn hyd angau dir Cymru yn erbyn gelynion rheibus yn hanes y dylai pob Cymro a Chymraes ei wybod.
Tachwedd 2015
Y Mab Darogan a’r Deddfau Uno
J. Dilwyn Williams:
Y Mab Darogan
Nia Watkin Powell: Y Deddfau Uno
Llywydd: Howard Huws
16 Mai 2015
Y Brythoniaid a’r Hen Ogledd
Dafydd Glyn Jones:
..yn rhoi Tro i’r Hen Ogledd (dwy ddarlith)
7 Chwefror 2015
Rhyfel y Degwm /Thomas Gee
Ieuan Wyn Jones:
Thomas Gee
Bob Morris:
Rhyfel y Degwm
18 Hydref 2014
Oes y Tywysogion: Teyrnasiad Owain Gwynedd 1137-70
Y Prifardd Ieuan Wyn, Howard Huws, a Dawi Griffiths
14 Mehefin 2014
Rhai o’r gwirioneddau am Gymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf
Pryderi Llwyd Jones, Harri Parri, a Geraint Jones
18 Ionawr 2014
Be’ Nesa?
Tair blynedd ers trychineb canlyniadau’r Cyfrifiad mae sefyllfa ein hiaith yn ei chadarnleodd yn dal i waethygu.
Dr Simon Brooks a’r Dr. Richard Glyn Roberts
Llywydd: Geraint Jones
Yn cyflwyno rhai syniadau yn seiliedig ar gynnwys eu hysgrifau mewn llyfr diweddar: Pa beth yr aethoch allan i’w achub?
8 Mawrth 2013
Brad y Llyfrau Gleision 1847 a’r effaith ar feddylfryd y Cymry hyd heddiw
Eryl Owain, Dr. John Glyn a’r Dr. Gwawr Jones
10 Hydref 2013
Ar Wib trwy Hanes Cymru:
12 o haneswyr gwladgarol yn ein tywys ar wibdaith hyd gerrig milltir ein hunaniaeth fel cenedl. Prif ddigwyddiadau hanes Cymru o safbwynt Cymreig yn hytrach na Phrydeinig.
Rhys ap Rhisiart, Dr John Glyn, Dawi Griffiths, Howard Huws, Dafydd Glyn Jones. Geraint Jones (Llywydd), Dr. Gwawr Jones, Alwyn Pritchard, Elfed Roberts,Dewi Williams, Gareth Haulfryn Williams, J. Dilwyn Williams, Ieuan Wyn