Cartref > Archif > Cyfeillion Eban
Cyfeillion Eban
21 Ebrill 2026
DETHOLIAD O GERDDI CHRISTINE JAMES
Detholiad o gerddi Christine James o’i dwy gyfrol o farddoniaeth, Rhwng y Llinellau a Rhwng Dau Feddwl, oedd dan sylw a chafwyd sylwadau manwl a threiddgar arnynt gan Sylvia Prys Jones. Tynnwyd sylw at y cynildeb, yr uniongyrchedd mynegiant a’r didwylledd amlwg a welir yn ei gwaith. Er yn gyfoethog eu cynnwys mae’r cerddi hefyd yn rhwydd eu deall ar y darlleniad cyntaf. Cafwyd trafodaeth amrywiol a gwerthfawrogol i ddilyn.
17 Mawrth 2026
Y DIGYMAR IOLO MORGANWG : GERAINT H. JENKINS
Roedd y diweddar Athro Geraint H. Jenkins yn awdurdod digamsyniol ar y cymeriad rhyfeddol – a rhyfedd hwnnw – Iolo Morganwg, ac mae hynny’n gwbl amlwg yn y gyfrol hynod safonol a darllenadwy hon. Jina Gwyrfai gyflwynodd y gyfrol a chafwyd trafodaeth sylweddol ac adeiladol. Roedd pawb wedi mwynhau ei darllen a thynnwyd sylw at allu’r awdur i gyfuno ysgolheictod ac ymchwil drwyadl â’r gallu i gyflwyno ei ddeunydd yn ddifyr a rhwydd i’w ddarllen. Teimladau cymysg oedd gan yr aelodau ynghylch Iolo ac yn ei gymeriad gwelwyd camp a rhemp yn cyd-gerdded fel petae. Dygwyd i gof y noson y bu’r awdur gyda ni yn y Ganolfan yn traethu’n huawdl ar Iolo (Darlith Flynyddol Utgorn Cymru 7 Mehefin 2019).
17 Chwefror 2026
MELINAU LLŶN : GLYN ROBERTS
Cyfrol gynhwysfawr Glyn Roberts ar Felinau Llŷn oedd dan sylw’r mis hwn a Mary Hughes gyflwynodd y llyfr. Mae’r gyfrol yn ymwneud â melinau dŵr, melinau gwynt a melinau gwlân ac yn cynnwys cyfoeth o wybodaeth, lluniau a mapiau am y diwydiannau hyn yn Llŷn, a hefyd am y teuluoedd a’r gweithwyr a oedd yn eu cynnal. Canmolwyd yn fawr yr ymchwil sylweddol a gyflawnwyd gan yr awdur gan nodi fod y gyfrol yn gyfraniad hynod bwysig i faes hanes lleol ac yn gronicl teilwng i ddiwydiannau a aeth bellach i fysg y pethau a fu. Diddorol, fodd bynnag, oedd clywed fod enghreifftiau o gynnyrch melinau gwlân Llŷn yn parhau i fod ar gael o hyd mewn rhai cartrefi.
20 Ionawr 2026
EIFION WYN : PEREDUR WYN WILLIAMS
Cofiant Peredur Wyn Williams i’w dad, y bardd o Borthmadog, Eifion Wyn oedd dan sylw a chyflwynwyd y gyfrol gan Geraint Jones. Roedd y gyfrol hon wedi ei dewis yn bennaf oherwydd ei bod yn ganmlwyddiant marw Eifion Wyn eleni (2026). Y teimlad cyffredinol oedd bod y gyfrol yn feichus i’w darllen yn bennaf oherwydd y dyfyniadau meithion o feirniadaethau, llythyrau ac ati sydd ynddi. Fodd bynnag, i fod yn deg â’r awdur mae’n nodi yn y Rhagair bod llunio gwaith o’r fath yn dasg anghyfarwydd iddo a rhaid cymryd hynny i ystyriaeth.
16 Rhagfyr
BRAD : SAUNDERS LEWIS
Drama drasiedi Saunders Lewis sydd wedi ei seilio ar y cynllwyn i ladd Hitler yng Ngorffennaf 1944 oedd dan sylw ac fe’i cyflwynwyd gan Dawi Griffiths. Trafodwyd rhyw gymaint ar gefndir hanesyddol y ddrama a hefyd ei chymharu â 1938, drama arall ddiweddarach Saunders Lewis sy’n ymdrin â themâu cyffelyb. Ymysg pethau eraill rhoddwyd sylw i bwysigrwydd eironi yn nramâu’r awdur, hefyd pwysigrwydd a chysegredigwydd ‘y llw’ a welir yn gyson yn ei waith, yn ogystal â’r croesdynnu rhwng chwant cnawdol a gwir gariad.
18 Tachwedd
O GORS Y BRYNIAU: KATE ROBERTS
A hithau’n ganrif ers cyhoeddi’r gyfrol gyntaf hon o straeon Kate Roberts priodol iawn oedd ei thrafod a chafwyd arweiniad sylweddol i’r maes gan Megan Lloyd Williams. Er y gellir ystyried y storïau hyn fel prentiswaith, eto gwelwyd eu bod yn datgan gwirioneddau sylfaenol am fywyd a’r natur ddynol. Sylwyd ar dwf ei chrefft yn y storïau ac fel yr ailadroddir llawr o’r themâu a geir ynddynt yn ei gweithiau diweddarach mwy cyfarwydd.
21 Hydref
Y MORFARCH ARIAN: EURGAIN HAF
Y gyfrol a enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 2024 oedd dan sylw ac fe gyflwynwyd y nofel gan Ann Jones. Canmolwyd ystwythder cyffredinol y mynegiant a’r ddeialog, er y tynnwyd sylw at rai ymadroddion chwithig a oedd yn gyfieithiadau o’r Saesneg. Roedd y mwyafrif wedi cael boddhad o’r stori am ferch ifanc yn brwydro ag anhwylder meddyliol ond cwestiynwyd tybed a oes gormod o nofelau Cymraeg yn ymdrin â’r meysydd hyn yn cael eu cynhyrchu ar hyn o bryd.
16 Medi
NELAN A BO: ANGHARAD PRICE
Nofel led-hanesyddol Angharad Price sydd wedi ei lleoli ym mro ei mebyd, sef Rhos Chwilog – Bethel yn ddiweddarach – oedd dan sylw yng nghyfarfod cyntaf y tymor newydd a chyflwynwyd y gyfrol gan Sarah Roberts. Mae’r nofel hon yn ymdrin â bro a chymdeithas ynghanol cyfnod o newidiadau mawr, yn ddiwydiannol, crefyddol a chymdeithasol. Yn y drafodaeth ddilynol canmolwyd saernïaeth y gyfrol a chryfder mynegiant a delweddu yr awdur ond roedd rhai’n amau a oedd rhai o’r disgrifiadau a’r digwyddiadau a groniclir ynddi yn cyfleu amgylchiadau’r cyfnod yn ddilys.
24 Mai
TAITH I FRO CARADOG PRICHARD
Cafwyd prynhawn hynod ddifyr yn ymweld â nifer o fannau cysylltiedig â Caradog Prichard ac Un Nos Ola Leuad ym Methesda a’r cyffiniau. Ein tywysydd gwybodus oedd y Prifardd Ieuan Wyn y mae hanes ei fro ar flaenau ei fysedd. Yn ogystal â rhoi hanes cysylltiadau Caradog â’r mannau yr ymwelwyd â hwy a’r modd y mae wedi gwau’r rheini i’r nofel, cafwyd nifer o ddarlleniadau perthnasol o’r llyfr ganddo hefyd. Mwynhawyd swper blasus yng Ngwesty’r Newborough yn Y Bontnewydd cyn troi am adref.
15 Ebrill
UN NOS OLA LEUAD : CARADOG PRICHARD
I gloi’r tymor ymdriniwyd ag un o nofelau enwocaf y Gymraeg a chafwyd cyflwyniad sylweddol a meistrolgar ar y gyfrol a’i hawdur gan Megan Lloyd Williams. Achosodd ei chyhoeddi ym 1961 gryn gyffro gyda’i hymdriniaeth gignoeth â materion megis gwallgofrwydd, hunanladdiad a gwyrdroadau rhywiol. Er bod byd a chymdeithas Caradog Prichard yn Nyffryn Ogwen chwarelyddol yn debyg iawn i gymdeithas Kate Roberts a T. Rowland Hughes, osgoi materion o’r fath a wnaeth y ddau lenor hynny yn eu gweithiau. Cafwyd trafodaeth sylweddol ar y gyfrol, gydag amryw o’r Cyfeillion wedi ei darllen sawl gwaith dros y blynyddol, ac edrychwyd ymlaen at ymweliad â bro’r nofel ddiwedd Mai.
18 Mawrth
PRIDD: LLŶR TITUS
Cyflwynwyd y nofel fer hon gan Sarah Roberts. Hon oedd cyfrol ryddiaith gyntaf Llŷr Titus i oedolion, ac er mai fel bardd yr oedd fwyaf adnabyddus i ni mae’n debyg, cafodd yr aelodau i gyd fwynhad o ddarllen Pridd. Yr hyn a oedd wedi taro pawb yn arbennig oedd bod dyn mor ifanc wedi llwyddo i greu darlun o hen ŵr a’i fyd, yn bresennol a gorffennol, mor dda. Yn ogystal â hynny roeddem yn ymhyfrydu yn iaith lenyddol goeth y llyfr a oedd yn gwneud i ni oedi a meddwl. Roedd ambell un yn credu bod mwy i’r gyfrol nag a ddaeth i’r amlwg iddynt ar y darlleniad cyntaf a’u bod yn bwriadu ei darllen sawl gwaith eto.
18 Chwefror
YR HELYGEN GAM : JOHN ROBERTS
Cyflwynwyd y gyfrol hon o storïau byrion gan Mary Hughes a oedd yn adnabod yr awdur yn dda. Ymdriniodd yn benodol â dwy o’r storïau gan dynnu sylw’n arbennig at gyfoeth iaith yr awdur gyda holl adnoddau’r Gymraeg ar flaenau ei fysedd. Rhoddwyd sylw hefyd i’w allu i lunio cymeriadau credadwy o fewn cyfyngiadau cyfrwng y stori fer. Roedd y gyfrol (a oedd cyn hynny’n ddieithr i amryw o’r aelodau) wedi plesio’r Cyfeillion gyda rhai o’r storïau’n cael canmoliaeth eithriadol.
21 Ionawr
YN BLWMP AC YN BLAEN : CEFIN ROBERTS
Roeddem wedi disgwyl cael cwmni’r awdur, Cefin Roberts, i drafod ei gyfrol hunangofiannol gyda ni yn y cyfarfod hwn, ond oherwydd amryfusedd gyda’r dyddiadau ni ddaeth. Fodd bynnag, cafwyd trafodaeth amrywiol ar y gyfrol sylweddol hon a’r farn gyffredinol oedd ei bod yn hunangofiant gonest a dadlennol. Talwyd teyrnged i’r holl waith eithriadol y mae Cefin a Rhian Roberts wedi’i gyflawni gydag ysgol berfformio Glanaethwy dros y blynyddoedd.
17 Rhagfyr
DAN LAW’R DIAFOL: JOHN ALWYN JONES
Sylvia Prys Jones gyflwynodd y gyfrol hon, sef yr wythfed nofel yn y gyfres sy’n ymdrin ag anturiaethau’r ditectif Jeff Evans o dref ddychmygol Glan Morfa. (Tua thair blynedd yn ôl cyflwynodd Sylvia un arall o’r cyfrolau hyn, sef Dan Amheuaeth.) Ymdriniodd â chryfderau a gwendidau’r gyfrol a oedd dan sylw, gan ganmol Cymraeg graenus ac idiomatig yr awdur, a rhwyddineb darllen y llyfr, ond ar y llaw arall roedd o’r farn (fel gweddill y Cyfeillion yn wir) fod y stori’n dirywio wrth fynd yn ei blaen gan fynd yn dra anghredadwy erbyn y diwedd.
19 Tachwedd
Y GORORAU – GWLAD RHWNG Y GWLEDYDD: MYRDDIN AP DAFYDD
Dawi Griffiths gyflwynodd y gyfrol hon, sy’n arweinlyfr hwylus a defnyddiol i ardal y Gororau, neu Dir y Mers, gyda 46 o benodau yn ymdrin â gwahanol feysydd a themâu. Roedd yr aelodau wedi cael budd o ddarllen y gyfrol a oedd wedi cyfoethogi ein gwybodaeth a’n dealltwriaeth o’r tir ffiniol hwn rhwng Cymru a Lloegr. Teimlid y byddai cynnwys cyfeirnodau grid wedi bod yn fuddiol i ddefnyddio’r gyfrol a mapiau ar y cyd ac y byddai wedi elwa hefyd o gael llyfryddiaeth ddethol ar y diwedd fel y gellid mynd ar ôl rhai meysydd yn ddyfnach.
15 Hydref
AMSER I WYLO – SENGHENNYDD 1913: RHYDWEN WILLIAMS
Y gyfrol ddirdynol hon am y drychineb lofaol waethaf yn hanes y diwydiant glo yng ngwledydd Prydain gafodd sylw’r mis hwn a phriodol iawn oedd mai John Wyn Jones oedd wedi dewis y llyfr a’i gyflwyno oherwydd roedd ganddo gysylltiadau teuluol agos â’r drychineb. Cafwyd cyflwyniad ac ymdriniaeth sylweddol â’r gyfrol gan John a chyfoethogwyd ein dealltwriaeth o’r amgylchiad yn fawr gan y cyffyrddiadau personol a theuluol a ddygodd i’r drafodaeth.
17 Medi
CANEUON MYNYDDOG (Hen Lyfr Bach – Dalen Newydd) Golygwyd gan Dafydd Glyn Jones
Cafwyd dechrau arbennig i’r tymor newydd gyda chyflwyniad cynhwysfawr a thra difyr gan Geraint Jones ar y gyfrol fechan hon. Yn ogystal â sôn am fywyd a gyrfa Richard Davies (Mynyddog) bu’n trafod cefndir rhai o’r caneuon hynod boblogaidd hyn a’r alawon y cenid hwy arnynt. I gyd-fynd â’r sgwrs mwynhawyd datganiadau o’r caneuon a drafodwyd gan rai o gantorion amlycaf Cymru, o Leila Megane i Bryn Terfel. Cyngerdd gwerth chweil yn wir.
16 Ebrill
DETHOLIAD O FARDDONIAETH GWENALLT
I gloi’r tymor ymdriniwyd â dwsin o gerddi Gwenallt a oedd wedi cael eu dewis a’u cyflwyno gan Megan Lloyd Williams. Cafwyd sylwadau treiddgar ganddi ar bob un o’r cerddi gyda thrafodaeth sylweddol arnynt i ddilyn. Roedd y cerddi a ddewiswyd yn ymdrin â nifer o wahanol themâu ac wedi’u cyfansoddi ar wahanol gyfnodau ym mywyd llenyddol y bardd. Sylwyd mor berthnasol oedd cynnwys llawer ohonynt yn y cyfnod presennol, er i rai ohonynt gael eu hysgrifennu ddim ymhell o ganrif yn ôl bellach.
19 Mawrth
‘BETWS HIRFAEN’: J.G. WILLIAMS
Cyflwynwyd y nofel rymus hon gan Sylvia Prys Jones a roddodd beth o gefndir yr awdur cyn mynd ymlaen i ymdrin â’r nofel, sydd wedi ei lleoli yn bennaf yn Eifionydd yn ystod y blynyddoedd yn arwain at wrthryfel Glyndŵr a blynyddoedd cyntaf yr ymdrech fawr dros annibyniaeth Cymru. Roedd pawb yn unfarn fod yr awdur wedi llwyddo i fynd dan groen y cyfnod yn arbennig o dreiddgar a manwl a bod y gwaith hefyd yn adlewyrchu’r sefyllfa bresennol yng Nghymru ac yn ehangach mewn sawl ffordd.
20 Chwefror
‘BREUDDWYD ROC A RÔL’: CLEIF HARPWOOD
Cyflwynwyd y gyfrol hon gan Ann Jones ac, yn ogystal â rhoi rhai sylwadau ac argraffiadau ar y gyfrol, bu’n sôn am ei chysylltiadau personol ag ardal magwraeth yr awdur yng Nghwm Afan yn nechrau’r 1970au. Y farn gyffredinol oedd fod y llyfr yn croniclo cyfnod pwysig yn hanes Cymru ac felly’n ‘ddogfen gymdeithasol’ werthfawr ond teimlid hefyd fod y gyfrol yn rhy faith ac y byddai wedi elwa o olygu llymach.
16 Ionawr
‘BULLY, TAFFY, A PADDY’ ac ysgrifau eraill: EMRYS AP IWAN
Rhai o ysgrifau grymus Emrys ap Iwan, y cenedlaetholwr arloesol a’r awdur dychanol miniog, gafodd sylw yng nghyfarfod cyntaf 2024. Agorwyd y maes gan Jina Gwyrfai a roddodd grynodeb o fywyd a gyrfa Emrys gan fynd ymlaen i gyflwyno detholiad o’i ysgrifau: ‘Bully, Taffy a Paddy’; ‘Y Llo Arall’; ‘Gair at rieni Cymraeg’; a ‘Llythyr Alltud’.
19 Rhagfyr
‘ARLWY’R SÊR’: ANGHARAD TOMOS
Pleser oedd cael croesawu Angharad Tomos atom i gyflwyno ei chyfrol ddiweddaraf Arlwy’r Sêr. Diddorol oedd ei gwrando arni’n egluro sut yr aeth ati yn ystod y cyfnod clo i ysgrifennu’r nofel arbennig hon ac i ymdrin â’r tri chymeriad allweddol sydd ynddi, sef y bardd-bregethwr a’r sosialydd Robert Silyn Roberts, ei wraig Mary, a’u cyfaill David Thomas, a oedd yn daid i awdures y gyfrol ac yn awdur cynhyrchiol ei hun.
21 Tachwedd
‘BARTI DDU’: T. LLEW JONES
Nofel antur T. Llew Jones gafodd sylw yn y cyfarfod hwn. Cyflwynwyd y gyfrol gan Sarah Roberts ac, yn ogystal â sôn am ei hargraffiadau hi o’r llyfr, ymdriniodd hefyd â chyfraniad nodedig yr awdur ym maes llenyddiaeth i blant a phobl ifanc. Er mai llyfr i blant yn eu harddegau yw hwn roedd pawb wedi cael cryn bleser yn ei ail-ddarllen gan ryfeddu at ddawn storïol T. Llew Jones a’i Gymraeg cyfoethog. Bu tipyn o sôn hefyd am y ffordd mae môr-ladron wedi cael eu delfrydu yn aml, ac mai dihirod di-dostur oeddent (gan gynnwys Barti Ddu)!
17 Hydref
‘Y DREFLAN: EI PHOBL A’I PHETHAU’: DANIEL OWEN
Y clasur hwn o waith Daniel Owen, sy’n ymdriniaeth dreiddgar a deifiol o ddychanol ar gymdeithas ei oes a’i phobl, gafodd sylw’r tro hwn. Cyflwynwyd y gyfrol gan Geraint Jones a roddodd sylw i gefndir cymdeithasol y gwaith, yn ogystal â mynd o dan groen rhai o’r prif gymeriadau. Cafwyd nifer o sylwadau ar y gyfrol gan y ‘Cyfeillion’ ac roedd yn amlwg i bawb gael budd a phleser mawr o’i darllen.
19 Medi
‘YMBAPUROLI’: ANGHARAD PRICE
Cafwyd dechrau da i’r tymor newydd a thrafodaeth sylweddol ar y gyfrol uchod o ddwsin o ysgrifau celfydd gan Angharad Price. Cyflwynwyd y gyfrol gan Dawi Griffiths. Yn y cyfarfod llongyfarchwyd dau o’r aelodau, sef Geraint Jones, a dderbyniodd Fedal Goffa T.H. Parry-Williams – Er Clod yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan fis Awst, a John Wyn Jones a fu’n fuddugol yn yr un eisteddfod am lunio tair cerdd ysgafn.
18 Ebrill
‘CERDDED Y CAEAU’: RHIAN PARRY
Pleser oedd cael croesawu Rhian Parry, awdur y gyfrol, i ymuno â ni i drafod ei gwaith. Cafwyd cyfarfod difyr a diddorol yn ei chwmni. Eglurodd fel y deilliodd y gyfrol o waith ymchwil a wnaeth ym maes enwau caeau yn Ardudwy ac fel y datblygodd y gwaith hwnnw’n gyfrol sylweddol maes o law. Bu’n trafod y ffynonellau a ddefnyddiodd a diddorol oedd gweld sut y cadwyd rhai enwau ers canrifoedd lawer, sut y collwyd eraill, gydag eraill wedyn yn cael eu newid neu eu hystumio. Ymdriniwyd yn ogystal â diwyg trawiadol y gyfrol a chafodd yr aelodau gyfle i holi’r awdur ynghylch nifer o faterion a oedd o ddiddordeb iddynt. Pwysleisiwyd yn ogystal werth a phwysigrwydd cyflawni astudiaethau o’r fath ym mhob ardal os gellir.
21 Mawrth
‘CERDDI LLŶN AC EIFIONYDD’ : R. ARWEL JONES (Gol.)
Daeth nifer dda ynghyd i drafod y gyfrol hon o gant o gerddi gan feirdd o amrywiol gyfnodau, pob un ohonynt yn ymdrin â rhyw agwedd neu’i gilydd ar Lŷn ac Eifionydd neu eu trigolion. Cafwyd trafodaeth sylweddol a diddorol oedd clywed gwahanol safbwyntiau wrth ymdrin â rhai o’r cerddi. Cyflwynwyd y gyfrol gan Jina Gwyrfai a Sarah Roberts.
21 Chwefror
‘SIONED’: WINNIE PARRY
Cafwyd trafodaeth fywiog ac amrywiol ar y nofel hon, a oedd yn bur arloesol yn ei dydd, yn arbennig o ran ei defnydd o dafodiaith drwyddi draw. Diddorol oedd clywed gwahanol farn a safbwyntiau’r aelodau yn ei chylch gyda rhai wedi cael blas arbennig arni ac eraill heb gymryd ati cystal. Cyflwynwyd y gyfrol gan Ann Jones.
17 Ionawr
‘MAE’R LLEUAD YN GOCH’ : MYRDDIN AP DAFYDD
Trafodwyd y nofel bwysig hon, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ond sy’n gwbl berthnasol i ddarllenwyr o bob oed. Mae’n ymdrin â llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth, Llŷn a’r gyflafan enbyd a ddigwyddodd tua’r un amser pan fomiwyd dinas Guernica yng Ngwlad y Basg gan awyrenau o’r Almaen a’r Eidal yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen. Cyflwynwyd y gyfrol gan Sylvia Prys Jones.
18 Ionawr
Pen-blwydd y Cylch Darllen yn 10 oed a phawb yn eu tro yn cyflwyno a chymeradwyo llyfr.
Dawi: ‘POERI I LYGAD YR ELIFFANT’: WIL AARON
Geraint: ‘Y PRESELAU; GWLAD HUD A LLEDRITH’: DYFED ELLIS-GRUFFYDD
Dafydd: ‘THE OLD RED TONGUE’: Gol. GWYN GRIFFITH a MEIC STEVENS
Megan: ‘DIAL Y LLADRON’: EDWARD DAVID ROWLANDS
Evie: ‘CAWOD LLWCH’: RHYS IORWERTH
Marian: ‘HEN ENGLYNION’: GWYN THOMAS
John Griffith: ‘CEFN YDFA’: GERAINT DYFNALLT OWEN
Sylvia: ‘NANSI LOVELL-HUNANGOFIANT HEN SIPSI’: ELENA PUW MORGAN
Ann: ‘SIONED’: WINNIE PARRY
John Jones: ‘STORÏAU’R HENLLYS FAWR’: W.J.GRIFFITH
Jina: ‘O’R PENTRE GWYN I GWMDERI’: HYWEL TEIFI EDWARDS
Sarah: ‘CLWYFAU’: PENRI JONES
Y llyfr a gafodd ei ethol oedd ‘STORÏAU’R HENLLYS FAWR’ – W.J.GRIFFITH
15 Chwefror
‘CRYCH DROS DRO’: GWILYM OWEN
Geraint Jones
15 Mawrth
‘MOEL TRYFAN I’R TRAETH’: W. GILBERT WILLIAMS
Gareth Haulfryn Williams (Golygydd y gyfrol)
19 Ebrill
‘O! TYN Y GORCHUDD HUNANGOFIANT REBECCA JONES’: ANGHARAD PRICE
John Griffith
14 Mai
TAITH I ARDAL DINAS MAWDDWY: PONT MINLLYN, EGLWYS A RHEITHORDY MALLWYD, A NEUADD BENTREF DINAS MADDWY I WELD CREIRIAU TEULU
TYN-Y-BRAICH.
20 Medi (Yn ôl yn yr Ysgoldy a chyfarfod wyneb yn wyneb)
‘NIWL DDOE’:GERAINT V. JONES
Geraint Jones
18 Hydref
‘MYND’: MARGED TUDUR
Cyflwynydd: Megan Lloyd Williams
15 Tachwedd
‘WAL’ : MARI EMLYN
Cyflwynydd: John Griffith
20 Rhagfyr
‘UN DIWRNOD IFAN DENISOFITSH’: ALECSANDR SOLZHENISTSYN (cyfieithiad W. GARETH JONES)
Cyflwynydd: Dawi Griffiths
19 Ionawr
Cyfrol - ‘DEFFRO I FORE GWAHANOL’: GLYN TOMOS
Cyflwynydd - Glyn Tomos (Yr Awdur)
16 Chwefror
Cyfrol - ‘GOLAU TRWY GWMWL’: JOHN EMYR
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
16 Mawrth
Cyfrol - ‘YR OGOF’: T. ROWLAND HUGHES
Cyflwynydd - Sarah G. Roberts
20 Ebrill
Cyfrol - ‘GWN GLÂN A BEIBL BUDR’: HARRI PARRI
Cyflwynydd - Alwyn Pritchard
19 Mai
Cyfrol - ‘DYDDIADUR MARI GWYN’: RHIANNON DAVIES JONES
Cyflwynydd - Jina Gwyrfai
21 Medi
Cyfrol - ‘PERL’: BET JONES
Cyflwynydd - Sarah G. Roberts
19 Hydref
Cyfrol - ‘CAETH A RHYDD’: PEREDUR LYNCH
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
16 Tachwedd
Cyfrol - ‘DAN FYGYTHIAD’ : JOHN ALWYN GRIFFITHS
Cyflwynydd - Sylvia Prys Jones
14 Rhagfyr
Cyfrol - ‘DYDDIADUR DYN DWAD’: GORONWY JONES
Cyflwynydd - Geraint Jones
21 Ionawr
Cyfrol - ‘SGYTHIA’: GWYNN AP GWILYM
Cyflwynydd - Geraint Jones
25 Chwefror
Cyfrol - ‘LLYFR GLAS NEBO’: MANON STEFFAN ROSS
Cyflwynydd - Jina Gwyrfai
(Pandemig “Covid” yn golygu Rhaglen Rithiol ar ‘Sŵm’ erbyn Hydref 2020)
19 Hydref
Cyfrol - ‘O LAW I LAW’: T. ROWLAND HUGHES
Cyflwynydd - Geraint Jones
17 Tachwedd
Cyfrol - ‘Y GÂN OLAF’: GERALLT LLOYD OWEN
Dawi Griffiths,
Cyflwynydd - Evie Wyn Jones ac Alwyn Pritchard
15 Rhagfyr
Cyfrol - ‘ALUN MABON’: CEIRIOG
Cyflwynydd - Geraint Jones
15 Ionawr
Cyfrol - ‘PORTH Y BYDDAR’: MANON EAMES
Cyflwynydd - Jina Gwyrfai
19 Chwefror
Cyfrol - ‘CÂN NEU DDWY’: T. ROWLAND HUGHES
Cyflwynydd - Pawb yn cyfrannu
19 Mawrth
Cyfrol - ‘LLYGAD AM LYGAD’: EIGRA LEWIS ROBERTS
Cyflwynydd - Rhys Dafis
16 Ebrill
Cyfrol - ‘TEGWCH Y BORE’: KATE ROBERTS
Cyflwynydd - Sylvia Prys Jones
21 Mai
Cyfrol - ‘YN ÔL I’R DREF WEN’: MYRDDIN AP DAFYDD
Cyflwynydd - Geraint Jones a Jina Gwyrfai
21 Medi
Cyfrol - ‘Y LÔN WEN’: KATE ROBERTS TAITH LENYDDOL: BRO KATE ROBERTS
15 Hydref
Cyfrol - ‘CYSGOD Y CRYMAN’: ISLWYN FFOWC ELIS
Cyflwynydd - Geraint Jones
19 Tachwedd
Cyfrol - ‘NEWYN A HAINT YNG NGHYMRU’: GLYN PENRHYN JONES
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
l0 Rhagfyr
Cyfrol - ‘FY NGHAWL FY HUN’: GERALLT LLOYD OWEN
Cyflwynydd - John Griffith
16 Ionawr
Cyfrol - ‘ENOC HUWS’: DANIEL OWEN
Cyflwynydd - Beti Wyn Owen a Sarah G. Roberts
20 Chwefror
Cyfrol - ‘GŴR O BARADWYS’: IFAN GRUFFYDD
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
20 Mawrth
Cyfrol - ‘Y LLEW OEDD AR Y LLWYFAN’ ERYL WYN ROWLANDS
Cyflwynydd - Geraint Jones
17 Ebrill
Cyfrol - ‘Y GWIN A CHERDDI ERAILL’: I. D. HOOSON
Cyflwynydd - John Griffith
15 Mai
Cyfrol - ‘CELWYDD GOLAU’: J. ELLIS WILLIAMS
Cyflwynydd - Sylvia Prys Jones
22 Medi
TAITH LENYDDOL
Cyfrol - ‘MAB Y BWTHYN’:
Cyflwynydd - CYNAN (Albert Evans-Jones)
16 Hydref
Cyfrol - ‘O’R INDIA BELL’: DAFYDD GLYN JONES
Cyflwynydd - Geraint Jones
20 Tachwedd
Cyfrol - ‘PERERINDODAU’: W. AMBROSE BEBB
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
18 Rhagfyr
Cyfrol - ‘SIWAN’: SAUNDERS LEWIS
Cyflwynydd - John Griffith
17 Ionawr
Cyfrol - ‘NES DRAW’: MERERID HOPWOOD
Cyflwynydd - Gwenllian Jones a Jina Gwyrfai
21 Chwefror
Cyfrol - ‘CANLYN ARTHUR’: SAUNDERS LEWIS
Cyflwynydd - Rhys ap Rhisiart
21 Mawrth
Cyfrol - ‘YNYS Y TRYSOR’: R. LLOYD JONES
Cyflwynydd - Geraint Jones
18 Ebrill
Cyfrol - ‘FFWRNEISIAU’: D. GWENALLT JONES
Cyflwynydd - Sylvia Prys Jones
16 Mai
Cyfrol - ‘LLYWELYN FAWR’:THOMAS PARRY
Cyflwynydd - Geraint Jones, Dawi Griffiths a Jina Gwyrfai
23 Medi
‘YNYS YR HUD A CHERDDI ERAILL’ TAITH LENYDDOL i ARDAL W.J.GRUFFYDD
17 Hydref
Cyfrol - ‘DRYCH YR AMSEROEDD’: ROBERT JONES, RHOS-LAN.
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
21 Tachwedd
Cyfrol - ‘CERDDI ERYRI’:CARNEDDOG
Cyflwynydd - Marian Elias Roberts a Beryl Griffiths
12 Rhagfyr
Cyfrol - Detholiad o ‘LLYFR MAWR Y PLANT’
Cyflwynydd - Richard Jones
10 Ionawr
Cyfrol -‘STORÏAU’R TIR’:D.J.WILLIAMS
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
16 Chwefror
Cyfrol -Pennod o ‘HANES CYMRU’:JOHN DAVIES
Cyflwynydd - Rhys ap Rhisiart
15 Mawrth
Cyfrol -Detholiad o ‘RHYWBETH YN TRWBLO’:DAFYDD GLYN JONES
Cyflwynydd - John a Mary Williams
19 Ebrill
Cyfrol -‘LUNED BENGOCH’:ELIZABETH WATKIN JONES
Cyflwynydd - Geraint Jones
17 Mai
Cyfrol -‘CYFRES BROYDD CYMRU...DYFFRYN CONWY: ERYL OWAIN
Cyflwynydd - Marian Elias Roberts
21 Mehefin
Cyfrol -‘GŴR PEN Y BRYN’: E. TEGLA DAVIES
18 Hydref
Cyfrol -‘AC YNA CLYWODD SŴN Y MÔR’: ALUN JONES
Cyflwynydd - Sarah G. Roberts
15 Tachwedd
Cyfrol -‘DYDDIAU OLAF OWAIN GLYNDŴR’:GRUFFUDD ALED WILLIAMS
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
20 Ionawr
Cyfrol - ‘CARTREFI CYMRU’: O. M. EDWARDS
Cyflwynydd - Jina Gwyrfai
17 Chwefror
Cyfrol - ‘PIGAU’R SÊR’: JOHN GRIFFITH WILLIAMS
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
17 Mawrth
Cyfrol - ‘HANES RHYW GYMRO’:JOHN GWILYM JONES
Cyflwynydd - Gwenllian Jones
21 Ebrill
Cyfrol - ‘Y WISG SIDAN’: ELENA PUW MORGAN
Cyflwynydd - Sylvia P. Jones
19 Mai
Cyfrol - ‘YR HIRDAITH’:ELVEY MacDONALD
Cyflwynydd - John a Mary Williams
16 Mehefin
Cyfrol - DETHOLIAD O GERDDI SAUNDERS LEWIS
Cyflwynydd - Geraint Jones
19 Medi
Cyfrol - ‘TELYNEGION MAES A MÔR’a TAITH LENYDDOL i FRO EIFION WYN
20 Hydref
Cyfrol - ‘COFIO’N ÔL’: HUNANGOFIANT GRUFFUDD PARRY
Cyflwynydd - Beryl Griffiths
17 Tachwedd
Cyfrol - ‘LLAWER IS NA’R ANGYLION’: JOHN ROWLANDS
Cyflwynydd - Jina Gwyrfai
15 Rhagfyr
Cyfrol - ‘MADOG’ ac ‘YMADAWIAD ARTHUR’: T. GWYNN JONES
Cyflwynydd - Gwenllian Jones
21 Ionawr
Cyfrol - DETHOLIAD O WAITH T. H. PARRY WILLIAMS
Cyflwynydd - Dawi Griffiths, Geraint Jones a Rhys ap Rhisiart
18 Chwefror
Cyfrol - ‘CRWYDRO LLŶN AC EIFIONYDD’: GRUFFUDD PARRY
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
18 Mawrth
Cyfrol -‘Y BRIODAS’: RHYDWEN WILLIAMS
Cyflwynydd - Jina Gwyrfai a Dawi Griffiths
15 Ebrill
Cyfrol - 2 Gywydd gan DAFYDD AP GWILYM:
‘TRAFFERTH MEWN TAFARN’
‘MORFUDD A DYDDGU’
2 Gywydd gan GERALLT LLOYD OWEN:
‘TRAFFERTH MEWN SIOP,
‘TRYWERYN’
Cyflwynydd - Geraint Jones
20 Mai
Cyfrol - ‘GORONWY DDIAFAEL, GORONWY DDU’: ALAN LLWYD
Cyflwynydd - John a Mary Williams
17 Mehefin
Cyfrol - ‘TAIR DRAMA’:W. S. JONES (WIL SAM)
Cyflwynydd - Alun Jones (Cyflwynydd Gwadd)
20 Medi
Cyfrol -GWIBDAITH LENYDDOL:
Cyflwynydd - ARDAL ROBERT AP GWILYM DDU
21 Hydref
Cyfrol - ‘TUCHAN O FLAEN DUW’: ALED JONES WILLIAMS
Cyflwynydd - Aled Jones Williams (Yr Awdur)
18 Tachwedd
Cyfrol - Cerdd ‘MAB Y BWTHYN’ : CYNAN (Albert Evans-Jones)
Cyflwynydd - Geraint Jones
16 Rhagfyr
Cyfrol - ‘WILLIAM JONES’:T. ROWLAND HUGHES
Cyflwynydd - Beti Wyn Owen a Sarah G. Roberts
15 Ionawr
Cyfrol - ‘HANES CYMRU YN Y BEDWAREDD GANRIF AR BYMTHEG’: R. T. JENKINS
Cyflwynydd - Geraint Jones
19 Chwefror
Cyfrol - ‘DIRGELWCH GALLT Y FFRWD’: E. MORGAN HUMPHREYS
Cyflwynydd - Jina Gwyrfai
19 Mawrth
Cyfrol - ‘NEB’: R. S. THOMAS
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
17 Ebrill
Cyfrol - ‘CRIBAU ERYRI’: RHIANNON DAVIES JONES
Cyflwynydd - Beti Wyn Owen a Sarah G. Roberts
21 Mai
Cyfrol - ‘MOELYSTOTA’: J. H. JONES
Cyflwynydd - Meinir Pierce Jones
18 Mehefin
Cyfrol - ‘BEDDAU’R PROFFWYDI’ W. J. GRUFFYDD
Cyflwynydd - Dafydd Glyn Jones (Y golygydd)
15 Medi
Cyfrol - CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD SIR DDINBYCH 2013
Cyflwynydd - Geraint Jones
19 Hydref
Cyfrol - ‘MERCH GWERN HYWEL’: SAUNDERS LEWIS
Cyflwynydd - Geraint Jones
19 Tachwedd
Cyfrol - ‘HEN ATGOFION’: W. J. GRUFFYDD
Cyflwynydd - Gwenllian Jones a Jina Gwyrfai
17 Rhagfyr
Cyfrol - ‘MAE PAWB YN CYFRIF’: GARETH FFOWC ROBERTS
Cyflwynydd - Gareth Ffowc Roberts (Yr Awdur)
17 Ionawr
Cyfrol - ‘GWEN TOMOS’: DANIEL OWEN
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
21 Chwefror
Cyfrol - ‘STORÏAU’R HENLLYS FAWR’: W.J.GRIFFITH
Cyflwynydd - Geraint Jones
20 Mawrth
Cyfrol - ‘TRAED MEWN CYFFION’: KATE ROBERTS
Cyflwynydd - Diane Jones
17 Ebrill
Cyfrol - ‘CYMRU FYDD’: SAUNDERS LEWIS
Cyflwynydd - Geraint Jones (nodiadau Angharad Roberts)
15 Mai
Cyfrol - ‘WYTHNOS YNG NGHYMRU FYDD’: ISLWYN FFOWC ELIS
Cyflwynydd - Sylvia Prys Jones
19 Mehefin
Cyfrol - ‘CERDDI’R GAEAF’ ac ‘YR HAF A CHERDDI ERAILL’: R.WILLIAMS PARRY
Cyflwynydd - Rhys ap Rhisiart
18 Medi
Cyfrol - ‘CYFANSODDIADAU EISTEDDFOD BRO MORGANNWG’
Cyflwynydd - Jina Gwyrfai
16 Hydref
Cyfrol - ‘EMRYS AP IWAN; BREUDDWYD PABYDD WRTH EI EWYLLYS’: DAFYDD GLYN JONES (Gol.)
Cyflwynydd - Dafydd Glyn Jones
20 Tachwedd
Cyfrol - ‘I HELA CNAU’: MARION EAMES
Cyflwynydd - Dawi Griffiths
18 Rhagfyr
Cyfrol - ‘CILMERI A CHERDDI ERAILL’: GERALLT LLOYD OWEN
Cyflwynydd - Y Prifardd Ieuan Wyn

