Cartref > Archif > Y ddarlith flynyddol
Y ddarlith flynyddol
Nos Wener 24 Mai 2024 yn yr Ysgoldy
Dyfodol S4C a’r Gymraeg: Alun Ffred Jones
Cadeirydd: Geraint Jones
Dyfodol S4C a’r Gymraeg oedd pwnc amserol y Ddarlith Flynyddol eleni. Fe’i traddodwyd gan Alun Ffred Jones, cyn-weinidog dros ddiwylliant yn Llywodraeth Cymru, cyfarwyddwr cwmnïau teledu annibynnol a nofelydd. Ar ôl rhoi peth o gefndir sefydlu’r sianel a’i datblygiad dros y 40 mlynedd diwethaf, ymdriniodd â rhai o’r heriau sy’n ei hwynebu ar hyn o bryd, megis y cynnydd enfawr yn y cyfryngau digidol sydd ar gael bellach, gostyngiad yn y setliad ariannol blynyddol a gaiff y sianel gan lywodraeth y Deyrnas Unedig, a’r cwymp yn nifer gwylwyr, yn arbennig pobl ifanc. Nododd bwysigrwydd sicrhau bod y sianel yn cael cyllid digonol o’r arian a ddaw i goffrau’r llywodraeth drwy’r drwydded deledu fel y gellir darparu arlwy o safon uchel, a’r angen i geisio sicrhau fod Cymry Cymraeg a di-Gymgraeg yn gweld y sianel yn adnodd pwysig a defnyddiol iddynt. Cafwyd trafodaeth ar y diwedd. Un mater a godwyd oedd y dylid sicrhau yn ddi-oed fod darlledu yng Nghymru yn faes a droglwyddir o San Steffan i Lywodraeth Cymru; hefyd y dylai’r sianel sicrhau bod y Gymraeg a ddefnyddir arni yn safonol a graenus a mynd i’r afael â’r bratiaith cynyddol a welir mewn llawer o’i rhaglenni.
26 Mai 2023 yn yr Ysgoldy
Dafydd Glyn Jones: Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw
Cadeirydd: Geraint Jones
Cafwyd clo teilwng i weithgareddau’r tymor gyda darlith gan Dafydd Glyn Jones ar y testun pwysig uchod. Ymdriniodd â gwreiddiau’r wasg Gymraeg yng ngweithiau almanacwyr diwedd yr ail ganrif ar bymtheg a dechrau’r ddeunawfed ganrif, yn arbennig Thomas Jones. Cafwyd golwg hefyd ar yr ymgeisiadau cynnar i gynhyrchu cyfnodolion Cymraeg o ganol i ddiwedd y ddeunawfed ganrif, cyn mynd ymlaen i ymdrin â’r cynnydd syfrdanol a welwyd yng nghynnyrch y wasg Gymraeg – yn gyfnodolion a phapurau newydd - yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Edrychwyd yn benodol ar rai ohonynt, megis Baner ac Amserau Cymru, Y Brython a’r Cymro – beth oedd eu cynnwys, pwy oedd eu cynulleidfa a’u gogwydd wleidyddol ac yn y blaen. Aeth y darlithydd ymlaen i sôn am beth o gynnyrch amrywiol yr ugeinfed ganrif a rhai o ffigurau amlwg y byd newyddiadurol Cymreig. Ymdriniodd hefyd â’r dirywiad a welwyd yn y wasg broffesiynol Gymraeg yn ystod y degawdau diwethaf a theneurwydd y ddarpariaeth bresennol, gan dalu teyrnged hael yr un pryd i waith clodwiw y papurau bro a’r gwirfoddolwyr sy’n eu cynnal.
10 Mehefin 2022 ar Sŵm
Simon Brooks : Hunaniaeth y Cymry
14 Mai 2021
Y Prifardd Ieuan Wyn : J.R. Jones Cenedlaetholwr ZOOM
2020
Dim darlith (Covid-19)
7 Mehefin 2019
Yr Athro Geraint H. Jenkins : Iolo Morganwg y Gwladgarwr
8 Mehefin 2018
Emyr Llywelyn : Waldo: Brogarwr a Gwladgarwr
16 Mai 2017
Adam Price, AC, Dinefwr : Cymru – Trefedigaeth Gyntaf Lloegr, a’r Olaf.
17 Mehefin 2016
Dewi Evans, Coleg y Brifysgol, Dulyn : Canmlwyddiant Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon
25 Mehefin 2015
Dafydd Wigley : Saunders Lewis, y Blaid ac Ewrop
14 Mai 2014
Robert Rhys o Academi Hywel Teifi, Abertawe : D.J. Williams, Abergwaun
15 Mai 2013
Einion Thomas, Archifydd Prifysgol Bangor : Boddi Capel Celyn
16 Mai 2012
Emyr Llywelyn : Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, 1962
8 Mehefin 2011
Yr Athro Peredur Lynch : Ma’r Hogia’n y Jêl. A hithau’n dri chwarter canrif ers y weithred arwrol o losgi’r ysgol fomio, cafwyd darlith i edrych ar yr ymateb yng Nghymru’r cyfnod i’r Tân yn Llŷn.
26 Mai 2010
Y Prifardd Ieuan Wyn : Abergarthcelyn y Tywysogion Hanes Tywysogion Cymru ac yn arbennig hanes Garthcelyn – Llys y Tywysogion yn Abergwyngregyn – a Llan-faes dros y Fenai. Roedd y ddarlith hon yn agoriad llygad ar y cyfnod hwnnw ac yn datgelu rhai ffeithiau newydd inni.
11 Mehefin 2009
Yr Athro Hywel Teifi Edwards : Eos Morlais
14 Mehefin, 2008
Yr Athro Hywel Teifi Edwards Cymru a’i Harwyr : Anerchiad gwladgarol a thanbaid am goffau arwyr Gwlad y Gân. (gweler hefyd Darlithiau / Sgyrsiau 25 Ebrill 2006)