"Anghofio yw Bradychu"

Cartref > Archif > Utgorn Cymru

Utgorn Cymru

4 Gorffennaf 2015    

Taith Glyndŵr     

Ymweld â Chorwen, Glyndyfrdwy a   Sycharth. Swper yn Llanuwchllyn.

 

12 Gorffennaf 2014

Elfed Roberts yn arwain    

Taith i Ardudwy gyda sylw arbennig i’r Lasynys, Eglwys Ellis Wynne ac Eglwys Llanfihangel-y-traethau.


17 Mai 2014

Y Prifardd Cen Williams    

Taith yn ne-ddwyrain Môn dan ei arweiniad


6 Goffennaf 2013

Eryl Owain

Taith trwy Ddyffryn Conwy i Benmachno  Swper yn Amser Da, Llanrwst.

 

28 Ebrill 2013

Dan arweiniad J. Dilwyn Williams.Ymwelwyd â: Glasfryn Fawr, Eglwys Llannor, Rhydyclafdy, Llanfihangel

Bachellaeth a Thywyn (Tudweiliog) yna swper yng Ngwesty Nanhoron, Nefyn    Taith Utgorn Cymru trwy Lŷn yn ôl troed Hywel Harris

 

Isod mae rhestr o bob sgwrs sydd ym mhob rhifyn o’r Utgorn.

2022 - 2024

Gyrfa Emrys ap Iwan
Braslun gan DAWI GRIFFITHS o yrfa un o Gymry mwyaf nodedig ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Cenedlaetholwr arloesol a digyfaddawd, awdur miniog a dychanol ac Ewropead eang ei olygon.
 
Un o’r Cymry mwyaf
Emrys ap Iwan yw testun y sgwrs hon hefyd gan JINA GWYRFAI, lle mae’n ymdrin yn benodol â daliadau gwleidyddol y gwron hwn a’u perthnasedd i’r oes bresennol.  I gyd-fynd â’r ymdriniaeth ceir dyfyniadau perthnasol o ysgrifau tanbaid Emrys.
 
Hawl i Fyw Adra
Mudiad a sefydlwyd yn Nefyn ychydig flynyddoedd yn ôl yw Hawl i Fyw Adra, yn wyneb yr argyfwng enbyd yn ein cymunedau a achosir gan fewnfudo ac ail gartrefi. Yma mae RHYS TUDUR, un o sefydlwyr y mudiad, yn rhoi hanes ei sefydlu a’i amcanion i fynnu deddfwriaeth i reoleiddio’r fasnach dai yn un peth.
 
Helynt Chatham Street  (1)
Rhan gyntaf sgwrs gan GERAINT TUDUR yn ymdrin â’r helynt enbyd a rwygodd enwad y Methodistiaid Calfinaidd yn Lerpwl ar droad yr ugeinfed ganrif pan ddygwyd cyhuddiadau o feddwdod ac anlladrwydd yn erbyn y Parch. W.O. Jones, gweinidog eglwys gref Chatham Street. Arweiniodd yr helynt chwerw at sefydlu enwad newydd yn Lerpwl, Eglwys Rydd y Cymry, a ffynnodd am rai blynyddoedd cyn edwino erbyn y 1920’au.

Porthmon Llyn Gele
GARETH HAULFRYN WILLIAMS yn rhoi darlun cyflawn o fywyd y porthmyn Cymreig dair canrif yn ôl drwy edrych ar yrfa Abraham Williams o Lyn Gele, Pontllyfni, a fu’n porthmona ar raddfa weddol fawr yn ail hanner yr 17g. Sefydlodd linach o borthmyn a fu’n parhau â’r gwaith am sawl cenhedlaeth.

 

Andalwsia
GERAINT JONES yn ymdrin â’r dôn boblogaidd Andalusia a’i chefndir gan roi golwg ar gyfoeth cerddoriaeth y cysegr yn Nyffryn Ogwen a’r cyffiniau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.  Caiff ceffylau pedigri Andalwsia yn ne Sbaen a hanes y cerddorion Robert Williams, Cae Aseff, William Owen, Prysgol, William Roberts, Ty’n y Braich (awdur y dôn) ac Ieuan Gwyllt eu gwau i’r stori.

 

Palmwydd Clyd Llangybi
TWM PRYS JONES yn trafod hanes sefydlu mynwent Capel Helyg yn Eifionydd a pham y claddwyd y gweinidog a’r emynydd amlwg William Ambrose (Emrys) yno. Ceir golwg ar y croesdynnu cyson a welid ymysg yr enwadau anghydffurfiol yn y 19g a’r modd y cyfrannodd rhai o bobl gefnog Porthmadog yn hael at godi capel newydd Capel Helyg ym 1877.

 

Parti Tai’r Felin
Recordiad o ddyn mawr y ‘pethe’ BOB LLOYD (LLWYD O’R BRYN) yn sgwrsio am hynt a helynt Parti Tai’r Felin yn ail chwarter yr 20g a thipyn o’u troeon trwstan, gyda’r anfarwol BOB ROBERTS TAI’R FELIN yn canu rhai o’r caneuon a’i gwnaeth yn ‘eilun cenedl’.

Y cwlwm sy’n creu: cyfoeth Diwylliant Gwerin Cymru
ROBIN GWYNDAF yn ymdrin â chyfoeth ein diwylliant gwerin mewn darlith a draddodwyd ganddo yn y Ganolfan ym Medi 2022. Rhoddodd sylw i amryfal haenau ein diwylliant gwerin a chafwyd nifer o straeon gwerin o wahanol rannau o Gymru, gan sylwi ar y modd y mae’r un math o storïau yn ymddangos mewn ardaloedd pur bell oddi wrth ei gilydd, ac yn wir yn croesi ffiniau gwledydd.


Y Lasynys
SIÂN LLYWELYN yn cyflwyno hanes sefydlu Cyfeillion Ellis Wynne a’r gwaith a wnaed i adnewyddu cartref yr awdur adnabyddus i’w gyflwr cynhenid. Bu’n ymdrin hefyd â’r datblygiadau diweddaraf sydd ar y gweill yno.


Gwir Arwyr ac Yr Arwr Anhysbys
IEUAN WYN yn darllen cyfres o englynion a gyfansoddodd i fawrygu aberth Trefor ac Eileen Beasley dros y Gymraeg – cyflwynwyd yr englynion i Eileen Beasley mewn cyfarfod arbennig yn y Ganolfan yn 2012. Hefyd cywydd a gyfansoddodd i gofio darlith nodedig a draddododd Saunders Lewis ar Guto’r Glyn i’r Academi Gymreig yn 1974.


Edrych yn ôl
Sgwrs ddifyr gan y diweddar (ysywaeth erbyn hyn) Emlyn Richards yn cyflwyno yn ei ddull dihafal ei hun rai o’i atgofion a rhai dylanwadau arno dros y blynyddoedd.

Angor yr Iaith?
Ymdriniaeth fer gan ALWYN PRITCHARD ar Gyngor Dosbarth Dwyfor – yr unig gyngor yng Nghymru, ysywaeth, a oedd yn cynnal ei holl weithrediadau a’i weinyddiaeth fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Cafwyd hanes ei sefydlu a’i ddulliau gweithredu. Trist meddwl iddo gael ei ddiddymu gydag ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996.
 
Y cawr o Bwllheli
Dyn bychan ac egwan o gorffolaeth oedd John Robert (J.R.) Jones ond roedd yn gawr o genedlaetholwr, meddyliwr ac athronydd. Yn y portread cryno hwn ohono gan GERAINT JONES sonnir fel y bu’n gefn a lladmerydd eofn i’r frwydr dros sicrhau tegwch a chyfiawnder i’r Gymraeg yn y 1960au, a bu ei farwolaeth annhymig yn 1970 yn golled eithriadol.   
 
‘Rhydcymerau’ (Gwenallt); ‘Preseli’ (Waldo Williams)
MEGAN LLOYD WILLIAMS yn darllen y ddwy gerdd adnabyddus hyn gan ddau o’n beirdd cenedlaetholgar amlycaf.
 
Pedwar Cymro ym Môr y De
Sgwrs sylweddol gan WIL AARON yn ymdrin â hanes cythryblus a dirdynnol y cenhadon Cymraeg cyntaf a aeth allan i Tahiti ym Môr y De. Darlun tra gwahanol a geir yma i’r portread arferol o fyd y cenhadon gyda pheryglon ymdrin â brodorion gelyniaethus, afiechydon trofannol ac agwedd fileinig rhai o’r cenhadon Seisnig tuag at y Cymry yn cael sylw amlwg – sefyllfa a arweiniodd at hunanladdiad a gwallgofrwydd.
 
‘Pobol Drws Nesa’
BOB ROBERTS, TAI’R FELIN, un o’n prif gantorion gwerin, yn cloi’r Utgorn hwn gyda datganiad hwyliog o’r hen gân adnabyddus a doniol hon. 

Triawd y Coleg (3)
Rhan olaf y sgwrs gofiadwy a draddodwyd gan y diweddar CLEDWYN JONES yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai dros ddegawd yn ôl. Cafwyd cyfle i wrando ar rai o glasuron y Triawd, megis Triawd y Buarth a Mari Fach, a nifer o straeon difyr am eu perfformiadau.
 
Y dyn drwg
DAFYDD WIGLEY’N sôn am ddafad ddu (iawn) ei deulu – Llywelyn Humphreys – a hanai o deulu Cymraeg parchus ond a ddaeth yn un o benaethiaid gangsters Chicago ac a adwaenid fel Murray the Hump. Dyma ddyn a oedd â gafael dynn ar rai o fawrion cymdeithas ei ddydd – yn farnwyr, llywodraethwyr taleithiau a gwleidyddion – ac efallai’n wir fod ganddo gysylltiad â’r cynllwyn i ladd J.F. Kennedy.
 
Helynt Brewer-Spinks
DAWI GRIFFITHS yn ymdrin â’r helynt fawr a daniodd yn Nhanygrisiau yn haf 1965 pan wnaeth ynfytyn o reolwr ffatri yno,  W. Brewer-Spinks , rwystro ei weithwyr rhag siarad Cymraeg yn y gwaith a gwneud iddynt lofnodi dogfen i’r perwyl hwnnw. Cafwyd protestiadau tanbaid yn erbyn ei weithred haerllug a buan iawn y bu’n rhaid iddo ildio.
 
Cymru /  I Say, Man!
Dau ddarlleniad gan SARAH ROBERTS, sef soned nodedig Gwenallt, ‘Cymru’, ac ‘I Say, Man!’ – darn dychanol gan yr arch-ddychanwr, Emrys ap Iwan.
 
Dymchwel Plas Penyberth
J. DILWYN WILLIAMS yn cyflwyno’r hanes trist a chywilyddus am ddymchwel plasty hynafol Penyberth i wneud lle i safle’r ysgol fomio yn Llŷn. Bu’r plas a’i ddeiliaid yn rhoi nawdd i  feirdd a chrefyddwyr am genedlaethau ac yn rhan annatod o hanes gwlad Llŷn.
 
Ein Trysor / Ein Gwinllan
LIS JAMES yn darllen ‘Ein Trysor’ (sef yr iaith Gymraeg) o waith D.J. Williams ac ‘Ein Gwinllan’ – detholiad o ddrama Buchedd Garmon gan Saunders Lewis.
 
Iwnion Jac y Castell
GERAINT JONES yn rhoi hanes y weithred arloesol yn ei dydd pryd y tynnodd cenedlaetholwyr pybyr yr Iwnion Jac oddi ar Dŵr yr Eryr yng nghastell Caernarfon ar Ŵyl Ddewi 1933 a dyrchafu’r Ddraig Goch i gyhwfan yn ei le. Cafodd y weithred gymeradwyaeth wresog gan rai a oedd ar y Maes ar y pryd ac yn dilyn y brotest honno rhoddwyd lle teilwng i’r Ddraig ar y tŵr wedi hynny.
 
Galwad y Tywysog
Clo teilwng i’r Utgorn gyda datganiad nerthol DAFYDD EDWARDS o’r unawd enwog hon.

Teyrngedau i Dewi Williams

Dwy deyrnged i’r diweddar Dewi Williams, Penmorfa (a Threfor yn wreiddiol), a fu farw fis Tachwedd 2022.  Yn ei theyrnged iddo cofiodd MEGAN LLOYD WILLIAMS amdano’n neilltuol fel dyn ei fro a’i gyfraniadau a’i gymwynasau lu i gymdeithasau lleol ac yn neilltuol i bapur bro Eifionydd, Y Ffynnon. Yn ei deyrnged yntau fe wnaeth DAWI GRIFFITHS ei goffáu fel athro a chyfaill. Cyfeiriodd at ei gyfraniad sylweddol i astudiaethau ar hanes Eifionydd yn arbennig, a hefyd ei gefnogaeth gyson ar hyd y blynyddoedd i Gymdeithas Hanes Trefor ac i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai.

 

Cyffro yn Eifionydd

Cyfle i wrando ar sgwrs a draddododd y diweddar DEWI WILLIAMS ar gyfer rhifyn 12 o’r Utgorn yn 2007. Bu’n ymdrin â’r sgarmesoedd gwaedlyd a ddigwyddodd rhwng rhai o deuluoedd uchelwrol Eifionydd yn y 15g a’r 16g – hen gynnen a oedd yn mynd yn ôl ganrifoedd rhwng disgynyddion Owain Gwynedd a disgynyddion Collwyn ap Tangno, arglwydd Eifionydd yn y 12g.

 

Dyn drwg a dyn da

GARETH HAULFRYN WILLIAMS yn cyflwyno hanes dau ddyn tra gwahanol i’w gilydd a fu’n weinidogion yn Nyffryn Nantlle yn hanner cyntaf y 19g – Isaac Harding Harris a George Rhydero. Er yn bregethwr nerthol trodd y cyntaf allan yn ddyn ofer a thwyllwr, a fu yn y carchar sawl gwaith, tra roedd yr ail ar y llaw arall yn ddyn hynod uchel ei barch ac yn un o gonglfeini ei gymdogaeth.

 

Dyn dewr – y Capten John Humphreys

Sgwrs gan DAFYDD WIGLEY am ei hen daid, y Capten John Humphreys o Bwllheli. Dangosodd ddewrder eithriadol wrth achub criw o long Americanaidd yn ystod storm enbyd yn yr Iwerydd ym 1889, a chafodd ei anrhydeddu gan Lywodraeth America gydag oriawr aur ysblennydd a thystysgrif.

 

Triawd y Coleg (2)

Ail ran sgwrs CLEDWYN JONES. Bu’n sôn sut y daeth y triawd i sylw Sam Jones o’r BBC ym Mangor gan ddod drwy hynny’n rhan allweddol o’r rhaglen Noson Lawen a fu mor boblogaidd am flynyddoedd.

 

Yr Hen Fodan a’r Ffliw

Un arall o adroddiadau dihafal Y Co Bach (Richard Hughes).

Y Fedw Deg
ERYL OWAIN yn cyflwyno hanes difyr stad Y Fedw Deg a’i chysylltiadau â thywysogion Gwynedd, ynghyd â’r frwydr lwyddiannus yn erbyn Y Comisiwn Coedwigaeth i’w atal rhag dymchwel yr hen ffermdy a godwyd ym 1588-89.

 

Triawd y Coleg (1)
Cyfle i wrando ar ran gyntaf darlith a draddododd y diweddar CLEDWYN JONES yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai yn 2009.  Bu’n sôn am ddechreuadau Triawd y Coleg a’r modd y daeth ef i gysylltiad ac i gydweithio â’r ddau aelod arall, Meredydd Evans a Robin Williams.

 

Dirgelwch y Brenin Coll (2)
Ail ran sgwrs BOB MORRIS am helyntion y brenin Edward II, gan ymdrin â’i gysylltiadau Cymreig, ei farwolaeth honedig erchyll a’r straeon a ddaeth ar led nas lladdwyd mewn gwirionedd ond iddo lwyddo i ddianc o’i gaethiwed a ffoi i’r cyfandir.

 

Meical – Y dyn da
DAFYDD WIGLEY yn ymdrin â’i hen, hen, hen daid o ochr ei fam, Y Parch. Michael Roberts, Pwllheli. Bu’n sôn am ei wreiddiau Methodistaidd, ei rymuster fel pregethwr ac yn arbennig ei gyfnod yn weinidog eglwys Penmount, Pwllheli.

 

Gildas (3)
IESTYN DANIEL yn dod â’i ddarlith ar Gildas i fwcwl gan ymdrin â’r gwahanol ddamcaniaethau ynghylch awduraeth Llythyr Gildas a’r gwaith a elwir yn Dinistr Prydain, ac ai un ynteu dau awdur a’u lluniodd.

 

Dafydd Ddu Eryri
DAWI GRIFFITHS yn dwyn i gof ddauganmlwyddiant marw’r bardd, athro beirdd ac ysgolfeistr. Fe’i hanfarwolwyd yn un o sonedau mawr R.  Williams Parry, “Ymson ynghylch amser” sy’n dechrau fel hyn:  “Hon ydyw’r afon, ond nid hwn yw’r dŵr a foddodd Ddafydd Ddu..”


Mordaith Dau Gyfaill
GWAWR JONES yn adrodd stori afaelgar am Iorthryn Gwynedd a Thanymarian, dau weinidog amlwg yng Nghymru, a adawodd ddociau Lerpwl i hwylio dros yr Iwerydd i Efrog Newydd ar y llong “City of Paris” a thros fil o deithwyr ar ei bwrdd. Diweddodd y daith mewn modd hynod drist a theimladwy.


Helyntion William Morgan
ERYL OWAIN yn sôn am rai o’r helyntion annifyr a ddaeth i ran yr Esgob William Morgan yn Llanrhaeadr ym Mochnant. Er y croeso a’r canmol diddiwedd, ynghyd â chywydd digri Rhys Gain a’i wyddau a Teigr, sef milgi gwyllt yr Esgob,  bu pennod chwerw iawn yn ei hanes – pennod yr ymdaro â theulu Lloran Uchaf ac Ifan Meredydd, y cyfreithiwr.


Dirgelwch y Brenin Coll (1)
Rhan gyntaf sgwrs BOB MORRIS. Y Brenin dan sylw yw Edward yr Ail a elwid Edward o Gaernarfon hyd nes iddo gael ei goroni yn 1307. Roedd perthynas agos rhyngddo â dau Gymro amlwg.


Gildas (2)
IESTYN DANIEL yn manylu ar Lythyr Gildas — prif waith ein hanesydd cyntaf un —  a ysgrifennwyd tua’r flwyddyn 520, o bosib ar Ynys Echni. Mae’n colbio Maelgwn Gwynedd yn ddidrugaredd ac ymbilia arno i roi’r gorau i’w ddrygioni ac addoli Duw.

Apêl y Golygydd
Apêl GERAINT JONES am gefnogaeth i safiad di-ildio y Ganolfan hon yn erbyn Eglwys Bresbyteraidd Cymru am eu bod wedi diddymu ein hawliau ynglýn ã stiwdio Utgorn Cymru a’n gorchymyn i wagio’r ystafell rhag blaen er mwyn iddynt hwy gael ei gwerthu.  Y canlyniad yw y gall y rhifyn hwn o Utgorn Cymru fod yr olaf un a bod y Ganolfan ei hun yn y fantol.


Saunders Lewis
SAUNDERS LEWIS yn adrodd Gweddi’r Terfyn, un o’i gerddi mawr olaf; yn cofio’r gymdeithas uniaith Gymraeg y bu’n byw ynddi yn Lerpwl a’r modd y dylanwadodd Emrys ap Iwan arno.


Gwreiddiau yn Eifionydd (4)
Cipolwg dadlennol R. TUDUR JONES ar fywyd teuluol yn Eifionydd, yn cynnwys y cefndir crefyddol holl-bresennol, llongdddrylliad erchyll a ddaeth i ran un o’r teulu a mân betheuach difyr.


Hen Ŵr Pencader
GERAINT JONES yn dwyn i gof achlysur dadorchuddio cofeb Hen Ŵr Pencader o wenithfaen Trefor yn 1952. Ar ei daith trwy Gymru yn 1163 gofynnodd y brenin Harri II am ba hyd y llwyddai Cymru i wrthsefyll grym ac awdurdod Lloegr.  Ond mynnodd un hen ŵr dienw, dewr, roi ateb grymus ac urddasol iddo.


Gildas (1)
IESTYN DANIEL, cyfieithydd tra chymeradwy o’r Lladin ac awdurdod ar gefndir, bywyd a gwaith Gildas, ein hanesydd cynharaf.  Rhoddodd Gildas le yn ei waith i’r modd y parhaodd dylanwad yr Ymerodraeth Rufeinig ar ein gwlad yn ei gyfnod ef. Hanai o’r Hen Ogledd, mae’n debygol ei fod yn ddisgybl i Cadfan, a bod tyndra rhyngddo ef a Dewi Sant a’i ddilynwyr.  Ysgrifennai yn Lladin ac roedd ganddo wybodaeth o’r Frythoneg.


Yr Esgob William Morgan a’i fro
ERYL OWAIN  yn crynhoi cynnwys ei lyfr difyr  yn adrodd hanesion am yr Esgob ei hun, ei gartref a’i fro, a’i ymroddiad llwyr i’r gwaith o gyfieithu’r Beibl er gwaethaf bygythiadau ac anawsterau lu.


Haf Gwlyb1922                                                                                                              
DAWI GRIFFITHS  yn y cyfnod presennol o newid hinsawdd yn cael ei atgoffa o eithafion tywydd Haf 1922, ganrif union yn ôl, testun cywydd byr, byr, crefftus R. Williams Parry.   


‘Ai lyf Cynafron . . . ’                                                                                                                  
Darn byrrach RICHARD HUGHES, Y CO’ BACH, yn llawn hwyl a direidi gan ddangos dawn arall oedd ganddo.

 

Tynged yr Iaith
Cyfle i wrando ar funudau olaf Darlith Radio SAUNDERS LEWIS, 13 Chwefror 1962,  gyda sylw arbennig i ymdrech ddi-ildio Trefor ac Eileen Beasley am 8 mlynedd cyn llwyddo i gael papur y dreth yn Gymraeg ac wedi i 400,000 lofnodi deiseb.


Anrhegu Eileen Beasley   
Recordiad o ran o’r cyfarfod yng Nghanolfan Uwchgwyrfai i anrhydeddu Eileen Beasley, pryd y cyflwynwyd  englynion godidog Y Prifardd Ieuan Wyn iddi. Lleisiau IEUAN WYN/GERAINT JONES.


Pwy biau William Morgan?
ERYL OWAIN yn adrodd hanes dadlau tanbaid yn y wasg rhwng plwyfi Penmachno a Dolwyddelan am yr hawl i fod yn berchen ar Yr Esgob William Morgan, cyfieithydd Y Beibl i’r Gymraeg.


Hafod Ceiri
SIANELEN PLEMING yn adrodd hanes sefydlu cynllun Hafod Ceiri : Canolfan Dreftadaeth ym mhentref Llithfaen ar odre deheuol mynyddoedd yr Eifl.


T. Artemus Jones (2)
Ail ran sgwrs BOB MORRIS am y cyfreithiwr a’r barnwr enwog, yn cynnwys achos Syr Roger Casement, y diplomydd cydwladol a gyhuddwyd o deyrnfradwriaeth yn yr Old Bailey yn 1916.


Afon yng Nghlynnog
MARIAN ELIAS ROBERTS yn deisyfu ar i Lywodraeth Cymru ddiogelu enwau lleoedd  yn statudol fel mater o frys trwy dynnu sylw at y cysylltiadau rhyfeddol rhwng afon y codwyd pont drosti ym mhlwy Clynnog yn 1777 ac un o “Englynion y Beddau”, Elidir Mwynfawr, ceffyl hynod, Afon Gweryd yn yr Alban a nifer o chwedlau eraill.


Y Co’ Bach
RICHARD HUGHES  yr adroddwr yn parhau â straeon poblogaidd “Y Co Bach” o waith Gruffudd Parry, yn cynnwys hanes y dannedd gosod.

T. Artemus Jones
BOB MORRIS, yr hanesydd poblogaidd, yn dwyn i gof fab i saer yn Ninbych a ddaeth yn un o fargyfreithwyr mwyaf blaenllaw Cymru yn ei ddydd. Ymysg rhai o’i achosion enwocaf oedd amddiffyn W.J. Parry adeg Streic Fawr y Penrhyn, a’r drwgweithredwr Coch Bach Y Bala.


Gwreiddiau yn Eifionydd (3)
R. TUDUR JONES, trwy gyfrwng dyddiaduron ei daid, yn gweld patrwm bywyd ar Stad y Gwynfryn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel ffiwdaliaeth.


Plas Carmel Anelog yn Llŷn
ELFED GRUFFYDD, un o gymwynaswyr mawr Gwlad Llŷn, yn sôn am y modd y llwyddwyd i ddenu cyllid i adfer capel bach Carmel, Anelog, a’r tŷ dan yr unto yn ogystal â’r siop. Bydd y tŷ ar gael i’w osod i deulu lleol yn y dyfodol agos ac mae’r siop/bwyty/arddangofa eisoes yng ngofal pâr ifanc brwdfrydig.


Pais Dinogad
DAWI GRIFFITHS yn gweld patrwm bywyd plentyn bach mewn hwiangerdd a drosglwyddwyd ar dafod leferydd o genhedlaeth i genhedlaeth o’r chweched ganrif. Fe’i hysgrifenwyd tua’r ddeuddegfed ganrif ac mae hi yma o hyd.


Llysenwau ym Mangor
HOWARD HUWS yn cael hwyl ar rannu â ni ran o’i gasgliad helaeth o lysenwau gwreiddiol ardal Bangor.


Steddfod Bangor ’71
Y llysenw enwocaf oll hanner canrif yn ôl oedd Y Co’ Bach (o Gaernarfon), ffefryn llwyfan yr hen Noson Lawen. Yma ceir ei hanes ef, Yr Hen Fodan (ei wraig), a Wil Bach (eu mab), yn Eisteddfod Bangor, 1971.  RICHARD HUGHES Y CO BACH yw’r adroddwr.

2017 - 2021

Johnny Owen

GERAINT JONES, Golygydd yr Utgorn, yn dwyn i gof y bocsiwr pwysau bantam o Ferthyr Tudful, a fu’n byw a marw wrth ei waith.

 

Dinas Emrys

DAWI GRIFFITHS yn mwynhau dringo i ben hen gaer Dinas Emrys yn Nantgwynant, Eryri, safle o bwys yn hanes Cymru y cysylltir chwedlau am y ddraig wen a’r ddraig goch â hi ac y cafwyd tystiolaeth archaeolegol ddifyr ynddi.

 

Syr Hugh Ellis Nannau

R. TUDUR JONES yn sylwi ar berthynas Sgweiar y Gwynfryn â’i weithwyr mewn byd tlawd, caled, yn nyddiaduron ei daid, Robert Williams, saer coed y Gwynfryn

 

Gormes ym Mhenllyn

MARIAN ELIAS ROBERTS yn adrodd hanes gorthrwm ffiaidd landlordiaeth ddidostur y bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Mhenllyn, Meirionnydd ac am ymdrech un ffermwr i oresgyn creulondeb annynol a thorïaidd meistr tir yn dilyn etholiadau seneddol.

 

Madrun Nyfain

JINA GWYRFAI, Curadur Amgueddfa Forwrol Llŷn, yn adrodd hanes darganfod sgerbwd dynes mewn bedd cist garreg ger seiliau’r hen eglwys (sy’n gartref i’r amgueddfa). Roedd oddeutu hanner cant oed pan gafodd ei chladdu yno rhwng tua 1165 a 1270, ac mae’r darganfyddiad yn agor ein llygaid i gyfnod allweddol yn hanes Cymru.

 

W. Gilbert Williams

GARETH HAULFRYN WILLIAMS wedi ei gyfareddu gan arloeswr dylanwadol ym maes hanes lleol a chymwynaswr mawr Hanes Cymru.

Gwreiddiau yn Eifionydd 

R. TUDUR JONES, un o gewri’r ugeinfed ganrif, yn adrodd stori gartrefol, ddifyr am ddyddiadur gwaith ei dad sydd yn cynnwys rhai arferion cymdeithasol colledig ymysg hyd at dair cenhedlaeth o seiri meini. Byrdwn y stori yw ei bod yn hen arfer mewn rhannau o’n gwlad i losgi holl bapurau’r teulu wedi iddynt farw, a hynny er dirfawr golled i bawb. Recordiwyd y sgwrs hon chwarter canrif yn ôl. Y 28ain o Fehefin eleni yw canmlwyddiant ei eni.
Enwau Lleoedd yn Eifionydd    MARGIAD ROBERTS yn parhau i’n goleuo ar darddiad rhai enwau lleoedd.

 

Dyn codi pwysau    

ALWYN PRITCHARD, dyn codi pwysau go iawn, yn ein swyno â’i hanes ef ei hun yn bencampwr codi pwysau lled drwm Cymru ddeugain mlynedd a rhagor yn ôl, heb anghofio ei ddau gyfaill, Ieuan Owen, Caernarfon ac Eifion Hughes, ffermwr Brychyni yn Eifionydd â’i fôn braich syfrdanol o nerthol.

 

Dafydd William, Llandeilo Fach 

 DAWI GRIFFITHS yn tynnu sylw at drichanmlwyddiant geni Dafydd William, Llandeilo Fach, eleni – teiliwr, un o athrawon cylchynol Griffith Jones, Llanddowror, pregethwr a bardd. Fe’i hystyrir ymysg y dosbarth o emynwyr agosaf o ran safon at William Williams Pantycelyn ac Ann Griffiths.

 

Rhai meddygin-iaethau ym myd anifeiliaid fferm

ANNE ELIZABETH WILLIAMS, awdur Meddyginiaethau Gwerin Cymru, un o’n llyfrau pwysicaf un, yn codi cwr y llen ar rai meddyginiaethau ym myd anifeiliaid fferm tuag at wella dolur gwddw, rhyddni, moelni, pigiad draenen, miwmonia, y pas a phigiad neidr.

 

Hyn sydd yn ofid im

DAFYDD IWAN yn canu ei gân o’r saithdegau sydd yn edrych ar ein brwydr ni yng Nghymru fel rhan o frwydrau cyffelyb ledled y byd.

 

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

Gerallt Lloyd Owen  

Atgofion difyr EVIE WYN JONES  am y Prifardd Gerallt Lloyd Owen a fu’n gyfaill agos ac yn gymydog iddo.

 

Ellis Bryn Coch    

MARIAN ELIAS ROBERTS yn dwyn i gof yr arlunydd a’r cartwnydd athrylithgar Ellis Owen Ellis, Bryn Coch, Aber-erch, gan olrhain hanes ei Oriel y Beirdd, un o drysorau diflanedig ein cenedl.

 

Capel Bach Nanhoron    

JOHN DILWYN WILLIAMS yn adrodd hanes Capel Ymneilltuol hynaf Gogledd Cymru sydd â’i ddyfodol bellach yn ddiogel.

 

Enwau Lleoedd yn Eifionydd  

 Y tro hwn, Bwlch, Drws a Llysiau yw pynciau ymchwil MARGIAD ROBERTS.

 

Llun gwerthfawr    

Stori gyffrous GARETH HAULFRYN WILLIAMS am lun a ddarganfuwyd o fewn ffiniau Uwchgwyrfai a fu’n loes calon i deulu uchelwriaethol ond yn llawn llawenydd i rai estroniaid.

 

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

Llwythi Llongau Llŷn    

Sgwrs ddifyr gan GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn- archifydd Gwynedd, am y cyfnod 300 mlynedd a rhagor yn ôl cyn bod sôn am y lôn bost pan ddibynnid llawer ar longau i gludo gwahanol nwyddau.

 

O.M. Edwards  

 DAWI GRIFFITHS yn dod â hanes OM Edwards i ben trwy olrhain ei hanes fel prif arolygwr addysg Cymru a chawn hanes ei wraig Elin a’i diwedd adfydus, ei ymlyniad yn ystod y Rhyfel Mawr  at weithgareddau recriwtiol John Williams Brynsiencyn, John Morris Jones a Lloyd George ac am y “Syr” a gafodd yn wobr am yr ymlyniad ymerodrol hwn.

 

Afonydd Eifionydd  

Y tro hwn aiff MARGIAD ROBERTS  i ddilyn lli’r afonydd yn bennaf yng nghwmwd Eifionydd. Gŵyr pawb, mae’n debyg, am Dwyfor a Dwyfach, Glaslyn ac Erch, ond beth am afonydd Carrog a Ferlas, Henwy a Chwilogen, Colwyn a Faig?  A llu o rai eraill.

 

Castell Gwrych    

Sgwrs ddifyr gan BOB MORRIS am Gastell Gwrych ger Abergele a Felicia Hemans, bardd cynhyrchiol mawr ei dylanwad a dreuliodd ran o’i phlentyndod yno. Enillai fwy o arian am ei gwaith hyd yn oed na Jane Austen, Wordsworth a Tennyson.  Dylanwadwyd rhywfaint arni gan y diwylliant Cymreig.

 

Nennius    

DAFYDD GLYN JONES yn parhau â’i ddarlith gyfoethog ar Nennius, yr hanesydd cynnar, cynnar yn ein hanes. Yma mae ar drywydd tri o enwogion Cymreig: Maelgwn Gwynedd, y Brenin Arthur a Gwrtheyrn.

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

Mynydd Epynt    

GERAINT JONES yn adrodd hanes ysgytwol y diwedd ar fywyd gwâr Mynydd Epynt pryd y cipiodd y Swyddfa Ryfel yn Llundain gartrefi 219 o bobl a phlant 80 mlynedd yn ôl i eleni.

 

O.M. Edwards  

DAWI GRIFFITHS yn parhau â’i sgwrs ar achlysur canmlwyddiant marw O.M. Edwards yn 1920: yn fyfyriwr yn Rhydychen; yn teithio’r cyfandir a’r ysgrifennu a’r cyhoeddi toreithiog a ddigwyddodd yn ei hanes wedyn.

 

Nennius  

DAFYDD GLYN JONES yn parhau â’i ddarlith gyfoethog ar Nennius, yr hanesydd cynnar, cynnar yn ein hanes. Yma mae ar drywydd tri o enwogion Cymreig: Maelgwn Gwynedd, y Brenin Arthur a Gwrtheyrn.

 

Dau Ieuan Gwynedd    

JINA GWYRFAI, Ysgrifennydd Utgorn Cymru, yn sôn am yr Ieuan Gwynedd a fu’n gwrthwynebu’n gryf Frad y Llyfrau Gleision ac a fu’n gyfrifol am gyhoeddi cylchgrawn cyntaf merched Cymru. Ac am yr Athro Hanes Cymru o’r un enw a fu farw bron yn 98 oed yn 2018, a weddnewidiodd y pwnc, yn cynnwys anghyfiawnder Brad y Llyfrau Gleision.

 

Canu Protest y 1960au (2)     

DAFYDD IWAN yn parhau â’i draethiad difyr am ganu protest y 1960au.
     

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

O.M. Edwards (1)    

DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes cynnar O.M. Edwards, y gŵr a roddodd mor hael  i Gymru.

 

Coed Eifionydd    

MARGIAD ROBERTS yn tynnu sylw at nifer rhyfeddol o enwau llefydd yn Eifionydd sydd yn deillio o enwau’r fedwen, y wernen, yr onnen, y gelynnen, yr helygen, y dderwen, y gollen a’r pren.
Diolch, Marian    Rhai o gydweithwyr y Ganolfan — GERAINT JONES, DAWI a BERYL GRIFFITHS  — yn diolch i’r Ysgrifennydd a’r Prifardd IEUAN WYN yn adrodd ei englynion gorchestol iddi.

 

Nennius (1)  

DAFYDD GLYN JONESyn ei ffordd ddihafal yn ein goleuo ar wir arwyddocâd y llyfr cyntaf un o hanes y Brythoniaid  a ysgrifennwyd dan yr enw Nennius tua’r flwyddyn 830.
Canu Protest y 1960au    (1)        DAFYDD IWAN yn ein hatgoffa am ran o symudiad gwirioneddol bwysig yn hanes Cymru.

Cyflwynydd: Morgan Jones         

 

Corona i’r Cymry  

GERAINT JONES yn adrodd stori ddifyr am fusnes llewyrchus yn y fasnach ddiod heb unrhyw feirws yn perthyn iddo.    

 

Cofio Merêd (2)  

Ail ran y noson arbennig honno yng ngofal ARFON a SIONED GWILYM a MAIR TOMOS IFANS a gafwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai i gofio canmlwyddiant geni y canwr a’r casgwr alawon annwyl, Meredydd Evans, sy’n dangos y cyfoeth syfrdanol yn ein cynhysgaeth gerddorol.    

 

Thomas Jones o Ddinbych  

DAWI GRIFFITHS yn cofio 200mlwyddiant marw un o wŷr mawr Cymru, sef y diwinydd a’r pregethwr,  y bardd a’r emynydd galluog a’r awdur toreithiog, Thomas Jones o Ddinbych.  Bu ef a’i gyfaill mawr,  Thomas Charles o’r Bala, yn ddylanwad aruthrol o fewn enwad y Methodistiaid Calfinaidd.    

 

O fy Iesu bendigedig  

 Yr Athro E. WYN JAMES yn dadansoddi’n  ddiddorol emyn mawr Eben Fardd a genir gan y gynulleidfa ar y diwedd.    

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

Yr Utgorn Cyntaf  

 Ar achlysur dathlu ein canfed rhifyn, DYFED EVANS, gohebydd dihafal yn oes aur Y Cymro ac un o gefnogwyr  ffyddlon Yr Utgorn a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn adrodd hanes difyr yr enwog Bob Owen, Croesor yn y rhifyn cyntaf o Utgorn Cymru, Hydref 2006.

 

Iolo Morganwg (2) 

Yr Athro GERAINT H. JENKINS yn parhau â’i sgwrs am ei arwr mawr — meddyliwr praff a dyn ymhell o flaen ei oes; y cyntaf i feirniadu Deddf Uno 1536 oherwydd y statws israddol a roddwyd ynddi i’r Gymraeg; beirniadai yn llym y modd yr ystyrid y Gymraeg yn ddirmygedig yn Lloegr; galwai am ddileu’r frenhiniaeth a Thŷ’r Arglwyddi, y cyntaf i agor siop fasnach deg; , gwrthwynebai gaethwasiaeth, ayb ayb

 

Anifeiliaid ac Adar Eifionydd    

Detholid arall gan MARGIAD ROBERTS am yr amryw greaduriaid sydd â’u henwau ar leoedd yn Eifionydd.

 

Morgan Llwyd (2)    

Ail ran o sgwrs ddifyr  DAWI GRIFFITHS, cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ar Morgan Llwyd a dylanwadau’r 17eg ganrif ar ei waith fel llenor.

 

Cofio Merêd       

(1919-2019)    Triawd dawnus o Feirion — ARFON a SIONED GWILYM a MAIR TOMOS IFANS — mewn cyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai i ddathlu canmlwyddiant geni y diweddar annwyl Meredydd Evans.
Meredydd Evans    “Un o fy mrodyr i”.

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

Iolo Morganwg (1)    

Yr Athro GERAINT H. JENKIS yn ei elfen yn mwynhau rhannu ei waith ymchwil trwyadl i hanes ei hoff gymeriad.

 

Hen Ddyddiau Llawen    

EMLYN RICHARDS a’i atgofion difyr am gyfnod ei ieuenctid mewn llofft stabal yn Llŷn ac ar nosweithiau Sadwrn yn nhref Pwllheli.

 

Betws Hirfaen    

Betws Hirfaen, nofel hanesyddol gan John G. Williams, un o lenorion mawr Eifionydd, yw testun sgwrs ddiddorol  PRYDERI LLWYD JONES.

 

Morgan Llwyd (2)    

Ail ran o sgwrs ddifyr  DAWI GRIFFITHS, cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, ar Morgan Llwyd a dylanwadau’r 17eg ganrif ar ei waith fel llenor.

 

Lli Mawr 1781    

Un o sgyrsiau’r diweddar annwyl W.J.EDWARDS, Bow Street, a gyfrannodd lawer i Utgorn Cymru, ble mae’n rhannu hanes y lli mawr a fu yn ardal Llanuwchllyn ar 20fed o Fehefin 1781 ac sydd â’i olion i’w gweld hyd heddiw.

 

Adelina Patti    

Golygydd yr Utgorn, GERAINT JONES, yn sôn am Adelina Patti, y gantores enwog a fu farw ganrif yn ôl, ar y 27fed o Fedi 1919, a’i chysylltiad â Chymru.

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

J.R.Jones a’r Arwisgiad    

Y Prifardd IEUAN WYN sydd yn darllen rhannau o dair ysgrif gan un o leisiau mwyaf angerddol Cymru adeg arwisgiad 1969, sef yr Athro J.R. Jones: Gwrthwynebu’r Arwisgo, Cilmeri a Brad y Deallusion.

 

Croeso ’69    

GERAINT JONES, Golygydd Utgorn Cymru,  yn sôn am agweddau gwahanol dau o’n gwleidyddion ac un o’n corau enwog a’i delynores tuag at yr arwisgo ym 1969.

 

Ystyried Lloyd George (4)    

Y bedwaredd ran o sgwrs DAFYDD GLYN JONES am yrfa David Lloyd George ac am ei ragrith mewn meysydd megis pleidlais i ferched a’i honiad ei fod fel gwleidydd yn ddarostyngedig i drefn rhagluniaeth.

 

Morgan Llwyd (1)    

Y gyntaf o ddwy sgwrs gan DAWI GRIFFITHS am Forgan Llwyd ar achlysur dathlu pedwar can mlwyddiant ei eni.

 

Gwir arwyr y Wladfa    

EUAN BRYN yn ein tywys at hanes arwrol y Cymry anturus a fentrodd dros ganrif a hanner yn ôl i sefydlu’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

 

Tri chymeriad    

EMLYN RICHARDS yn dod â ddoe yn ôl i ni ac yn cyflwyno tri hen gymeriad syml, ffraeth, a hynod o graff.

Cyflwynydd: Morgan Jones        

 

Y Gweilch  

IEUAN BRYN, Penryndeudraeth, cyfrannwr newydd i’r Utgorn, yn ceisio canfod a oes unrhyw wirionedd yn yr honiad mai yr un yw Gwalch y Pysgod ag Eryr Pengwern.    

 

Dodrefn Cig a Gwaed  

EMLYN RICHARDS yn hiraethu am oes amgenach na’r un bresennol ac yn cofio am rai o’i chymeriadau.    

 

Enwau Lleoedd yn Eifionydd (4)    

Detholiad MARGIAD ROBERTS o hen enwau lleoedd yng nghwmwd Eifionydd sydd y tro hwn yn cynnwys enwau crefftwyr.    

 

Ystyried Lloyd George (3)    

DAFYDD GLYN JONES yn parhau i sgwrsio am yrfa David Lloyd George lle mae’n sôn amdano fel prif hyrwyddwr y Rhyfel Byd Cyntaf.    

 

Wedi 1282  

GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn Archifydd Sirol Gwynedd, yn egluro beth ddigwyddodd ym myd cyfraith yng Nghymru pan gollodd ei hanibyniaeth a’i sofraniaeth gwleidyddol.    

 

Anerchiad J.R. Jones : Yr Arwisgo – Mytholeg y Gwaed  

GERAINT JONES, Golygydd Utgorn Cymru, yn darllen un o ysgrifau Yr Athro J.R. Jones, un o leisiau mwyaf angerddol Cymru yn 1969.    

 

Cofio Cilmeri 1969    Yr hanesydd

ERYL OWAIN yn cofio Rali Fawr Cilmeri ym Mehefin 1969.    

 

Pen Llywelyn

Cân TECWYN IFAN   

Cyflwynydd: Morgan Jones        

 

Ystyried Lloyd George (2) 

Ail ran darlith ddadlennol a difyr DAFYDD GLYN JONES ar LLOYD GEORGE, dyn yr anghysonderau dybryd, a wnaeth bethau da a drwg a enillodd iddo lawer o elynion.        

 

Helyntion Rhyfel y Degwm yn Uwchgwyrfai    

MARIAN ELIAS ROBERTS yn adrodd hanes y gwrthdaro a fu ar ffermydd yng Nghlynnog ac yn ardal Y Dolydd yn 1888.        

 

Enwau Lleoedd yn Eifionydd (2)    

Ail ran sgwrs MARGIAD ROBERTS am enwau lleoedd yng nghwmwd Eifionydd.        

 

Yr Olygfa o Dre’rceiri    

GERAINT JONES, Golygydd Utgorn Cymru, yn adrodd cân fuddugol John Roberts, cyn-brifathro Ysgol Llanaelhaearn.        

 

Calendr yr Hen Gymry    

Rhan arall o gyfres arbennig o sgyrsiau gan HOWARD HUWS sydd yn ymdrin â gwyliau sefydlog yr hen galendr Cymreig.        

 

Coleg Madryn    

JOHN DILWYN WILLIAMS yn parhau ag ail ran ei sgwrs ddifyr ar Goleg Madryn, y coleg amaethyddol i fechgyn a merched yn Llyn.        

 

Dodrefn y Pentra    

EMLYN RICHARDS yn llawn afiaith a gwreiddioldeb,  yn hel atgofion difyr am  ei fagwraeth yn un o bentrefi bychain cefn gwlad Llyn.        

 

Cyflwynydd:  Morgan Jones        

Cofio Bobi Jones  

 YR ATHRO E. WYN JAMES  yn adrodd hanes Yr Athro Bobi Jones :  bardd,  llenor, beirniad llenyddol, athro, cenedlaetholwr, a Christion gloyw.        

 

Cenhadon Madagascar    

YR ATHRO GERAINT TUDUR  yn adrodd hanes Thomas Bevan a David Jones, dau o gyn-ddisgyblion Ysgol Neuadd Lwyd ger Aberaeron aeth yn genhadon i Ynys Madagascar yn 1818.        

 

Eifion Wyn (2)    

Yr hanesydd BOB MORRIS yn parhau â’i sgwrs  am y bardd telynegol o Borthmadog a fu hefyd yn feirniad eisteddfodol ac a fu’n agos i ennill cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Lerpwl yn 1900.        

 

Ystyried Lloyd George (1)    

Rhan gyntaf darlith DAFYDD GLYN JONES yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar Lloyd George, “y dewin bach Cymreig”.        

 

Daniel Silvan Evans  

DAWI GRIFFITHS yn olrhain hanes geiriaduraeth yn y Gymraeg ac yn sôn am gyfraniad arbennig Daniel Silvan Evans, gwr arall a dderbyniodd ei addysg yn y Neuadd Lwyd.        

 

Jennie Thomas    

Y ddiweddar MARI WYN MEREDYDD yn sôn am un o gymwynaswyr mawr yr ugeinfed ganrif – un o awduron Llyfr Mawr y Plant, a oedd ymhlith y mwyaf disglair o lyfrau yn hanes ein hiaith a’n llenyddiaeth.        

 

Cyflwynydd: Morgan Jones

Cof y Cwmwd    

GARETH HAULFRYN WILLIAMS yn sôn am wefan newydd ychwanegol gan y Ganolfan hon  ar ffurf wicipedia – cronfa helaeth o ffeithiau am hanes  cwmwd Uwchgwyrfai y gall unrhyw un gyfrannu ati.  (cof.uwchgwyrfai.cymru)

 

Coleg Madryn (1)  

J. DILWYN WILLIAMS yn adrodd hanes sefydlu coleg amaethyddol yng nghastell Madryn yn Llŷn.

 

I’r India Bell    

Rhagor o hanes Dafydd Crowrach o Lŷn gan HARRI PARRI a TREFOR JONES, y tro hwn yn cael ei yrru i’r India gyda’r fyddin adeg y Rhyfel Mawr.

 

O’r Grawys i’r Pasg 

HOWARD HUWS yn sôn am arferion y calendr eglwysig yng Nghymru, y tro hwn o ddydd Mawrth Ynyd i’r Pasg.

 

Eifion Wyn (1)  

BOB MORRIS yn mynd ar drywydd y bardd o Borthmadog.

 

Enwau yn Eifionydd (2)    

MARGIAD ROBERTS yn parhau i’n tywys i Eifionydd sydd ag enwau llefydd cyfareddol.

 

Wedi cael cam!    

Stuart Jones yn cael hwyl ar bortreadu IFAS Y TRYC o waith W.S. Jones, ar lwyfan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Madog 1987.

 

Y Bygythiad i Fôn  

 ROBAT IDRIS yn ein darbwyllo mai ffolineb fyddai caniatau codi ail atomfa ar wastadeddau’r Ynys Gymraeg.

Frankenstein 1818    

Yr Athro E. WYN JAMES yn sôn am gysylltiadau Cymru â’r stori adnabyddus gan Mary Shelley.

 

Eifionydd  

 Sgwrs a draddodwyd gan MARGIAD ROBERTS yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai am enwau lleoedd yn Eifionydd.

 

Thomas Gee 

IEUAN WYN JONES, A.S. Ynys Môn, o 1987 hyd 2001 ac A.C. y sir o 1999 hyd 2013, yn adrodd hanes Cymro arbennig a fu’n flaengar iawn yn y 19eg ganrif.

 

I’r Gad    

HARRI PARRI a TREFOR JONES yn parhau â hanes Dafydd Crowrach, y gwas fferm o Lýn, a’i ymadawiad i’r Rhyfel Mawr yn canlyn dyfodiad Deddf Gwasanaeth Milwrol 1916.

 

Cyflwynydd: Morgan Jones

Anterliwt yn Eifionydd    

Cyn-archifydd Gwynedd, GARETH HAULFRYN WILLIAMS, yn adrodd hanes anterliwt a berfformiwyd gan actorion proffesiynol ar aelwyd un o ffermdai Eifionydd yng nghyfnod Cromwell.

 

Pen ar y mwdwl    

JEAN HEFINA OWEN o Ddyffryn Nantlle, yn ei thrydedd sgwrs hwyliog, yn sôn am rai o atgofion ei Nain am bentre Pen-y-groes a’i lysenwau.

 

O d’wllwch i oleuni  

HOWARD HUWS yn parhau â’i astudiaeth ddiddorol o hen galendr y Cymry o gyfnod gwyl y Nadolig, y Plygain, y goleuni a’r canhwyllau at y Pasg a’r Sulgwyn.

 

Calendr Uwchgwyrfai    

Gwybodaeth am y digwyddiadau yn y Ganolfan hon gan DAWI GRIFFITHS, y Cadeirydd.

 

Canlyniadau beirniadaeth               

“Y Deyrnas”    Y drydedd ran o sgwrs PRYDERI LLWYD JONES ble mae’n sôn am ganlyniadau beirniadaeth a chyhuddiadau eofn cylchgrawn poblogaidd “Y Deyrnas” yn erbyn D. Lloyd George a’r llywodraeth a’r eglwysi am iddynt hyrwyddo’r Rhyfel Mawr.

 

Gwas fferm yn y Betws Bach    

HARRI PARRI a TREFOR JONES yn adrodd rhagor o hanes Dafydd Crowrach o Lŷn ym mlynyddoedd cynnar yr ugeinfed ganrif.

 

Brexit a Chymru    

Cyfrannwr newydd i’r Utgorn, HUW PRYS JONES, o Lanrwst,  y newyddiadurwr, y golygydd a’r ymgynghorydd iaith, yn cyflwyno’r erthygl a enillodd iddo wobr yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn, 2017.

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

Cyfenwau disgrifiadol  

Yr olaf mewn cyfres o sgyrsiau gan YR ATHRO BRANWEN JARVIS, yn sôn y tro hwn am gyfenwau disgrifiadol Cymreig ac yn rhoi ei barn am ddefnyddio’r gair ‘ap’ mewn enwau merched.

 

Erlid gwrthwynebwyr (1914-18)  

 Ail ran sgwrs PRYDERI LLWYD JONES sydd yn sôn am wrthwynebu cydwybodol yng Nghymru yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf gan ei gymhwyso i’n hoes ni, ganrif yn ddiweddarach.

 

‘Robin Satan’ a ‘Nhad  

JEAN HEFINA OWEN o Ddyffryn Nantlle, yn ei ffordd ddifyr a hwyliog, yn adrodd hanes ei thaid a’i thad.

 

Gosod trefn ar amser 

 Un o ffrindiau ffyddlon yr Utgorn, HOWARD HUWS, yn adrodd hanes dynoliaeth yn ceisio rhoi trefn ar amser trwy greu a datblygu calendrau i nodi’r amserau, y tymhorau a’r gwyliau.

 

Calendr Uwchgwyrfai  

Cadeirydd y Ganolfan Hanes, DAWI GRIFFITHS, yn croniclo gweithgareddau’r tymor hwn.

 

Dafydd Crowrach mewn cariad    

Hanes un a fu’n was yn rhai o ffermydd gwlad Llŷn ar ddechrau’r 20fed ganrif gan HARRI PARRI a TREFOR JONES.

 

Diwrnod dyrnu.  

 TWM ELIAS, un o awduron ‘Y Dyrnwr Mawr’, yng nghyfres Llyfrau Llafar Gwlad gan wasg Carreg Gwalch, yn sôn am ‘wyllt beiriant yr ysguboriau’ a’r diwrnod dyrnu.

 

Baled Glyn Roberts: Pan gyll y call yng Ngwynedd.  

EMLYN RICHARDS, awdur arall ‘Y Dyrnwr Mawr’, yn cyflwyno baled o waith y diweddar Glyn Roberts o Bwllheli sydd yn condemnio polisi ffol Cyngor Gwynedd yn cau ysgolion ein pentrefi. Y diweddar annwyl HARRI RICHARDS,brawd Emlyn, sydd yn canu’r faled.

Cyflwynydd: Morgan Jones   

Tribannau rhybuddiol    

Ychwaneg o sgwrs TEGWYN JONES ar y tribannau sydd, y tro hwn, yn sôn am y defnydd wnaed o’r mesur i adrodd helyntion gwleidyddol Cymru ac i ymosod ar wendidau moesol ac arferion drwg ei phobl.

 

Edmund Hyde Hall    

GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn-archifydd Gwynedd, gyda dadleniad hynod a diddorol am gyfrol Saesneg am yr hen sir Gaernarfon a gyhoeddwyd ym 1811.

 

Gwas yn Llŷn  

 Ail ran sgwrs ddifyr HARRI PARRI a TREFOR JONES am atgofion dyn ifanc a fu’n was ffarm yn Llŷn ac yn filwr yn y Rhyfel Mawr.

 

Y Calendr    

DAWI GRIFFITHS, Cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn sôn am yr amrywiol weithgareddau sydd wedi eu trefnu ar gyfer Gwanwyn 2017.

 

Y Mab Darogan  

 Yr olaf o sgyrsiau JOHN DILWYN WILLIAMS ar y ffordd y derbyniwyd Harri Tudur fel y Mab Darogan Cymreig, ‘achubudd ein pobl’.

 

Seisnigo Cyfenwau    

BRANWEN JARVIS yn trafod y ffordd y newidiwyd ac y Seisnigwyd yr hen ffordd Gymreig o arfer cyfenwau.

 

Pa Hanes?    

O Sêt y Gornel mae GERAINT JONES yn tynnu sylw at y diffygion echrydus sydd yn bodoli yn y modd y dysgir hanes yn ysgolion Cymru ac am yr ymgyrch sydd ar droed i geisio unioni’r sefyllfa.

 

Llew Llwydiarth y Derwydd    

WILLIAM OWEN, Borth-y-gest yn adrodd rhagor o hanes yr anfarwol Lew Llwydiarth o Fôn, y tro hwn yn rhoi sylw i’w briod faes fel bardd a derwydd gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn.

Cyflwynydd: Morgan Jones    

 

Ymdaith yr Hen Gymry  

HUW DYLAN OWEN, Treforus; awdur, hanesydd, cerddor a gŵr gweithgar dros y Gymraeg yn ardal Abertawe, yn sôn am yr alaw ‘Ymdaith yr Hen Gymry’ ac yn ei chyplysu â’r orymdaith a’r cofio blynyddol yng Nghilmeri.

 

Rhagor o eiriau Sir Fôn    

Tamaid arall o huotledd W.H.ROBERTS, Niwbwrch, tra’n sgwrsio am gyfoeth hen iaith Môn.

 

Garmon  

HOWARD HUWS o Fangor, un arall o gyfeillion yr Utgorn, yn sôn am un o’r seintiau y seiliodd Saunders Lewis ei ddrama ‘Buchedd Garmon’ arno.

 

Cyfenwau Seisnigedig    

Yr Athro BRANWEN JARVIS yn parhau ar drywydd rhai o’r cyfenwau Cymreig a Chymraeg a ddatblygodd wrth i’r hen enwau traddodiadol gael eu Seisnigo.

 

Y tribannau gorau erioed?    

Yr olaf o’r detholiad o sgwrs ddifyr TEGWYN JONES, Bow Street, ar dribannau Morgannwg, sydd yn gorffen gyda thriban sydd gyda’r gorau, os nad y gorau un, o holl hanes y mesur.

 

Llew Llwydiarth – y diwedd    

Cyfraniad olaf WILLIAM OWEN, Borth-y-Gest am y rhyfeddol ac ofnadwy Lew Llwydiarth, y Llew Frenin.

 

Calendr y Ganolfan    

MARIAN ELIAS ROBERTS, ysgrifennydd cyffredinol  y Ganolfan hon, yn cyflwyno’r calendr gweithgareddau diweddaraf.

 

Williams Pantycelyn  

 Rhan o ddarlith gan yr Athro E. WYNN JAMES, Caerdydd, ar ddau wrthrych mawr canu’r Pêr Ganiedydd: y Daith a’r Anwylyd.

 

Cymanfa Pistyll 1985  

 Mi dafla ‘maich (Tyddewi)

2011 - 2016

Cyflwynydd: Morgan Jones    

Tribannau rhybuddiol    

Ychwaneg o sgwrs TEGWYN JONES ar y tribannau sydd, y tro hwn, yn sôn am y defnydd wnaed o’r mesur i adrodd helyntion gwleidyddol Cymru ac i ymosod ar wendidau moesol ac arferion drwg ei phobl.

 

Edmund Hyde Hall    

GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn-archifydd Gwynedd, gyda dadleniad hynod a diddorol am gyfrol Saesneg am yr hen sir Gaernarfon a gyhoeddwyd ym 1811.

 

Gwas yn Llŷn    

Ail ran sgwrs ddifyr HARRI PARRI a TREFOR JONES am atgofion dyn ifanc a fu’n was ffarm yn Llŷn ac yn filwr yn y Rhyfel Mawr.

 

Y Calendr    

DAWI GRIFFITHS, Cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn sôn am yr amrywiol weithgareddau sydd wedi eu trefnu ar gyfer Gwanwyn 2017.

 

Y Mab Darogan    

Yr olaf o sgyrsiau JOHN DILWYN WILLIAMS ar y ffordd y derbyniwyd Harri Tudur fel y Mab Darogan Cymreig, ‘achubudd ein pobl’.

 

Seisnigo Cyfenwau    

BRANWEN JARVIS yn trafod y ffordd y newidiwyd ac y Seisnigwyd yr hen ffordd Gymreig o arfer cyfenwau.

 

Pa Hanes?  

O Sêt y Gornel mae GERAINT JONES yn tynnu sylw at y diffygion echrydus sydd yn bodoli yn y modd y dysgir hanes yn ysgolion Cymru ac am yr ymgyrch sydd ar droed i geisio unioni’r sefyllfa.

 

Llew Llwydiarth y Derwydd    

WILLIAM OWEN, Borth-y-gest yn adrodd rhagor o hanes yr anfarwol Lew Llwydiarth o Fôn, y tro hwn yn rhoi sylw i’w briod faes fel bardd a derwydd gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn.

Cyflwynydd:Morgan Jones    

Llew Llwydiarth(3)    

WILLIAM OWEN, Borth-y-gest, gyda’r drydedd ran o hanes  rhyfeddol Llew Llwydiarth: y blaenor Methodist awdurdodol, y cynghorwr sir, a’r teyrngedwr angladdau di-flewyn-ar-dafod.

 

Calendr Uwchgwyrfai    

DAWI GRIFFITHS, cadeirydd Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, gyda manylion am ddigwyddiadau’r misoedd nesaf.

 

Y Mab Darogan (3)  

 Rhagor o hanes   Mab Darogan honedig y Cymry yn ail hanner  y 15ed ganrif a’r ymgiprys gwallgof am goron a grym, gan JOHN DILWYN WILLIAMS.

 

Iaith Môn – Personoliaethau  

 Y diweddar W.H.ROBERTS, Niwbwrch,  gyda’i  ffraethineb a’i ffrwd lifeiriol gref , yn ein cyflwyno i bersonoliaethau yn iaith lafar Môn a rhan ogleddol  Gwynedd.

 

Rhagor o Gyfenwau  

 Yr Athro BRANWEN JARVIS yn   sôn am enghreifftiau o gyfenwau Cymreig a Chymraeg  a Seisnigwyd ac sy’n parhau hyd heddiw.

 

Tribannau Morgannwg (3)  

Mwy o hanes y tribannau a’r modd y maent yn ymwneud â phobl gyffredin, am ddigwyddiadau pob dydd, am droeon trwstan, ac am arferion yr oes, gan TEGWYN JONES .

 

Morgan Rhys yr emynydd    

DAWI GRIFFITHS yn cofio am Morgan Rhys, Llanfynydd, un o emynwyr enwog sir Gaerfyrddin, a’i gyfraniad enfawr i grefydd a llenyddiaeth ein cenedl.

 

Pant Corlan yr Ŵyn    

HUW DYLAN OWEN, cyfrannwr newydd a chefnogwr ffyddlon i’r Utgorn o’r cychwyn, yn sôn am un o’n ceinciau mwyaf adnabyddus.

Cyflwynydd: Morgan Jones    

Fy mrawd Gerallt    

Y PRIFARDD a’r ARCHDDERWYDD GERAINT LLOYD OWEN, yn y drydedd ran o’i sgwrs yn sôn am gymdeithas wledig y Sarnau ym Meirionnydd, a’i dylanwad ar ei frawd ac yntau.

 

Tribannau Morgannwg (2)  

 TEGWYN JONES, ein prif awdurdod ar fesur y triban, yn datgelu pam y’i gelwir yn driban Morgannwg.

 

Chwarae Plant    

Y diweddar W.H.ROBERTS, Niwbwrch, Môn, yn sôn am chwaraeon plant a’r rhigymau oedd yn gysylltiedig â’r chwaraeon hynny pan oedd ef ei hun yn blentyn ar iard yr ysgol,

 

Llew Llwydiarth (2)  

 WILLIAM OWEN, Borth-y-gest, gyda’i ail ran o hanes un o gymeriadau rhyfeddaf Ynys Môn – y tro hwn, y ffermwr, yr hyfforddwr adroddwyr  a’r beirniad.

 

Y Rhyfel Mawr    

HARRI PARRI a TREFOR JONES, dau o gyn-weindogion tref Caernarfon, yn sôn am deulu o Lŷn a’i gysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Diwylliant Gwerin    

ROBIN GWYNDAF, Cymrawd Ymchwil er anrhydedd yn Amgueddfa Werin Cymru, yn sgwrsio nid yn unig am gadw ein diwylliant gwerin ar gof a chadw ond hefyd am bwysigrwydd ei rannu.

 

Y Mab Darogan (2)    

J. DILWYN WILLIAMS yn parhau â hanes Tuduriaid Penmynydd gan ganolbwyntio ar gerddi ynglŷn â gobaith mawr Cymry’r canrifoedd am ddyfodiad y Mab Darogan.

 

Peidiwch â’u cau!    

EMLYN RICHARDS gyda chyfraniad nodweddiadol ffraeth a sylwgar yn sôn am rai o’r sefydliadau hynny, fel ysgol, capel a siop, sydd yn galon i’n cymdeithas wledig Gymraeg ond a ddaw dan lach yr awdurdodau.

Cyflwynydd: Morgan Jones    

Tribannau Morgannwg    

TEGWYN JONES yn parhau ei ddarlith ddifyr ar y tribannau ac yn egluro paham mai fel tribannau Morgannwg y cyfeirir at y mesur arbennig hwn.

 

Fy mrawd Gerallt    

Ail ran sgwrs y PRIFARDD GERAINT LLOYD OWEN  am y fagwraeth gafodd ei frawd, y Prifardd Gerallt Lloyd Owen ac yntau ym Meirionydd ac sydd hefyd yn ein hatgoffa o Gymru fel yr oedd ac fel y mae rhai priodoleddau yn dal gyda ni er gwaethaf pob dirywiad.

 

Cyfenwau Cymreig    

YR ATHRO BRANWEN JARVIS  yn darlithio ar gyfenwau Cymreig ac yn datgelu sawl cyfenw, mewn mwy nag un iaith, sydd â’u gwreiddiau yn yr hen gyfenwau traddodiadol Cymraeg.

 

Calendr y Ganolfan  

 SARAH G. ROBERTS yn crynhoi ein gweithgareddau.

 

Llew Llwydiarth  

 WILLIAM OWEN, BORTH-Y-GEST, yn rhan gyntaf ei sgwrs yn adrodd hanes gŵr rhyfeddol ac unigryw o Fôn –  amaethwr, bardd a derwydd gweinyddol Gorsedd Beirdd Ynys Môn.

 

Y Mab Darogan    

J. DILWYN WILLIAMS, yn un o gyfarfodydd poblogaidd “Ein Gwir Hanes” a gynhelir yn rheolaidd yng Nghanolfan Uwchgwyrfai, yn trafod lle canolog y Mab Darogan yn hanes Cymru.

 

Pen-blwydd y Ganolfan  

 GERAINT JONES,  o Sêt y Gornel yn sôn am agoriad swyddogol Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ddeng mlynedd yn ôl ac am addasrwydd arbennig Clynnog Fawr i fod yn gartref i’r Ganolfan. Cawn hefyd wrando ar ran o ddarlith ysgubol a draddodwyd ar yr achlysur hwnnw gan y diweddar Athro Hywel Teifi Edwards.

 

Eben Fardd a Brwydr Maes Bosworth, 1485.  

 Rhannau o ddarlith y Diweddar ATHRO HYWEL TEIFI EDWARDS ar y testun hwn yn agoriad swyddogol y Ganolfan.

Cyflwynydd:  MorganJones                                          

Fy mrawd, Gerallt    Rhan gyntaf sgwrs a draddodwyd gan y PRIFARDD GERAINT LLOYD OWEN yng nghyfarfod  ‘Cofio Cilmeri’ yng Nghanolfan Uwchgwyrfai, sydd yn sôn am ei frawd Gerallt ac am eu magwraeth yn ardal y Sarnau, Meirionydd a’r  dylanwadau fu arnynt.

 

Ar gyfer pwy?    GERAINT JONES, o Sêt y Gornel, yn sôn am bolisi gwallgof llywodraeth Cymru i godi miloedd o dai newydd, diangen ledled ein gwlad; polisi a lyncwyd yn wasaidd gan ein cynghorau sir, a fydd yn drychinebus i gadarnleoedd y Gymraeg ac yn hoelen olaf yn arch ein hiaith.

 

Calendr Canolfan Uwchgwyrfai    Ein cadeirydd brwd, DAWI GRIFFITHS, yn cyhoeddi’r llu o weithgareddau diwylliannol a gynhelir yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai.

 

Anturiaeth ryfeddol    Yr hanesydd ROBERT MORRIS yn adrodd un o storïau mwyaf rhyfeddol hanes Cymru am ŵr o’r Waun-fawr yn Arfon aeth ar daith yn y 18fed ganrif i ogledd America i chwilio am yr Indiaid Cymraeg eu hiaith.

 

Gwenllïan    GWENLLÏAN JONES  yn ein tywys yn ôl i’r 13eg ganrif, un o gyfnodau tristaf a thywyllaf ein hanes, adeg lladd Llywelyn ap Gruffydd, Tywysog Cymru, marwolaeth ei wraig Eleanor a chipio’i ferch, Gwenllïan, ei unig etifedd.

 

Mewn trallod    YR ATHRO PEREDUR LYNCH yn rhannu rhan o gywydd y mae wrthi’n ei ysgrifennu er cof am ei dad, y diweddar Barchedig Evan Lynch, ac sydd yn sôn am y  profiad dirdynnol a ddaw i ran gweinidog pan fydd yn gorfod delio â marwolaeth rhywun ifanc mewn damwain.

 

Naomi    Stori, yn y person cyntaf, o’r Hen Destament, am Naomi ac am ffyddlondeb a’r ffordd i ymwneud â phobl sydd yn ddieithr i ni, gan BERYL GRIFFITHS. I gloi cawn glywed UN O’N CAROLAU PLYGAIN MWYAF ADNABYDDUS.

Cyflwynydd: Morgan Jones                                        

John Iorc    Yr hanesydd ROBERT MORRIS yn adrodd hanes John Williams, brodor o Gonwy ac o hil Wynniaid Gwydir, a fu’n archesgob Caerefrog yn yr 17eg ganrif.

 

Harri Fawr a Harri Bach    Harri’r Pumed a’i dad, Harri’r Pedwerydd, dau a fu’n ceisio sathru Owain Glyndwr a’i wrthryfel mawr, sydd o dan chwyddwydyr HOWARD HUWS, un arall o haneswyr Uwchgwyrfai.

 

Calendr Canolfan Uwchgwyrfai    Gweithgareddau’r misoedd diwethaf a’r rhai sydd ar y gweill gan SARAH G. ROBERTS, un o aelodau pwyllgor Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

 

Anerchiad Lloyd George    DAFYDD GLYN JONES yn sôn am anerchiad gan Lloyd George mewn cyfarfod mawr yn Llundain ar y 19eG o Fedi 1914 a drefnwyd er mwyn ricriwtio a ‘chodi hwyl o blaid y rhyfel’ .

 

Angladd Eben Fardd    GERAINT JONES, mewn cyfarfod cofio yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn adrodd hanes angladd Eben Fardd ym 1863, a oedd ‘fel claddu tywysog ymhlith ei bobl’.

 

‘O fy Iesu Bendigedig’    I ddilyn clywn y gynulleidfa’n canu emyn mawr Eben Fardd.

Cyflwynydd: Morgan Jones                       

John Jones y Sêr    GWAWR JONES
Pulpud Plu    GERAINT JONES
Calendr Uwchgwyrfai    DAWI GRIFFITHS
Englynion cyfarch    PEREDUR LYNCH
Archif Tryweryn    EINION THOMAS
Tribannau    TEGWYN JONES
Catrin o Ferain    ROBIN GWYNDAF
Iaith y Cofi    BEDWYR LEWIS JONES
Napoleon    RICHARD HUGHES

Cyflwynydd: Morgan Jones                       

Enwau caeau    

Yr olaf o sgyrsiau poblogaidd YR ATHRO BEDWYR LEWIS JONES sydd, y tro hwn, yn sôn am eiriau dieithr fel cotal a regal, ac am y cysylltiad rhwng enwau caeau a’r porthmyn.

 

Clefyd Efnisien    

Sgwrs ddifyr a dadlennol gan YR ATHRO BRANWEN JARVIS sydd yn ein tywys i fyd hud a lledrith y Mabinogi ac at ddadansoddiad o wendid meddwl Efnisien.

 

W.J. Gruffydd a Silyn    

W.H.ROBERTS yn darllen gwaith W.J.GRUFFYDD sydd yn sôn amdano’i hun yn cyfarfod am y tro cyntaf â Silyn, yr heddychwr, y sosialydd, y pregethwr, y bardd a’r cyn-chwarelwr, a hynny mewn cwch ar y Fenai.

 

Calendr Uwchgwyrfai    

MARIAN ELIAS ROBERTS, ysgrifennydd y Ganolfan, yn cyflwyno rhai o’n gweithgareddau diweddaraf.

 

Sêt y Gornel: Llofruddiaeth?    

GERAINT JONES, o Sêt y Gornel, yn adrodd stori bur ryfeddol am ddigwyddiad pur amheus mewn amgylchiadau anarferol a chawn ein tywys o aelwyd Lloyd George yn Downing Street i Awstralia, y Dwyrain Canol, America, chwarel gerrig a mynwent plwyf ei fro enedigol.

 

O’r Daily Mirror    

DR JOHN ELWYN HUGHES yn adrodd stori a ymddangosodd yn y Daily Mirror yn 1936.

 

Y Dreflan    

DAFYDD GLYN JONES, Gwasg Dalen Newydd, a’i ddadansoddiad byrlymus o rai o’r cymeriadau a’r sefyllfaoedd diangof a grewyd gan y dihafal Daniel Owen yn Y Dreflan.

Cyflwynydd: Morgan Jones    

Fel milgi mewn brwyn    

EMLYN RICHARDS, un o ffyddloniaid yr Utgorn, yn sgwrsio am orsaf drenau Aberystwyth ble bu’n gweithio pan oedd yn fyfyriwr diwinyddol ifanc, ac am lyfrau y bu’n pori ynddynt ‘fel milgi mewn brwyn’.

 

Casia    

Aiff DR. JOHN ELWYN HUGHES â ni i’r rheinws, i ddalfa’r carcharorion, ac i gwmni cymeriad hynod arall o Ddyffryn Ogwen.

 

Owen Thomas, Tŷ Isa    

W.J.EDWARDS gyda sgwrs ddifyr am ddyddiadur Owen Thomas o ddiwedd y 19eg ganrif sydd yn gofnod cymdeithasol pwysig ac sy’n sôn am ffeiriau, tripiau Ysgol Sul, etholiadau, ac angladdau.

 

John Preis    

GERAINT JONES, o Sêt y Gornel, yn cyflwyno rhan o ddarlith a draddododd ar y crwydryn anfarwol, John Preis –  un y ceir ei hanes yn y gyfrol o eiddo Geraint a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Ganolfan Uwchgwyrfai.

 

Cae a ffridd a gweirglodd    

Pedwaredd ran o sgwrs ddifyr YR ATHRO BEDWYR LEWIS JONES ar enwau caeau a gwir ystyr y gwahanol eiriau a geir yn y Gymraeg am gae a’r diffiniad ohonynt.

 

Cymraeg yr Aelwyd    

Y diweddar W.H. ROBERTS, y mwynlais o Fôn, yn darllen sylwadau’r ATHRO W.J. GRUFFYDD ar yr ymgrych iaith honno gynt a elwid yn Gymraeg yr Aelwyd.

 

Hen Lanc Tyn y Mynydd    

Llais peraidd y diweddar T. GWYNN JONES, Tre-garth, yn canu un o gerddi hyfrytaf W.J. GRUFFYDD.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Calendr Uwchgwyrfai    DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd yn rhoi gwybod am weithgareddau’r Ganolfan.

 

Sêt y Gornel: Y Gadair Ddu (2)    GERAINT JONES yn traddodi ail ran ei  sylwadau treiddgar, dadlennol a beirniadol ar ddefod y cadeirio yn Eisteddfod Penbedw 1917 yngyd â datganiad gan Gôr Meibion Y Rhos o Englynion Coffa Hedd Wyn gan R. Williams Parry.

 

“Dyddiau Mebyd” (W.J. Gruffydd)    W.H.ROBERTS yn darllen am ddyddiau mebyd W.J. Gruffydd o’i gyfrol ‘Hen Atgofion’.

 

Owen Thomas, Y Lôn    W.J.EDWARDS yn adrodd hanes ardal Penllyn o 1982 i 1912 yn nyddiaduron taid yr Aelod Cynulliad Dafydd Elis-Thomas.

 

Rhagor o enwau caeau    BEDWYR LEWIS JONES yn sgwrsio am rai rhesymau dros enwi caeau yn y dyddiau a fu.

 

Happy Doll    J.ELWYN HUGHES, pen hanesydd Dyffryn Ogwen,  yn adrodd hanes dynes ryfedd a sut y daeth o hyd i’w henw iawn.

 

Ogwennydd (2)    Rhan olaf sgwrs GWEN GRUFFUDD am John Richard Jones, cymeriad rhyfedd arall o Ddyffryn Ogwen – ymgreiniwr, Tori a bardd-chwarelwr.

 

Cân Ben Jerry    T. GWYNN JONES (Gwynn Tre-garth) yn canu cân o hiraeth am Fethesda, Dyffryn Ogwen, yn ei ddull dihafal ei hun.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Sêt y Gornel: Y Gadair Ddu (1)    

GERAINT JONES yn agor ein llygaid am seremoni Cadair Ddu Hedd Wyn yn Eisteddfod Penbedw 1917 a phropaganda’r Rhyfel Mawr.

 

Enwau ‘coman’ caeau    

BEDWYR LEWIS JONES gyda sgwrs ddifyr arall am rai o’r enwau mwyaf cyffredin ar gaeau Cymru.

 

Ogwennydd (1)    

GWEN GRUFFUDD yn adrodd hanes John Richard Jones o Ddyffryn Ogwen.

 

Llyfr John Preis    

MORGAN JONES yn bwrw golwg ar lyfr poblogaidd Geraint Jones, ein golygydd, am y crwydryn o ardal Uwchgwyrfai.

 

Yr Hen Fro’ (W.J. Gruffydd)  

 W.H.ROBERTS gydag atgofion W.J. Gruffydd am blwyf Llanddeiniolen o’i gyfrol ‘Hen Atgofion’.

 

Eleaser Roberts,  Mr Moody, y fam a’r plentyn    

DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes un o bennaf cymwynaswyr y gân a chyfundrefn y Tonic Sol-Ffa.

 

Hen Wlad fy Nhadau    

AELODAU CANOLFAN HANES UWCHGWYRFAI yn canu ein hanthem genedlaethol – y tri phennill.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Anectodau llenyddol    

TEGWYN JONES yn adrodd hanesion difyr am Watcyn Wyn, Llew Llwyfo, a’r cyn-archdderwydd, Crwys.

 

Sêt y Gornel  

GERAINT JONES, ein golygydd, yn rhoi gwir ddarlun o’r byd cyhoeddi Cymraeg.

 

Dau lythyr Goronwy Owen  

 W.H.ROBERTS yn darllen dau o lythyrau’r bardd mawr o Fôn sydd yn y nawfed o’r ‘Cyfrolau Cenedl’ gan Wasg Dalen Newydd.

 

Straeon Gwerin    

ROBIN GWYNDAF yn trafod storïau ffraeth a rhigymau doniol, gwleidyddol, crefyddol a beddargraffiadol.

 

Griffith Evans y Milfeddyg  

 W.J.EDWARDS yn adrodd hanes gyrfa’r milfeddyg byd enwog o Dywyn, a fu’n ddisgybl i Ioan ab Hu Feddyg.

 

“Tynnaf ymaith ei chae…”    

BEDWYR LEWIS JONES yn egluro ystyr hanesyddol y gair ‘cae’ a hen enwau caeau.

 

Byd y faled  

EMLYN RICHARDS yn traethu ar hanes y faled a Harri’n canu baled amserol o waith Gruffudd Parry.

 

Baled ‘Y Mewnlifiad’    

HARRI RICHARDS

Cyflwynydd; Morgan Jones
     
Anectodau llenyddol    

TEGWYN JONES, y chwilotwr o Geredigion,  hefo straeon am yr enwog Ellis Owen o  Gefn y Meusydd, yng nghwmwd Eifionydd.

 

Edward, brenin Lloegr    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn traethu am y brenin gormesol a chreulon o Loegr a fu’n gyfrifol am ladd ein tywysog, Llywelyn ap Gruffydd.

 

Dwy stori ddoniol    

ROBIN GWYNDAF yn adrodd dwy stori o’r gyfrol ‘Storiau Gwerin Cymru’.

 

Y Border Bach    

ANNE ELIZABETH WILLIAMS â’i gwybodaeth arbenigol am blanhigion a meddyginiaethau a fu’n rhan annatod o fywyd y werin.

 

Crac yn y bowlen blwmonj  

 EMLYN RICHARDS yn edrych yn ôl a ‘chofio cynefin’ mewn sgwrs hamddenol braf.

 

Y Golled  

 ELFYN PRITCHARD yn sôn am Gwilym Owen, a fu’n brifathro Ysgol Gwyddelwern, Edeyrnion, dros hanner canrif yn ôl.

 

Sêt y Gornel: ‘Ias o Anobaith’    

GERAINT JONES, ein golygydd, yn datgan yr angen i ni deimlo’r gobaith all ddod â deffroad a daioni i’n gwlad.

 

Breuddwydio’r Wybren Las  

TECWYN IFAN yn canu geiriau Waldo Williams am obaith ynghanol y cymylau duaf,  yng ngyfarfod blynyddol ‘Cofio Cilmeri’ yng Nghanolfan Uwchgwyrfai.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Anecdotau    

TEGWYN JONES gyda mwy o anecdaotau llenyddol – y tro hwm am ddau Fedyddiwr amlwg yn eu dydd, sef Robert Ellis (Cynddelw) a Pedr Hir.

 

Gwenallt y bardd 

SAUNDERS LEWIS y bardd, gwladgarwr a Christion mawr, yn adrodd hanes un arall o’r un anian.

 

Ddoe ni ddaw’n ôl    

Rhan o sylwadau gogleisiol  EMLYN RICHARDS.

 

Brut y ddau Lywelyn    

DAWI GRIFFITH, ein Cadeirydd, yn sôn am ran olaf y llyfr holl bwysig yn ein hanes, sef ‘Brut y Tywysogion’.

 

Greenland a Samaria    

GLENDA CARR gyda’r olaf mewn cyfres ddifyr – y tro hwn am hen enwau lloeodd yn yr hen Sir Gaernarfon.

 

Ffarwel i Addysg    

DIANE JONES, cyn-reolwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn traethu am ddramâu’r nofelwraig Kate Roberts.

 

Eglwys Llandegwning    

J.DILWYN WILLIAMS, yr hanesydd, yn sôn am hanes eglwys fechan ym mherfeddion gwlad Llŷn.

 

Sêt y Gornel: Prifysgol ‘Cymru’?    

GERAINT JONES, ein golygydd, yn ei ffordd ddi-flewyn-ar-dafod, yn trafod pwnc sensitif iawn, sef Prifysgol Cymru.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Stori Taid    

ELFYN PRITCHARD yn adrodd stori ddifyr gan ei ŵyr am ŵr o Lŷn a fu mewn carchar.

 

Sêt y Gornel    

GERAINT JONES, ein golygydd, wrth atgyfodi’r golofn ‘Sêt y Gornel’ a’i rhoi ar lafar, yn egluro tarddiad y teitl.

 

Clymau teuluol    

W.J.EDWARDS yn sôn am berthynas cenedlaethau â’i gilydd, o Syr Henry Jones i Waldo Williams.

 

Anecdotau Llenyddol    

TEGWYN JONES, y gŵr o Geredigion, yn sgwrsio am John Hughes, Pontrobert a Henry Rees a’i frawd William Rees (Gwilym Hiraethog).

 

Yr Athro W.J. Gruffydd  

BERYL GRIFFITHS yn rhoi darlun cyflawn a chytbwys o’r Athro W.J.Gruffydd, un oedd yn gawr ymhlith llenorion Cymraeg.

 

Enwau rhyfedd    

GLENDA CARR, sy’n arbenigo ar ystyron enwau lleoedd, yn sôn am rai dyrys i’w hesbonio.

 

Brut y Tywysogion (4)    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, gyda rhagor o gynnwys yr hen lyfr rhyfeddol ‘Brut y Tywysogion’, a hanes y ddeuddegfed ganrif greulon.    

 

Cyhoeddwyd Utgorn Cymru yn ddi-dor er mis Hydref 2006, chwe mis wedi agor y Ganolfan, ond oherwydd amgylchiadau anorfod, fe’i rhewyd yn Hydref 2012 hyd at Awst 2013. O hyn ymlaen, fe’i cyhoeddir ar ei newydd wedd bedair gwaith y flwyddyn a bydd yn cynnwys Colofn Sêt y Gornel: colofnydd gwladgarol a saciwyd gan Y Cymro am iddo ddweud y gwir plaen, rwan yn dychwelyd a’i waedd dros Gymru unwaith eto’n byddaru’r Sevydliad a gelynion Kymmru Vach!

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Merched yr enwau lleoedd    

Sgwrs gan GLENDA CARR am leoedd ym mhlwyf Llandwrog, Arfon, sy’n cynnwys enwau merched o Oes y Chwedlau.

 

Coelcerth Rhyddid (2)    

GERAINT JONES yn ein goleuo am ddigwyddiadau cyffrous dri-chwartref canrif yn ôl a hanes y cyfarfod i groesawu’r ‘tri gwron’ wedi eu rhyddhau o’r carchar am losgi Ysgol Fomio Penyberth.

 

Anecdotau Llenyddol (2)    

TEGWYN JONES, y chwilotwr o Geredigion, yn sôn am Dwm o’r Nant, Nicander, Wil Tatws Oerion a Robert ap Gwilym Ddu.

 

Brut y Tywysogion (3)    

DAWI GRIFFITHS, ein cadeirydd, gyda’r drydedd o sgyrsiau addysgiadol ar ‘Frut y Tywysogion’ : y 12fed ganrif.

 

Lli Mawr 1781    

W.J.EDWARDS yn rhoi hanes y lli enbytaf a welwyd yn Llanuwchllyn, Penllyn ac sydd â’i olion yn dal i’w gweld yn yr ardal.

 

Clymau tafod    

ROBIN GWYNDAF hefo rhigymau â ffurf arbennig iddynt, fel cwlwm tafod ac ailadrodd, a chwedlau am y goruwchnaturiol.

 

Cythrel Cystadlu (1)    

Rhan o ddarlith T.LLEW JONES, y nofelydd, y bardd a’r athrylith sy’n dangos ei ffraethineb heintus a’i ddawn anghymarol fel darlithydd.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Anecdotau llenyddol (1)    

Y gyntaf mewn cyfres o hanesion difyr am awduron gan TEGWYN JONES sydd hefyd yn awdur toreithiog ac yn Gadeirydd y Cyngor Llyfrau.

 

Storïau Gwerin (1)    

ROBIN GWYNDAF yn cyflwyno cyfres ar chwedlau llafar gwlad: straeon hud a lledrith a rhamantaidd.

 

Brut y Tywysogion (2)    

DAWI GRIFFITHS, ar Frut y Tywysogion: yr unfed ganrif ar ddeg, 1066 a 1075.

 

Carneddog (4)    

BLEDDYN O.HUWS gyda mwy o’r casgliad ‘Cerddi Eryri’ a olygwyd gan Carneddog, sy’n adlewyrchu hen fyd a hen fywyd Eryri.

 

Yr Ŵyl Ddiolchgarwch (4)    

TWM PRYS JONES hefo’r olaf o hanes yr Ŵyl Ddiolchgarwch, yn arbennig ymysg y Methodistiaid Calfinaidd.

 

Nôl i’r gorffennol    

ELFYN PRITCHARD yn edrych yn ôl ar  ddigwyddiadau’r flwyddyn 1961 yn Sir Feirionnydd a’i chyrion.

 

Coelcerth Rhyddid (1)    

GERAINT JONES, ein golygydd, yn manylu ar ddigwyddiad arbennig ar yr unfed ar ddeg o Fedi 1937.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
A heuo faes  

ELFYN PRITCHARD yn sôn am gysylltiadau’r Prifardd a’r cyn-Archdderwydd Geraint Bowen â’r Sarnau, Meirionnydd.

 

Brut y Tywysogion (1)    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn y gyntaf o’i gyfres, yn ein tywys drwy rai o ddigwyddiadau pwysicaf ein cenedl a gofnodir ym Mrut y Tywysogion.

 

Mathews Ewenni    

W.J.EDWARDS, un o hoelion wyth yr Utgorn yn sôn am y dihafal Edward Mathews, Ewenni, Bro Morgannwg

 

Yr Ŵyl Ddiolchgarwch (3)  

 TWM PRYS JONES yn rhoi mwy o hanes tarddiad yr Ŵyl Ddiolchgarwch Gymreig gan y ‘ditectif enwadol’.

 

Carneddog (3)    

BLEDDYN O.HUWS yn ein tywys eto i Nantmor, Beddgelert at y cymeriad rhyfeddol Carneddog a ‘Cerddi Eryri’.

 

Niclas y Glais (5)    

Yr olaf o gyfraniadau EMYR LLYWELYN,   Golygydd Y Faner Newydd, ar hanes y bardd, y Comiwnydd a’r heddychwr.

 

David Lloyd    

GERAINT JONES, ein Golygydd, yn sôn am David Lloyd, y tenor enwog o Drelogan.

 

Bugail Aberdyfi    

DAVID LLOYD gyda geiriau Ceiriog a cherddoriaeth Idris Lewis.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Enwau anghyffredin    

GLENDA CARR ar eglurhad enwau pur anghyffredin fel ‘Apii-fforum’, ‘Hendre Feinws’ ac ‘Elernion’ .

 

Carneddog (2)    

BLEDDYN O.HUWS yn rhoi hanes y ffrae anhygoel fu rhwng Carneddog a’i gyfaill mynwesol, yr anfarwol Bob Owen, Croesor.

 

Elin Wilias, bydwraig    

ROBIN GWYNDAF yn sgwrsio gyda’r wraig fyrlymus, Siân Lloyd Williams, am ei mam, Elin Williams, a chip ar effaith Diwygiad ’04 arni.

 

Henry Hughes, Bryncir (2)    

HARRI PARRI gydag ail ran portread o’r Parch Henry Hughes, a fu’n weinidog ym Mryncir a Brynengan am ymron hanner canrif.

 

R.S. (2)    

GERAINT JONES, ein golygydd, yn sôn am ei ffrind, y bardd a’r gwladgarwr, R.S.Thomas.

 

Niclas y Glais (4)    

EMYR LLYWELYN yn sôn am un o gymwynaswyr pennaf ein cenedl, Niclas y Glais.

 

Gwin y gorffennol    

EMLYN A HARRI RICHARDS – Y ddau frawd o Lŷn yn rhoi rhywfaint o flas hen win y gorffennol i ni. Emlyn yn sôn am fywyd llofft stabal a Harri â’i afiaith arferol yn canu un o’i hoff faledi – ‘Baled y Lleuen’.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Niclas y Glais (3)    

EMYR LLYWELYN â rhagor o hanes T.E.Nicholas, y bardd a’r sosialydd oedd yn gwmniwr difyr a diddorol, yn wisgwr lliwgar a hefyd yn ddeintydd go arw.

 

Rhai ymadroddion    

YR ATHRO BRANWEN JARVIS yn sôn am ymadroddion dieithr a fabwysiadwyd gan werin gwlad, rhai o feysydd cad y Rhyfel Mawr ac eraill  a ddaeth gyda milwyr Rhufain a’r Normaniaid.

 

Dydd Llun Diolchgarwch (2)    

TWM PRYS JONES yn parhau i olrhain tarddiad a datblygiad yr Ŵyl Diolchgarwch.

 

Siân Williams, Tynygongl    

ROBIN GWYNDAF yn rhoi blas inni o rai o’i  gyfweliadau gyda Siân Williams,  (a fu farw yn 96 mlwydd oed yn Ionawr 1992) ac a recordiwyd  ym Môn yn 1976.

 

Carneddog    

BLEDDYN O.HUWS o Ddyffryn Nantlle yn cyflwyno rhan gyntaf sgwrs a draddododd yn Y Ganolfan, am y cymeriad rhyfeddol hwnnw o Namor ger Beddgelert.

 

Henry Hughes, Bryncir   

 HARRI PARRI, yn rhan gyntaf ei sgwrs yn sôn am Henry Hughes, Bryncir, un o wŷr mawr Eifionydd ac un o bennaf haneswyr Cymundeb y Methodistiaid Calfinaidd yng Nghymru.

 

R.S.       

GERAINT JONES, ein Golygydd, yn sgwrsio’n ddifyr a hwyliog am y bardd, y pregethwr a’r gwladgarwr heb ei fath, R.S.Thomas, gwta naw mis cyn dathlu canmlwyddiant ei eni.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Llai na blwyddyn yn Llŷn.(2)    

PRYDERI LLWYD JONES hefo ail ran ei sgwrs ddiddorol a dadlennol am yr heddychwr George M. Ll. Davies.

 

Niclas y Glais (2)    

EMYR LLYWELYN gyda’i gyfraniad pellach am y bardd, pregethwr a heddychwr, T.E. Nicholas a’r driniaeth gwbl warthus a dderbyniodd gan y llysoedd barn.

 

R.S.    

ROBYN LEWIS, y cyn-Archdderwydd, ar drothwy dathlu canmlwyddiant geni’r bardd, R.S. Thomas, yn dwyn atgofion amdano a’i gysylltiad â ‘Chyfeillion Llŷn’.

 

Yr Wyl Ddiolchgarwch (1)    

TWM PRYS JONES o Langybi, Eifionydd a rhan gyntaf o ffrwyth ei ymchwil i un o’n gwyliau crefyddol sydd ar fin diflannu, sef Gŵyl – neu Ddydd Llun – y Diolchgarwch.

 

Owain Lawgoch    

CANON TEGID ROBERTS yn adrodd hanes Owain ap Tomos, neu Owain Lawgoch, oedd yn or-nai i Lywelyn ap Gruffudd.

 

Yn ôl i Langollen (2)    

GERAINT JONES, ein Golygydd, gyda’r ail sgwrs am y tenorydd byd-enwog Luciano Pavarotti a ddychwelodd i Langollen i ddiolch i bobl Cymru am roi un o’r cyfleodd cyntaf iddo fel canwr.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Llai na blwyddyn yn Llŷn (1)    

PRYDERI LLWYD JONES yn sgwrsio am yr heddychwr rhyfeddol hwnnw, George M. Ll. Davies, a dreuliodd gyfnod byr yng ngwlad Llŷn.

 

Carmen Sylva    

GARETH HAULFRYN a’i sgwrs am y cysylltiad rhwng brenhines Rwmania ag enwau dwy stryd yng Nghraig-y-Don, Llandudno.

 

Tom Nefyn (2)    

HARRI PARRI gyda’r ail ran o’i bortread o un o wŷr mawr Llŷn yn y cyfnod wedi iddo ddychwelyd i’r gogledd yn dilyn helyntion trist Cwm Gwendraeth.

 

R.S.    

ALWYN PRITCHARD, un arall o gyfeillion R.S. Thomas, yn sôn am y bardd ac yn enwedig am ei barti pen blwydd ym 1993 yn bedwar ugain oed.

 

Iocws    

GLENDA CARR yn treiddio’n ddoeth a dwfn i ystyr a tharddiad enwau lleoedd a’r tro hwn i enw diddorol dros ben a thro sydyn yn ei gynffon.

 

Niclas y Glais (1)    

EMYR LLYWELYN, Golygydd y cylchgrawn rhagorol, ‘Y Faner Newydd’, gyda rhan gyntaf o ddarlith ar fywyd a gwaith T.E. Nicholas, a recordiwyd yn 1986.

 

Yn ôl i Langollen  

 GERAINT JONES, ein Golygydd, yn sôn am ganwr byd-enwog, am Eisteddfod Llangollen 1955 ac am yrfa ryfeddol gŵr o’r Eidal. Gyda’r unawd tenor ‘La donna è mobile’ allan o ‘Rigoletto’ gan Verdi.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Wil Wandring    

J.ELWYN HUGHES, yr hanesydd, yn sôn am gymeriad digri o Ddyffryn Ogwen a oedd yn un o’r bobl nad oedd ‘mesur eu llathen hwy yr un hyd â llath’

 

Enwau Lleoedd (3)    

GLENDA CARR yn sôn yn arbennig am enwau lleoedd a newidiwyd ac a lurginiwyd dros amser.

 

Tom Nefyn (1)    

HARRI PARRI â’i sgwrs gyntaf am Tom Nefyn Williams, pregethwr o Lŷn a ddaeth yn ffigwr cenedlaethol dadleuol yn dilyn helynt yn Nghwm Gwendraeth.

 

Teulu’r Mesns    

GARETH HAULFRYN, cyn-archifydd sirol Gwynedd, aiff â ni i ardal Pumlumon, i wlad y mwynfeydd plwm a theyrnas y Wesleiaid, ac yn bennaf i gwmni’r Mesns.

 

R.S. Thomas – cymydog    

GARETH WILLIAMS o ardal Porth Neigwl ym mherfeddion Llŷn yn sôn am y bardd a’r gwladgarwr R.S. Thomas a fu’n gymydog iddo am flynyddoedd lawer.

 

Rhisiart Wynn a’r Chwyldro    

ROBYN LEWIS, y cyn-Archdderwydd o Nefyn yn sôn am Rhisiart Wynn o ardal Llanfihangel Bachellaeth, Llŷn, a hyrddiwyd i ganol y chwyldro Ffrengig ddiwedd y ddeunawfed ganrif.

 

Leila Megane (2)    

GERAINT JONES – O ‘Gornel y Cerddor’ caiff Geraint gyfle i sôn ymhellach am y gantores Gymreig enwog a’i gŵr, Osborne Roberts.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Llys y Sesiwn Chwarter (2)    

J.DILWYN WILLIAMS gyda ail ran ei sgwrs ar rai o gofnodion y Sesiwn Chwarter o oes Cromwell a’r werin lywodraeth sydd ar gael yn yr archifdy yng Nghaernarfon.

 

Hen a Newydd    

EMLYN RICHARDS y pregethwr poblogaidd a’r awdur toreithiog o Fôn, â’i feddyliau am y berthynas rhwng dau air sydd fel ffon fesur ar werth pethau a phobl.

 

William Griffith yn Affrica (2)    

GWENLLÏAN JONES gyda mwy o hanes William Griffith a’i lythyrau o Affrica sydd yn adlewyrchu ysbryd y bedwaredd ganrif ar ddeg a meddylfryd ymerodrol Prydain Fawr.

 

Enwau lleoedd (2)    

GLENDA CARR gyda ail ran o sgwrs ar hanes enwau lleoedd, fel Nantlle, sydd a chysylltiadau â chwedlau’r Mabinogion.

 

Fanny Jones (2)    

MARIAN ELIAS ROBERTS yn rhoi rhagor o hanes Mrs John Jones Tal-y-sarn, a ddaeth yn wraig busnes o’r radd flaenaf.

 

Tynged yr Iaith 1962    

SAUNDERS LEWIS – Ei ddarlith radio enwog, a draddododd yn Chwefror 1962, ac a roddodd sylfaen newydd i wleidyddiaeth ddiwylliannol, ymosodol yng Nghymru.

 

Leila Megane    

GERAINT JONES, yng Ngornel y Cerddor yn adrodd hanes merch a ddaeth yn un o fawrion y llwyfan yng Nghymru a llwyfanau mawr y byd.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Enwau lleoedd (1)    

GLENDA CARR gyda’r rhan gyntaf cyfres o sgyrsiau ar enwau lleoedd a’u hystyron,  sy’n rhoi goleuni newydd a gwahanol ar enw lle a gysylltwyd â’r Mabinogion.

 

Llys y Sesiwn Chwarter (1)  

 J.DILWYN WILLIAMS, yr hanesydd rhagorol, yn rhan gyntaf ei drafodaeth ar un o drysorau’r archifdy yng Nghaernarfon, sef hen gofnodion Llys y Sesiwn Chwarter.

 

Fanny Jones (1)  

MARIAN ELIAS ROBERTS, ein hysgrifennydd, â rhan gyntaf hanes Frances Edwards a ddaeth yn wraig i John Jones, Tal-y-sarn, un o bregethwyr mawr y 19ed ganrif.

 

Hen dref Caernarfon    

T.MEIRION HUGHES – Un o gyfranwyr ffyddlon yr Utgorn, yn sôn am enwau strydoedd ac adeiladau hen dref Caernarfon oddeutu dwy ganrif yn ôl.

 

Gerallt Gymro (4)    

BOB MORRIS yr hanesydd,  yn ei sgwrs olaf am yrfa a chymeriad Gerallt Gymro a’i le yn hanes ein gwlad.

 

William Griffith yn Affrica (1)    

GWENLLÏAN JONES yn traddodi ei sgwrs gyntaf am y gŵr o’r Felinheli a fu’n gweithio i gwmni o fwynwyr deiamwntiau ym Motswana a De Affrica.

 

Emynwyr y Fro (2)    

DAWI GRIFFITHS ein Cadeirydd, yn traddodi ail  ran ei sgwrs ar ddau emynydd o Fro Morgannwg sef Tomos Wiliam a John Williams, a chynulleidfa Cymanfa Ganu yng Nghwm Tawe yn canu.

2006 - 2011

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Hen Nadolig y Cymry    

TWM ELIAS yn sgwrsio am hen arferion a thraddodiadau’r Cymry wrth iddynt ddathlu’r Nadolig a’r Calan, er gwaethaf yr ymdrechion i geisio cael gwared ohonynt.

 

Gerallt Gymro (3)    

BOB MORRIS  – sgwrs arall ddadlennol am Gerallt Gymro – y tro hwn ar ei uchelgais i fod yn Esgob Tŷ Ddewi.

 

Henaint    

EMLYN RICHARDS yn sôn am gyrraedd y pedwar ugain oed.

 

Hel Achau (2)    

T.MEIRION HUGHES yn rhoi sylw arbennig i’r dull o gyfenwi yng Nghymru sydd yn prysur ddod yn ôl.

 

Emynwyr y Fro (1)    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn sôn am ddau o fawrion Morgannwg, sef John Williams Sain Tathan a Tomos Wiliam, Bethesda’r Fro.

 

Tlysau Ynys Prydain    

DIANE JONES, cyn-reolwraig Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, â hanes diddorol am dri thlws ar ddeg o oes yr Hen Brydain, y Brythoniaid a’r Gododdin.

 

Côr Meibion Treorci (11)    

GERAINT JONES – O Gornel y Cerddor. Dyma’r olaf o’i sgyrsiau am ganu corawl Cwm Rhondda a’r ardloedd glofaol sydd yn cloi gyda Chôr Meibion Treorci, yn canu ‘Myfanwy‘.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Y Lleidr ‘Menyn    

TWM ELIAS yn sgwrsio am ‘wynt traed y meirw’, hen ffeiriau’r gaeaf, a’r stori ryfeddol am dwyllo’r lleidr ‘menyn.

 

Bro Llugwy    

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS yn sôn am ail ran ei daith yng ngogledd-ddwyrain Môn, y tro hwn yn ardal Llugwy lle ceir ‘adfeilion byw’ – yr hen adeiladau hudolus sydd â’u sylfeini yn gadarn ym mhridd gorffennol ein cenedl.

 

Gerallt Gymro (2)    

BOB MORRIS yn ei ail sgwrs yn edrych ar gyfnod rhamantus yn hanes ein gwlad, sef y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd-ganrif-ar-ddeg, drwy ffenestr Gerallt Gymro.

 

Bro Morgannwg (2)    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd a’r ‘pererin llon’ sy’n dal ar ei daith ym Mro Morgannwg, yn ymweld â llawer o lefydd tlws a hanesyddol fel Plasty’r Sger, ac yn sôn am Iolo Morganwg.

 

Côr Meibion Treorci (10)    

GERAINT JONES, ein Golygydd, yn ein tywys o Gornel y Cerddor i gyfarfod â’r frenhines Fictoria yng nghwmni Côr Meibion Treorci a Chôr Chwarelwyr Dinorwig, Arfon.

 

Hel Achau (1)  

 T.MEIRION HUGHES, hanesydd tref Caernarfon yn sôn am hel achau ac yn cael cymorth arbenigwraig yn y maes i ddangos sut i fynd ati os am lwyddo i ddod o hyd i ffeithiau.

 

Triawd y Coleg (5)    

CLEDWYN JONES gyda rhan olaf ei ddarlith a gair o ddiolch a chyfeiriadau at fod yn wleidyddol gywir, cyn cloi gyda’r gân am ‘Hen Feic Peni-ffardding fy Nhaid’.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Jac Lantar Nos Glangaea’    

TWM ELIAS a’i rwdan a’i Jac Lantar, yn troi’n sylw at nos Glangaea’ a hen, hen elfennau cytefig a phaganaidd y traddodiad yng Nghymru.

 

Gerallt Gymro (1)    

BOB MORRIS, yr hanesydd, yn y gyntaf o bedair sgwrs addysgiadol a difyr, yn sôn am hanes y Cymro rhyfeddol a digon cymhleth sydd â’i Gymreictod honedig yn rhan annatod o’i enw – Gerallt Gymro.

 

Côr Meibion Treorci (9)    

GERAINT JONES yng Nghornel y Cerddor, yn sôn am darddiad enw Treorci, am hanes glofeydd yr ardal ac am y côr meibion  a ddaeth yn goron y diwylliant ac yn enwog drwy’r byd.

 

Eisteddfodau a Beirdd Llŷn    

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn, yn sgwrsio am gynnyrch Eisteddfodau Pwllheli gynt ac am awdl ‘Y Dewin’ gan Moses Glyn Jones o Fynytho a fu’n fuddugol yn Eiteddfod  Caerfyrddin ym 1974.

 

Bro Morgannwg (1)    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, a’r ‘crwydryn llon’ yn dechrau ar ei daith trwy bentrefi hyfryd Bro Morgannwg, yn enwedig Llancarfan, Llanilltyd ac Ewenni.

 

Siarad  

 EMLYN RICHARDS, yr hynaws bregethwr o Fôn a gwlad Llŷn yn ein harwain at Bob a Nel o Garmel, Sir Fôn a’r gwyddau oedd yn siarad.

 

Triawd y Coleg (4)    

CLEDWYN JONES yn parhau â’i atgofion difyr am Driawd y Coleg ac yn cyflwyno rhai o’r caneuon hyfryd a swynol a wnaeth y triawd yn eicon ganol yr 20fed ganrif.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Hanes Utgorn Cymru    

MORGAN JONES, ein cyflwynydd yn rhoi ychydig o hanes Utgorn Cymru ac yn sôn am gynnwys y rhifyn cyntaf yn Hydref 2006.

 

Pen-blwydd Utgorn Cymru  

 MARIAN E.ROBERTS ein Hysgrifennydd, ar ben blwydd Utgorn Cymru yn bump oed, yn sôn am agor y Ganolfan ac am ddechrau cyhoeddi’r cylchrawn chwe mis yn ddiweddarach.

 

Rhys Hendra Bach    

HARRI PARRI, y pregethwr a’r llenor sydd yn un o ffyddloniaid yr Utgorn, yn portreadu saer cribiniau, saer eirch a ‘Babtys o’r bru’ –  Rhys Roberts, Hendra Bach.

 

Cofio’r Athro JR Jones    

PRYDERI LLWYD JONES yn sôn am y Cymro a’r heddychwr, Yr Athro J.R. Jones, o Abertawe a Phwllheli, gŵr nad ydym bob amser yn sylweddoli nad ei athroniaeth na’i genedlaetholdeb oedd ei unig argyhoeddiadau angerddol.

 

Lleuad a Chaseg Fedi    

TWM ELIAS yn sôn y mis hwn am Leuad Fedi a’r naw nos olau, am hwyl ddiniwed y Gaseg Fedi,  Gŵyl Fihangel, Ha’ bach Mihangel a’r diafol.

 

Triawd y Coleg (3)    

CLEDWYN JONES, yn nhrydedd ran ei sgwrs, yn troi ei olygon at rai o ganeuon anfarwol y Triawd fel ‘Y Tri Chanwr’, ‘Mari Fach’, ‘Triawd y Buarth’, ac un a gyfansoddwyd gan Robin Williams, baswr y Triawd: ‘Pictiwrs Bach y Borth’.

 

Tŷ’r Ysgol    

DIANE JONES  yn ein tywys i bentref bach Rhyd-Ddu yng nghalon Eryri i sôn am un sonedau anwylaf y Gymraeg, sef ‘Tŷ’r Ysgol’ gan T.H. Parry-Williams.

 

Côr Meibion Treorci (8)    

GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn sôn am fuddugoliaeth y ‘Rhondda Glee Men’ a’u harweinydd nodedig, Tom Stephens, yn Ffair y Byd yn Chicago. Ar y diwedd cawn glywed diweddglo un o ddarnau prawf y gystadleuaeth honno sef ‘Cytgan y Pererinion’, Joseph Parry, yn cael ei ganu gan un arall o fawrion gorau meibion Cwm Rhondda:Côr Meibion Pendyrus.

Cyflwynydd; Morgan Jones
     
Y tymor saethu    

TWM ELIAS, y mis hwn, yn ein tywys i fyd gŵr y Plas a’r saethu, yn sôn am Ŵyl Ieuan y Moch, ac yn adrodd stori go amheus o stad Dolannog, Sir Drefaldwyn.

 

Lewis Morris (2)  

 Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn, yn parhau â’i stori arbennig am y di-ildio a’r dawnus Lewis Morris.

 

Gildas (2)    

HOWARD HUWS gyda rhagor am un o gymeriadau mawr hanes cynnar ein cenedl.

 

Dafydd Jones o Gaeo    

DAWI GRIFFITHS yn troi ei olygon at bentref bychan Caeo yn Sir Gaerfyrddin, ac at un o’n hemynwyr enwocaf.

 

Triawd y Coleg (2)    

CLEDWYN JONES gyda’i ail ran sgwrs ddifyr ar hanes y triawd rhyfeddol a fu’n diddanu’r genedl yng nghyfnod cynnar y gwasanaeth radio Cymraeg – cyfnod Sam Jones a’r Noson Lawen.

 

Bysus Bach y Wlad    

T.MEIRION HUGHES, hanesydd tref Caernarfon, yn dwyn ar gof ogoniant a fu bysus bach y wlad.

 

Côr Meibion Treorci (7)    

GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn datgan fel y crewyd rysait ddi-feth ar gyfer cythraul canu pan ddaeth William Thomas, Tom Stephens a Chôr Meibion Treorci a’r Rhondda Glee Men ynghyd.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Teisennau Berffro  

TWM ELIAS â’i arlwy ysbrydol a chorfforol a chyfuniad rhyfedd o bereindota a theisennau Berffro.

 

Triawd y Coleg (1)    

CLEDWYN JONES – brodor o Dal-y-sarn, Dyffryn Nantlle, awdur a llenor sydd hwyrach yn fwy adnabyddus trwy Gymru fel un o’r triawd arloesol.

 

Lewis Morris (1)  

 Y PRIFARDD CEN WILLIAMS yn ein tywys i Fôn at hanes y mwyaf o’i mawrion, y pennaf a’r mwyaf galluog o’r brodyr enwog – Morrisiaid Môn.

 

Y Cofiant Cymeig (3)    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn yr olaf o’i sgyrsiau ar y cofiant Cymreig yn ein hatgoffa fod ochr ddigri hefyd i rai o’r hen gofiannau oedd, fel rheol, yn sych a thrwmlwythog.

 

Côr Meibion Treorci (6)    

GERAINT JONES, ein Golygydd, o Gornel y Cerddor, yn ein tywys i Gwm Rhondda, i Dreorci’n benodol, ac at y ffenomen gerddorol hynod o Gymreig – y côr meibion.

 

Gildas (1)  

 HOWARD HUWS sydd wedi ei ymdrwytho yn hanes cynnar ein cenedl, yn ei sgwrs gyntaf am un o haneswyr y gorffennol pell.

 

Moliannwn  

 J.ELWYN HUGHES yn mynd i lygad y ffynnon i gael y gwir am darddiad ac awduraeth geiriau’r gân enwog ‘Moliannwn’ .

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Troad y Rhod a’r Ysbrydnos    

TWM ELIAS y tro hwn yn symud o’r Gwanwyn tuag at ganol yr Haf a ddathliadau Mehefin, mis ein puro â than a mis Gŵyl Ifan a Gŵyl yr Ysbrydnos.

 

Catrin o Ferain (3)    

DR ENID PIERCE ROBERTS – Rhan olaf sgwrs Dei Tomos â’r ddiweddar ysgolhaig Dr. Enid Pierce Roberts am y ryfeddol Gatrin o Ferain a’i phriodasau niferus, a’r pwysigrwydd o gael plant yn llinach yr uchelwyr.

 

Ffynhonnau Llŷn (2)  

 ELFED GRUFFYDD yn ei ail sgwrs ar enwau rhai o ffynhonnau Llŷn, yn enwedig y rhai yr oedd cred yn eu nerth meddyginiaethol ac y bu pererindota atynt yn gryf gydol yr oesau.

 

Cilan ac Edern  

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn, yn ein harwain ar daith lenyddol i Lŷn, i Gilan, cynefin y Prifardd Alan Llwyd ac i Edern at  John Glyn Davies, bardd Porthdinllaen a Fflat Huw Puw.

 

Y Napoleon  

T.MEIRION HUGHES yr hanesydd, yn sôn am un o hen longau Caernarfon, yr enwog ‘Napoleon’ y cysylltwyd ei henw yn ddiweddarach â theulu o Gofis.

 

Y Cofiant Cymreig (2)    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn ei ail sgwrs ar y cofiannau Cymreig, a oedd bron yn ddieithriad wedi eu neilltuo i ddynion, a’r rheini â bucheddau dilychwin.

 

Côr Meibion Treorci (5)    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn ein tywys i’r Palas Grisial yn 1873 a buddugoliaeth berlewygol y cantorion Cymreig.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Caseg Pemprys a’r Sulgwyn    

TWM ELIAS yn adrodd hanes caseg wen nwydus o ardal Boduan, Llŷn, ac yn sôn am ddathliadau’r  Sulgwyn, ar yr wythfed Sul wedi’r Pasg.

 

Straeon Celwydd Golau    

ROBIN GWYNDAF, yn dilyn oes o weithio yn yr Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan a gwrando ar straeon lawer ledled Cymru, yn adrodd un neu ddwy o’r rhai mwyaf amheus.

 

Ffynhonnau Llŷn (1)    

ELFED GRUFFYDD, brodor o Langwnadl yn Llŷn, a chyn-brifathro ysgolion Nefyn a Phwllheli, gyda rhan gyntaf sgwrs ddiddorol sy’n sôn am hanes rhai o hen ffynhonnau’r ardal.

 

Y Cofiant Cymreig (1)    

DAWI GRIFFITHS, ein Cadeirydd, yn cyflwyno ei sgwrs gyntaf ar ffurf lenyddol y cofiant Cymreig o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg i ddechrau’r ugeinfed ganrif.

 

Catrin o Ferain (2)  

 DR.ENID PIERCE ROBERTS – Y ddiweddar Ddr. yn ail ran ei sgwrs gyda Dei Tomos yn sôn am ei diddordeb yn hanes Catrin o Ferain.

 

Nant Gwrtheyrn    

DEILWEN HUGHES o Fethel yn Arfon yn darllen rhai o atgofion ei thad, Robert Gwynedd Crump, am fywyd pentref Nant Gwrtheyrn.

 

Y flwyddyn 1900    

TEGWYN JONES, y gŵr gwybodus o Geredigion, yn sôn am 1900, y flwyddyn yr heriodd y Boeriaid rym yr ymerodraeth Brydeinig, blwyddyn gemau Olympaidd Paris a llawer mwy.

 

Côr Meibion Treorci(4)    

GERAINT JONES, yng Nghornel y Cerddor, yn sgwrsio am Griffith Rhys Jones, y gof talentog o Drecynon, Aberdâr, sef Caradog, a roddodd sylfaen i’r cysyniad o Gymru Gwlad y Gân.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Rhyfeddodau Ebrill    

TWM ELIAS yn sôn am natur gyfnewidiol Ebrill, am ‘wellingtons’, am y gôg ac am boeri ar bres.

 

Hedfan i Sir Fôn    

T.MEIRION HUGHES, yr hanesydd ffyddlon, gyda hanes rhywun yn hedfan o gastell Caernarfon i Fôn yn 1857.

 

Teulu Penygeulan    

W.J.EDWARDS yn ein tywys i ardal Penllyn, Meirionnydd at un o deulu Penygeulan yr hanai  O.M.Edwards ohono.

 

Catrin o Ferain (1)    

DR ENID PIERCE ROBERTS – Rhan gyntaf  sgwrs y ddiweddar Ddr. Enid Pierce Roberts, Bangor gyda Dei Tomos, ar Gatrin o Ferain a’i hamrywiol briodasau.

 

Chwedlau’r Llyn    

ROBIN GWYNDAF, un arall o ffyddloniaid yr Utgorn, yn adrodd rhai hen straeon am Lyn Safaddan ym Mrycheiniog.

 

T. Rowland Hughes    

DIANE JONES, cyn-reolwr Y Ganolfan, gyda chyfraniad byr am ‘y dewraf o’n hawduron’ – y bardd a’r nofelydd T.Rowland Hughes.

 

Rhiw-bach (4)  

 VIVIAN P.WILLIAMS o Flaenau Ffestiniog, gyda rhan olaf hanes Rhiw-bach, y pentref chwarelyddol yr ochr uchaf i Benmachno a’i gymdeithas ddiwylliedig.

 

Côr Meibion Treorci (3)  

 GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn sgwrsio am ddatblygiad canu corawl yn Nhreorci a hanes y canwr ‘Caradog’ a enillodd le yng nghyfrolau hanes Gwlad y Gân.

 

Bardd y Betws Fawr    

J.DILWYN WILLIAMS â golwg ar droeon gyrfa un o feirdd mwyaf Cymru: Robert ap Gwilym Ddu.   

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Y Pasg a’i arferion    

Gŵyl y Pasg a’i thraddodiadau yw testun sgwrs TWM ELIAS y tro hwn.

 

Idwal Wyn Jones    

HARRI PARRI yn sôn am y diweddar Idwal Jones, gweinidog gyda’r Bedyddwyr, casglwr hen greiriau a chymeriad yn ei hawl ei hun.

 

Y flwyddyn 1890    

TEGWYN JONES, un arall o gyfranwyr ffyddlon Yr Utgorn, yn sgwrsio am y flwyddyn 1890.

 

Y teiffws a’r geri marwol    

DAWI GRIFFITHS, cadeirydd gweithgar Pwyllgor Gwaith Canolfan Hanes Uwchgwyrfai, yn sôn am ddau afiechyd marwol fu’n rheibio Cymru am amser maith.

 

Stori cyflawni camp    

ROBIN GWYNDAF yn troi ei olygon at ardal Dyffryn Ceiriog, at ffurf ar stori draddodiadol ac un a glywodd gan Idris Davies.

 

Evan R. Davies, Pwllheli (3)    

TWM PRYS JONES  yn cyflwyno rhan olaf ei sgwrs ar Evan R. Davies, gŵr dawnus a gweithgar yn nhref Pwllheli.

 

Rhiw-bach (3)    

VIVIAN PARRY WILLIAMS gyda mwy o hanes Rhiw-bach a hynt a helynt Kate Hughes, ysgolfeistres y pentref.

 

Côr Meibion Treorci (2)    

GERAINT JONES yng Nghornel y Cerddor, yn sôn am ganu cynulleidfaol y capeli yng nghymoedd y de ac am ddylanwad aruthrol ‘Llyfr Tonau’ Ieuan Gwyllt,  y gŵr a sefydlodd y gymanfa ganu Gymreig.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Llyffantod    

Gyda dyfodiad y ‘mis bach’ dyma sgwrs fer gan TWM ELIAS.

 

Hen Feibl    

W.J.EDWARDS yn dychmygu hanes llyfr o’i eiddo sydd yn werthfawr oherwydd ei natur, ei gynnwys, a hefyd ei oed.

 

Evan R. Davies, Pwllheli (2)    

TWM PRYS JONES gydag ail ran hanes Evan Robert Davies, y gŵr o Bwllheli a oedd yn gyfaill mynwesol i Lloyd George.

 

Tyddyn Cwtyn y Ci    

ROBIN GWYNDAF yn ein tywys i Fro Hiraethog ac at hen draddodiad adrodd straeon y fro honno.

 

Yr Hen Felinydd    

SOPHIA PARI-JONES o’r Felin Faesog ym mhlwyf Clynnog Fawr yn Arfon, yn sôn am Emanuel Evans a fu’n felinydd yno, ac a oedd yn ŵr diwilliedig ac yn gerddor amryddawn.

 

Rhiw-bach (2)    

VIVIAN PARRY WILLIAMS ac ail ran hanes y pentref diflanedig ym mharthau uchaf Cwm Penmachno, a bwrlwm diwylliannol y lle yn awr anterth y chwarel lechi.

 

Y Pla Du    

DAWI GRIFFITHS yn disgrifio gwedd drist iawn ar hanes Cymru – yr afiechydon a chlefydau fel y gwahanglwyf a’r pla du.

 

Côr Meibion Treorci    

GERAINT JONES, yn y gyntaf o un ar ddeg o sgyrsiau, yn teithio i Gwm Rhondda i gael golwg fanwl ar fyd y corau meibion sydd ag iddo le arbennig yn ein traddodiad cerddorol.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Y Calan a Dwynwen    

TWM ELIAS, ar ddechrau blwyddyn newydd, yn sôn am hen bethau’r calan gynt, am oruchwylion gaeafol byd amaeth ac am y Santes Dwynwen.

 

Huw Llwyd o Gynfal    

GERAINT VAUGHAN JONES, un o brif nofelwyr y Gymraeg, sydd yn rhoi hanes un o dylwyth y Llwydiaid athrylithgar o Gynfal Fawr ym mhlwyf Maentwrog.

 

Y flwyddyn 1873    

TEGWYN JONES â’i stôr o wybodaeth am rai o ddigwyddiadau’r flwyddyn 1873,  am David Livingstone, Twm Sion Cati, am golli llongau a llawer mwy.

 

Puleston    

PRYDERI LLWYD JONES yn adrodd hanes un o heddychwyr mawr Cymru, sef y galluog a’r dewr bregethwr dall, John Puelston Jones.

 

Rhiw-bach  

 VIVIAN PARRY WILLIAMS, brodor o ardal Penmachno, yn ei gyntaf mewn cyfres o bedair sgwrs ar ardal fynyddig ac anghysbell Cwm Penmachno a phentref chwarelig Rhiw-bach.

 

Morrisiaid Môn    

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn, yn sôn am Forrisiaid enwog yr ynys – y pedwar brawd oedd yn llythyrwyr brwd, a’r berthynas ryfeddol oedd rhyngddynt.

 

Evan R Davies, Pwllheli (1)    

TWM PRYS JONES yn ei sgwrs gyntaf o dair am Evan Robert Davies, un o feibion Pwllheli a fu’n faer y dref bedair gwaith ac a fu’n gysylltiedig â llawer o agweddau ar fywyd yr ardal.

 

Stori Martha Williams  

 ROBIN GWYNDAF yn adrodd stori ryfeddol a glywodd gan Martha Williams o Harlech.

Cyflwynydd: Morgan Jones
 Y drwg a’r da   

ROBIN GWYNDAF yn troi at yr hen thema a geir yn ein chwedlau gwerin, sef y frwydr rhwng y da a’r drwg.

 

Chwedl Branwen   

BRANWEN JARVIS, cyn Athro’r Gymraeg yng Ngholeg Bangor, yn ein tywys at un o’r hen ffefrynnau o fyd y Mabinogi, sef hanes Branwen ferch Llŷr.

 

Talhaearn   

GORONWY DAVIES, Llanfairtalhaearn, yn adrodd hanes John Jones, Talhaearn a oedd yn fardd, yn bensaer ac eisteddfodwr, ar flwyddyn dathlu dau can mlwyddiant.

 

Thomas Roberts,

Llwynrhudol (4)    ARTHUR MEIRION ROBERTS yn cyflwyno  rhan olaf ei gyfres o sgyrsiau diddorol am un o gewri Cymreig y ddeunawfed ganrif.

 

Hen Gantorion Dyffryn Nantlle   

IFAN GLYN JONES, un o’r ddau olygydd, yn sôn am gyhoeddi cryno- ddisg o hen gantorion Dyffryn Nantlle, a oedd yn ffrwyth misoedd o lafur.

 

Coed-y-Gell   

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS yn ein tywys i rai o ardaloedd Môn; i Fynydd Bodafon, i Goed-y-Gell, ac i Fynydd Eilian lle magwyd  y diweddar Bedwyr Lewis Jones.

 

Awen Lawen THPW   

Y PRIFARDD LLION JONES yn trafod rhai o weithiau T.H.Parry Williams sydd yn datgelu iddo ufuddhau i gyngor ei dad i fod ‘yn feiddgar hyd walltgofrwydd’.

 

Y Nadolig a’r Sadwrnalia   

TWM ELIAS yn troi’n sylw at Ŵyl y Nadolig a’i harferion, at y deiliach gwyrddion, y gwledda, a hen ŵyl baganaidd y Rhufeiniaid gynt: y Sadwrnalia.
 

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Ffeiriau Glangaea    

TWM ELIAS yn sôn am hen ffeiriau lle’r arferid cyflogi gweision a morynion ffermydd.


Ysbrydion tanllyd    

WILLIAM LEWIS, gŵr o Fôn, yn sôn am ddirgelwch tân a welwyd ar yr Ynys.


Thomas Roberts, Llwynrhudol (3)    

ARTHUR MEIRION ROBERTS gyda rhagor o hanes Thomas Roberts, Llwynrhudol a’i berthynas â’n brodyr Celtaidd o Lydaw.


Y flwyddyn 1867    

TEGWYN JONES yn oedi yn y flwyddyn 1867, blwyddyn o ddigwyddiadau mawr yn Iwerddon, a blwyddyn bwysig yn hanes yr Eisteddfod a hefyd Sarah Jacob yma yng Nghymru.


Ieuan Gwynedd  

 W.J.EDWARDS yn adrodd hanes diddorol am Ieuan Gwynedd, un o wŷr mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg.


Cwlwm tafod    

ROBIN GWYNDAF yn rhannu rhai o’r storïau a adroddwyd iddo am glymau tafod neu dafod llithrig.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Y Madarch Hudol    

TWM ELIAS yn trafod madarch a’u cysylltiadau â gwrachod, rhithweledigaethau a thylwyth teg.


Hen Arferion Cymru (2)    

ROBIN GWYNDAF gyda mwy o storïau gwerin a dyfodd dros y blynyddoedd, y tro hwn am y wraig hynod, Catrin o Ferain.


Dwy delyneg goll    

Y PRIFARDD LLION JONES yn trafod dwy delyneg o waith T.H.Parry-Williams nas cyhoeddwyd erioed.


Gwenfrewi    

GWENLLIAN JONES yn rhoi hanes y santes Gwenfrewi, o’r seithfed ganrif, a’i chysylltiadau â Threffynnon a  Gwytherin.


Thomas Roberts, Llwynrhudol (2)    

ARTHUR MEIRION ROBERTS gydag ail ran ei sgwrs am Thomas Roberts, Llwynrhudol a’i bwysigrwydd yn hanes Cymru.


Y Royal Charter    

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS yn sôn am drychineb y llong ‘Royal Charter’ a ddrylliwyd ar y creigiau ger Moelfre, fis Hydref 1859.


Edmwnd Glynne (3)    

GARETH HAULFRYN WILLIAMS yn rhan olaf o’i sgwrs am hynt a helynt Edmwnd Glynne, yr Ynad Heddwch o’r Hendre, ger Glynllifon.


Baled Penyberth (Ianto Soch)    

EMLYN A HARRI RICHARDS yn sôn am faled a gyfansoddwyd gan Ianto Goch adeg codi’r ysgol fomio ym Mhenyberth yn Llŷn.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Gŵyl y Grog a’r Gyhydnos    

TWM ELIAS yn sôn am bwysigrwydd Gŵyl y Grog a’r Gyhydnos yn y flwyddyn amaethyddol.

 

Dau le    

ELFYN PRITCHARD yn sgwrsio am ddau ŵr arbennig ac am ddau le cysegredig sydd â rhan bwysig yn hanes ein cenedl.

 

J.P. Davies, Porthmadog    

PRYDERI LLWYD JONES yn adrodd hanes J.P.Davies, gŵr dewr ac unplyg oedd yn heddychwr ac yn genedlaetholwr digymrodedd.

 

Newyn yng Nghymru    

DAWI GRIFFITHS, ein cadeirydd, yn sôn am ymdrechion Cymry’r oes a fu i oresgyn argyfyngau tra’n cydio’n dynn yn edefyn brau bywyd.

 

Castell Dolbadarn    

DIANE JONES, ein cyn-reolwr, yn sôn am hanes un o gestyll cynhenid Gymreig ein tywysogion a’i arwyddocad hanesyddol.

 

Thomas Roberts, Llwynrhudol (1)    

ARTHUR MEIRION ROBERTS yn cyflwyno rhan gyntaf ei sgwrs am un o wŷr mawr a dewr y ddeunawfed ganrif.

 

Moelfre    

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS sydd yn ein tywys i ogledd-ddwyrain Ynys Môn, ac i gyfeiriad pentref Moelfre.

 

Edmwnd Glynne (2)    

GARETH HAULFRYN WILLIAMS yn cyflwyno  ail ran ei sgwrs am Edmwnd Glynne, Yr Hendre, Llandwrog;  Piwritan ac Ynad Heddwch.

 

Hen Arferion Cymru (1)    

ROBIN GWYNDAF yn y gyntaf mewn cyfres o sgyrsiau am hen draddodiadau a chwedlau Cymru.

Cyflwynydd: Morgan Jones
     
Tri llif Awst    

TWM ELIAS yn sôn am fis Awst a’r hen ddywediadau am ei dywydd.

 

Lle hudolus    

ELFYN PRITCHARD yn sgwrsio am lecyn sydd yn arbennig iddo, lle y gall lwyr ymgolli.

 

Edmwnd Glynne (1)    

GARETH HAULFRYN WILLIAMS, cyn-archifydd Gwynedd, yn y gyntaf mewn cyfres o sgyrsiau am un o wŷr mawr teulu breintiedig Glynllifon.

 

Y Llofft Stabal (3)    

EMLYN RICHARDS yn nhrydedd ran ei sgwrs am fywyd y gwas fferm yn yr oes a fu.

 

Bro Caradog Prichard (4)  

 J.ELWYN HUGHES yn yr olaf mewn cyfres o sgyrsiau am fro Caradog Pritchard ac am lawnder bywyd Bethesda a Dyffryn Ogwen.

 

Adeiladu yn Lerpwl (2)    

DAWI GRIFFITHS, ein cadeirydd, yn parhau i sôn am Lerpwl ac am ran allweddol y Cymry yn nhwf y ddinas.

 

Y flwyddyn 1865    

TEGWYN JONES yn ein tywys i flwyddyn llawn digwyddiadau, yn eu plith lladd yr Arlywydd Abraham Lincoln, hwylio’r Mimosa gyda’r fintai gyntaf am Batagonia, ac Eisteddfod Aberystwyth.

 

Mormoniaid Felin Faesog    

SOPHIA PARI-JONES, un o noddwyr Utgorn Cymru, sydd yn sôn am ŵr a oedd yn ffrind i Joseph Smith, arweinydd y Mormoniaid, ac a ddylanwadodd ar lawer o Gymry a ymfudodd i  Ddinas y Llyn Halen, U.D.A.

 

Siôn Gwerthyr    

HARRI PARRI yn datgelu’r hanes am aelod o’i deulu, sef y dihiryn John Thomas, neu Siôn Gwerthyr.

Cyflwynydd: Morgan Jones    
 
Dyddiau’r Cŵn    TWM ELIAS yn sôn am y cyfnod poethaf o’r flwyddyn, o’r 3ydd o Orffennaf hyd y 10fed o Awst.

 

Y Llofft Stabal (2)    EMLYN RICHARDS a hanes ei flynyddoedd yn was fferm cyn ei alwad i’r weinidogaeth.

 

Damwain Bryncir 1866        GARETH HAULFRYN WILLIAMS

 

Llawn eco yw Llanycil    W.J. EDWARDS

 

Y flwyddyn 1851    TEGWYN JONES a’r gyntaf o’i chwe cyfraniad ar wahanol flynyddoedd mewn hanes.

 

Bro Caradog Prichard (3)    J. ELWYN HUGHES

 

Pafiliwn Corwen    ELFYN PRITCHARD yn sôn am hen Bafiliwn Corwen a’i hanes anrhydeddus mewn cysylltiad â llawer gwedd ar ein diwilliant.

 

Adeiladu yn Lerpwl    Ffarwel i Ddociau Lerpwl

DAWI GRIFFITHS â’i gyntaf o ddwy sgwrs am ran flaenllaw y Cymry yn adeiladu Lerpwl, prifddinas honedig siroedd y gogledd.

 

 

Cyflwynydd: Morgan Jones

Bro Caradog Prichard (2)

Milwr o Feirion  

ELFYN PRITCHARD yn sôn am Tom Jones, un o feibion Meirion, a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac a gladdwyd ym mynwent Cefnddwysarn.

 

Y Llofft Stabal (1)    

EMLYN RICHARDS â’r gyntaf o dair sgwrs ar fywyd yr hen lofft stabal, “canolbwynt y gymdeithas amaethyddol”.

 

Troad y Rhod    

TWM ELIAS yn sôn am hen goelion ynglŷn â’r dydd hwyaf, gŵyl Barnabas, troad y rhod, a Gŵyl Ifan.

 

Bardd Du’r Betws    

HARRI PARRI â hanes Robert ap Gwilym Ddu, y bardd a’r “emynwr un emyn” o Eifionydd.

 

Gwenllïan (2)    

GWENLLIAN JONES ac ail ran yr hanes rhyfeddol am Gwenllian, y ferch wladgarol a fu’n ymladd dros iawnderau a rhyddid ei phobol.

 

Y Whipar-whîl  

GORONWY WYNNE, gŵr amlwg ym mywyd cerddorol (a botanegol) Cymru, gyda golwg newydd ar gân enwocaf Bob Roberts, Tai’r Felin.

 

Moliannwn  

BOB TAI’R FELIN

Cyflwynydd: Morgan Jones

Y Ffair Gyflogi    

TWM ELIAS yn adrodd hanes mis arbennig ym mywydau’r hen weision ffermydd gynt, gyda’i ffeiriau Calan Mai a’i ffeiriau cyflogi.

 

Mary King Sarah (2)    

AELWEN ROBERTS ag ail ran ei sgwrs ddifyr am y gantores ddawnus o Ddyffryn Nantlle.

 

Bro Caradog Prichard (1)    

J. ELWYN HUGHES

 

Gwenllïan    

GWENLLIAN JONES â’r gyntaf o ddwy sgwrs ar Gwenllian, ferch Gruffydd ab Cynan, un o dywysogesau mwyaf rhyfeddol Cymru.

 

Llwyd o’r Bryn (5)    

GERAINT LLOYD OWEN a’r olaf o bum sgwrs am ei gymydog, ei ffrind a’i arwr, Llwyd o’r Bryn.

 

Y Tad Hughes    

HARRI PARRI yn adrodd hanes dyfodiad y Tad Hughes i Aber-soch ac i Ynys Tudwal Sant yn 1886.

 

Siôn Llwyn Moch    

GERAINT JONES yng  Nghornel y Cerddor, yn sôn am un arall o sylfaenwyr Gwlad y Gân, sef John Rees, neu Siôn Llwyn Moch, o Sir Forgannwg.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Y telor a’r timba    

TWM ELIAS â stori werin ddifyr o Affrica am delor yr helyg, aderyn sydd â’i gân yn un o’r arwyddion fod y gwanwyn wedi dod.

 

Edward Griffith a’r Dragwniaid    

DAFYDD GLYN JONES

 

Ffugenwau (2)    

DAWI GRIFFITHS ac ail ran ei sgwrs hynod ar ffugenwau llawn dychymyg, rhai o’r byd clasurol.

 

Llwyd o’r Bryn (4)    

GERAINT LLOYD OWEN â’i bedwaredd sgwrs am Llwyd o’r Bryn, ei ddawn lenyddol a’i allu i saernio llythyrau o’r radd flaenaf.

 

John Parry a’i atgofion    

W.J. EDWARDS

 

Mary King Sarah (1)    

AELWEN ROBERTS  

 

Yr hen athro canu    

GERAINT JONES,  yng Nghornel y Cerddor, â hanes gŵr o’r Waun-fawr yn Arfon oedd yn gerddor ac athro llwyddiannus ac yn ddylanwad ar yr ymchwydd cerddorol yng Ngwlad y Gân.

 

Hiraeth am gartref    

LLEISIAU’R LLWYN

Cyflwynydd: Morgan Jones     

Sul y Pys a’r Gwyliau    

TWM ELIAS yn mynd trwy ei bethau.

 

Yr Ysgol Sul    

HARRI PARRI a hanes dylanwad arbennig yr Ysgol Sul dros y canrifoedd yma yn Nghymru.

 

Llwyd o’r Bryn (3)    

GERAINT LLOYD OWEN â’r drydedd o bum sgwrs am eiteddfodwr a gŵr a fathodd yr ymadrodd ‘y pethe’.

 

Ffugenwau (1)    

DAWI GRIFFITHS â’r gyntaf o ddwy sgwrs am ffugenwau rhyfedd, ymarferol, a smala ymhlith beirdd a cherddorion Cymru.

 

Yr hen godwr canu (2)   

GERAINT JONES

 

Harriet Elias    

EIRLYS GRUFFYDD â hanes Harriet, gwraig arbennig a ddaeth yn ferch-yng-nghyfraith i John Elias o Fôn.

 

Dafydd ‘Rabar  

 T. MEIRION HUGHES, hanesydd tref Caernarfon, yn sôn am Borth-yr-Aur ac am un o’r cofis enwocaf a fu erioed.

Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Mis bach twyllodrus  

TWM ELIAS

 

Helynt William Trotter  

 DAFYDD GLYN JONES

 

Achos y tai haf (2)    

ROBYN LEWIS, y cyn-Archdderwydd a’r cyfreithiwr, ac ail ran o sgwrs am yr achos llys a fu yn Mhwllheli yng nghyfnod y protestio yn erbyn tai haf.

 

Lewis Valentine  

 BRANWEN JARVIS, cyn Athro’r Gymraeg ym mhrifysgol Bangor, yn sôn am ymateb cynulleidfa ei eglwys i ran Lewis Valentine yn llosgi’r ysgol fomio ym Mhenyberth.  

 

Llwyd o’r Bryn (2)    

GERAINT LLOYD OWEN

 

Gadael Tir:Cofio Hywel Teifi    

GERAINT JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones

Gwanwyn cynnar    

TWM ELIAS yn sôn am y newid yn y tymhorau ac am ddylanwad dyfodiad cynnar y Gwanwyn ar fyd natur.

 

Planhigion Meddyginiaethol    

ANNE ELIZABETH WILLIAMS

 

Llwyd o’r Bryn (1)    

GERAINT LLOYD OWEN a’i atgofion am hanes a dylanwad un o gewri ardal y Sarnau ym Meirion.

 

Achos y tai haf (1)    

ROBYN LEWIS, y cyfreithiwr a’r cyn-Archdderwydd â hanes yr achos llys ym Mhwllheli yn anterth yr ymgyrch meddiannu tai haf.

 

Carchar Caernarfon    

T. MEIRION HUGHES yn ein hatgoffa am hen garchar Stryd y Jêl, Caernarfon, ac am y croesdoriad o droseddwyr a gadwyd yno.

 

Hen fwydydd y Cymry  

 EMLYN RICHARDS

 

Yr hen godwr canu (1)    

GERAINT JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones

Dafydd Ddu Eryri    

GERAINT JONES, ar drothwy’r Nadolig,  yn sôn am un o garolwyr poblogaidd a mwyaf crefftus ein cenedl.

 

Y Tŷ Capel    

HARRI PARRI, gweinidog ymddeoledig, gyda hanesion difyr am brofiadau llawer pregethwr a fu’n aros mewn Tŷ Capel, un o syfedliadau pwysig amser a fu.

 

Bwyd ffarmwrs Môn    

EMLYN RICHARDS

 

Arferion y Nadolig    

TWM ELIAS yn sôn am hen wasanaeth y Plygain a’i garolau, am yr arferiad o ddod â choed a chelyn i’r tŷ ac o anfon cardiau Nadolig.

 

Ann Griffiths (2)    

GWENLLIAN JONES ac ail ran ei sgwrs ar hynt, helynt a meddylfryd Ann Griffiths, ein prif farddones ac emynyddes.

 

Richie Thomas    

ARTHUR THOMAS yn sôn am ei dad, Richie Thomas, Penmachno;  un o’r tenoriaid mwyaf a gynhyrchodd Gwlad y Gân. I ddilyn cawn ei glywed yn canu  ‘Nosgan Serch’ o waith Mozart.

Cyflwynydd: Morgan Jones
 
Glangaeaf a’i fendithion    

TWM ELIAS

 

Abergarthcelyn (4)    

Y PRIFARDD IEUAN WYN â’r olaf o bedair sgwrs ar hanes ysblennydd ein tywysogion olaf.

 

William Williams y llenor    

DAFYDD GLYN JONES

 

Ann Griffiths (1)    

GWENLLIAN JONES a rhan gyntaf o’i sgwrs am y ferch o Ddolwar Fach, ‘y danbaid, fendigaid Ann’.

 

Negro Jim    

GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn sôn am ei daith i dalaith Wisconsin ac am y caethwas du a fu yn godwr canu mewn capel Cymraeg.

 

Braw y Frech Wen    

W.J.EDWARDS, a fu’n weinidog yn ardal Penllyn, Meirionnydd am flynyddoedd, ac un o’i stôr o hanesion y fro, sef stori am glefyd a godai ofn ar genedl gyfan.

 

Bob Tom    

ARTHUR THOMAS, cyn-athro yn Ysgol Eifionydd, awdur toreithiog a mab y tenorydd Richie Thomas gynt, gyda hanes ei daid, Robert Thomas, arweinydd hen fand Penmachno.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Tymor yr Hydref    

TWM ELIAS â chyfraniad misol arall sydd, y tro hwn, yn sôn am hen arferion tymor Gŵyl y Diolchgarwch, y bastai bwmpen a’r twrci tew.

 

Diolchgarwch    

MEIRION HUGHES, hanesydd tref Caernarfon, yn adrodd hanes tarddiad yr ŵyl Ddiolchgarwch, byd dychrynllyd  y cyrff ar draethau Cernyw, a newyn mawr Iwerddon.

 

Robin (ROGW)    

HARRI PARRI â phortread o weinidog, pregethwr, a gŵr hynod a fu hefyd yn boblogaidd trwy Gymru fel un o Driawd y Coleg.

 

John Dafis, Nercwys  

EIRLYS GRUFFYDD

 

Helynt y Triog’    

DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes helynt trioglyd dinas Boston yn yr Unol Daleithiau yn y flwyddyn 1919.

 

Abergarthcelyn (3)    Y PRIFARDD IEUAN WYN â’i drydedd mewn cyfres o sgyrsiau ar Abergarthcelyn a theulu brenhinol Cymru ym 1282, blwyddyn dyngedfennol yn hanes Cymru.

 

Crych Elen    

GERAINT JONES, yng Nghornel y Cerddor, yn adrodd hanes gŵr o Ddolwyddelan a grwydrodd ymhell i’r Unol Daleithiau ac â’i hanwylodd ei hun i’r Cymry gyda’i gân ‘Y Bwthyn Bach To Gwellt’.

Cyflwynydd: Morgan Jones
 
William Williams, Llandygái    

DAFYDD GLYN JONES

 

Abergarthcelyn  (2)    

Y PRIFARDD IEUAN WYN, â’r ail ran o’i sgwrs ddiddorol a dadlennol am Dywysogion Cymru.

 

Meibion y Daran  

 ARWEL JONES, ‘Hogia’r Wyddfa’, yn sgwrsio am dîm pêl-droed ei bentref, Llanberis.

 

Dwyn ‘fala’    

TWM ELIAS yn croesawu mis Medi, mis y cnau, mis y cynhaeaf a dwyn afalau.

 

 Goginan (2)    

LYN EBENEZER ac ail ran ei sgwrs ar y cymeriad unigryw a’r bardd a’r adroddwr Peter Davies.

 

Y flwyddyn 1936    

TEGWYN JONES yn sôn am rai o ddigwyddiadau’r flwyddyn 1936 ar draws y byd ac am losgi’r ysgol fomio yn Llŷn ym mis Medi.

 

Utgorn Dafydd Miles    

GERAINT JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones

Gwyliau Awst    

TWM ELIAS, yn ei gyfraniad misol, yn sôn am ddathliadau Awst yn y gwledydd Celtaidd.

 

Goginan (1)    

LYN EBENEZER â’r gyntaf o ddwy sgwrs ar ei hen gyfaill, yr eisteddfodwr a’r bardd Peter Davies.

 

Abergarthcelyn (1)    

Y PRIFARDD IEUAN WYN, gyda’r gyntaf o bedair sgwrs yn ein tywys i safle llys a phrif gartref tywysogion Gwynedd yn y 13eg ganrif,  ac i borthladd Llan-faes ym Môn.

 

Tramp a phererin    

W.J. EDWARDS, gŵr adnabyddus am ei frwdfrydedd yn y meysydd crefyddol a gwladgarol, yn adrodd hanes y cardotyn a droes yn bererin a hanes Beibl rhyfeddol yr hen dramp.

 

Terfysg yn Eifionydd    

HARRI PARRI

 

Y gêm hardd    

ARWEL JONES yn troi ei olygon at y bel gron a gêm y werin bobl fel y’i chwaraeid ym mhentrefi Eryri.

 

Tanymarian (2)    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn sôn am Edward Stephen, am drasiedi Cymanfa fawr y Pafiliwn ac am angladd y cerddor oedd yn arwr gwerin gwlad.

 

Cyflwynydd: Morgan Jones

Llyfr Du Sam Jones    DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes yr arferiad o ddiarledd aelodau o gapeli yn y 19eg ganrif ac yn sôn am gofnodion o’r disgyblu fu yng nghapeli Cymraeg Lerpwl rhwng 1833 a 1874.

 

Llestri (2)    TEGID ROBERTS ac ail ran ei sgwrs ddifyr ar lestri enwog a drudfawr.

 

Elin Morris (2)    GWAWR JONES gyda mwy o hanes Elin Morris; hanes yn llawn helbulon ond sydd yn dangos gwytnwch teuluol arbennig.

 

Gorffen haf    TWM ELIAS yn sôn am fis Gorffennaf, mis y gwyliau, mis y cynhaeaf gwair a’r pladuro, a gorffen yr haf.

 

Golgeidwad rhyfeddol  

 ARWEL JONES yn ei elfen yn sôn am rai o gymeriadau’r cae pêl-droed.

 

Tanymarian (1)    

GERAINT JONES gyda’r gyntaf o ddwy sgwrs o Gornel y Cerddor am yrfa a chyfraniad un o dalentau mawr Cymru’r 19eg ganrif.
 

Cyflwynydd: Morgan Jones

Guto Rhos-lan (2)    

DYFED EVANS ac ail ran ei sgwrs am Guto Roberts, y gŵr amryddawn o Eifionydd.

 

Cefn y rhwyd    

ARWEL JONES, Hogia’r Wyddfa yn y gyntaf o bedair sgwrs, yn ein harwain i fyd y bêl gron, a’i hanes a’i helyntion.

 

Elin Morris (1)    

GWAWR JONES, gwyddonwraig sy’n ymhyfrydu mewn pethau diwylliannol, yn adrodd hanes merch un o Forrisiaid Môn.

 

‘Hyfryd fis Mehefin’  

 TWM ELIAS

 

Llestri (1)    

TEGID ROBERTS, yn y gyntaf o ddwy sgwrs, yn sôn am ddylanwad y crochenydd ar ein ffordd o fyw.

 

Y flwyddyn 1926    

TEGWYN JONES â hanesion blwyddyn gythryblus y dirwasgiad mawr.

 

Yr anthem goll    

GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn sôn am anthem genedlaethol Gymraeg Unol Daleithiau America: y geiriau gan ŵr o Ddyffryn Conwy a’r dôn gan ŵr o Forgannwg.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Gwenallt    

LYN EBENEZER, y gŵr rhadlon o Bontrhydfendigaid, yn sôn am un o bennaf feirdd Cymru.

 

Plwyfo Wil Cae Llywarch    

DAFYDD GLYN JONES

 

C’lamai    

TWM ELIAS yn sgwrsio am Galan Mai gan neidio o’r hendre i’r hafod ac edrych ymlaen at ddyfod yr haf.

 

Guto Rhos-lan (1)  

DYFED EVANS a rhan gyntaf o’i sgwrs am un o’i gyfeillion pennaf, y diweddar Guto Roberts, yr actor ac un o wŷr mawr Eifionydd.

 

Corsydd    

BERYL GRIFFITHS yn sôn fel y bu corsydd â lle amlwg yn hanes Cymru er mai prin fuont fel delweddau yn hanes pererindodau ysbrydol ein hemynwyr.

 

Geronimo    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor â hanes gŵr hynod a gwladgarwr gwiw, un o frodorion cynhenid America, ac i ddilyn cawn flas ar gerddoriaeth ddieithr a gwahanol gantorion y Garreg Ddu.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Ffwl Ebrill a’r Gyhydnos                       

TWM ELIAS

 

Canu Gwerin (4)    

MEREDYDD EVANS â’r olaf o sgyrsiau difyr, diddorol ac addysgiadol ar ganeuon gwerin.

 

Williams Pantycelyn    

DAWI GRIFFITHS â’i sgwrs olaf o gyfres sydd y tro hwn yn sôn am ‘y llenor mwyaf adnabyddus yn hanes ein llên’.

 

Ganrif union yn ôl    

TEGWYN JONES yn bwrw trem yn ôl i’r flwyddyn 1909, awr anterth Lloyd George, y ‘Suffragettes’ a ‘Steddfod Llundain.

 

Adnabod pregethwr    

HARRI PARRI yn sôn am y ffordd yr adnabyddid pregethwyr anghydffurfiol ers talwm.

 

Cerddorion Crawshay Cyfarthfa    

GERAINT JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones

Owen Rhoscomyl (3)    

BOB MORRIS

 

Iwnion Jac y Castell (2)    

T. MEIRION HUGHES

 

Dewi a’r dathlu    

TWM ELIAS, un o’n cyfranwyr ffyddlon, yn sgwrsio am Fawrth a dathliadau Dydd Gŵyl Dewi.

 

Huw Ifans y Maes    

EMLYN RICHARDS, yr hynaws ŵr o Fôn, yn adrodd hanes un o Lanfair-yng-Nghornwy, yng ngogledd yr Ynys.

 

Canu Gwerin (3)    

MEREDYDD EVANS â’r drydedd ran o sgwrs ar ‘y canu caeth newydd’, a’r cynghaneddion sain.

 

Tair cofeb y Sarnau    

ELFYN PRITCHARD yn sôn am bentref bach y Sarnau a’r tair cofeb sydd ar furiau’r hen ysgol.

 

R.S. Hughes y cerddor    

GERAINT JONES

 

Arafa Don  

 ARTHUR JONES (Tenor)

Cyflwynydd: Morgan Jones

Canu Gwerin (2)  

 MEREDYDD EVANS ac ail ran ei gyflwyniad ar rai o’n caneuon gwerin; un ohonynt a gododd ei fam ar ei chlust gan hwsmon o ardal Llanegryn, Meirionnydd.

 

Iwnion Jac y Castell (1)    

T. MEIRION HUGHES

 

Owen Rhoscomyl (2)    

BOB MORRIS

 

Chwefror    

TWM ELIAS yn son am ‘y mis bach mawr ei anghysuron’, a hen ŵyl eglwysig Mair y Canhwyllau, gŵyl baganaidd y Goleuni, a gŵyl Sant Ffolant.

 

Vosper, Salem a’r diafol                        

DYFED EVANS

 

Yr Hen Gerddor    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn sôn am unawd tenor arbennig, ac am yr unawdydd Hugh Evan Roberts, ‘Tenorydd yr Eifl’, un o brif denoriaid Cymru yn hanner cyntaf y ganrif ddiwethaf.

 

Eos Morlais    

YR ATHRO  HYWEL TEIFI EDWARDS yn traethu am y canwr mwyaf poblogaidd a welodd Cymru erioed.

 

Yr Hen Gerddor    

TENORYDD YR EIFL
    

Cyflwynydd: Morgan Jones

Calan a chalennig    

TWM ELIAS gyda’i stôr o wybodaeth am ddydd Calan a’r flwyddyn newydd.

 

Digwyddiadau 1885    

TEGWYN JONES

 

Owen Rhoscomyl (1)    

BOB MORRIS

 

John Parry, Llanuwchllyn    

WJ EDWARDS

 

Canu Gwerin (1)    

Dr. MEREDYDD EVANS  â’r gyntaf o gyfres o bedair sgwrs ar ei hoff destun: alawon gwerin Cymru, a eilw ef yn ‘ganeuon Mam’.

 

Hwch drwy’r siop    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS  yn adrodd hanes diddorol am hen borthmon o Gymro, Elis Jones, a aeth yn fethdalwr.

 

Y batwn aur    

GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn adrodd hanes cythryblus batwn aur côr Caernarfon.

Cyflwynydd: Morgan Jones
Siôn Corn a Niclas Sant    

Niclas y Glais    

LYN EBENEZER a phortread o’i arwr, y bardd T. E. Nicholas, sef Niclas y Glais.

 

Ceiriog    

YR ATHRO HYWEL TEIFI EDWARDS yn traethu’n gynnes huawdl am fardd mawr a phoblogaidd y 19eg ganrif – Ceiriog.

 

O.M.Edwards    

ELFYN PRITCHARD un o weithwyr diwylliannol dygn ardal Penllyn, yn sôn am ŵr arall o’r ardal, sef O.M.Edwards, un o bennaf cymwynaswyr Cymru a’r iaith Gymraeg.

 

Teithiau T.H.Parry-Williams  (3)  

 LLION JONES

 

Carolwyr mwyn Mallwyd  

 GERAINT JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones

Yn Uwchaled    

HARRI PARRI yn adrodd hanes ei hynt a’i helynt pan oedd yn weinidog ifanc ym mro Uwchaled yn nwyrain Meirionnydd.

 

Chrysanths    

BERYL GRIFFITHS gyda stori sydd â sylfaen hanesyddol gywir iddi am fywyd caled morynion bach yr oes a fu.

 

Taith Lenyddol (4)    

CEN WILLIAMS, y Prifardd o Fôn â’r olaf mewn cyfres o sgyrsiau sydd yn ein tywys i bentref Llanystumdwy yn Eifionydd a’i gymeriadau talentog.

 

Traed y meirw  

TWM ELIAS yn sgwrsio am fis Tachwedd â’i ‘ddyddiau duon bach’, Gŵyl Gwynt Traed y Meirw, noson llosgi Guto Ffowc, a thân gwyllt.

 

Teithiau T.H.Parry-Williams (2)    

LLION JONES

 

Cymysgfa Lenyddol    

DAWI GRIFFITHS yn ein tywys i gyfnod yn hanes ein llên pryd y cafwyd perlau gan rai fel Philipiaid Ardudwy, Owen Gruffydd o Lanystumdwy, Huw Morris, Eos Ceiriog ac eraill.

 

Pa le mae’r Amen?    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor, yn olrhain hanes y gân galon-rwygol ‘Pa Le Mae’r Amen?’  ac Ap Glaslyn, cyfansoddwr yr alaw.
 

Cyflwynydd: Morgan Jones

Y flwyddyn 1840    

TEGWYN JONES, arbenigwr ar fyd yr hen benillion a’r baledi, ac enw cyfarwydd i’r sawl a gâr ein llên, yn sôn am ddigwyddiadau  blwyddyn gythryblus yng Nghymru a’r byd.

 

‘Yn genhades i India’    

ANGHARAD ROBERTS yn adrodd gair o brofiad.

 

Teulu Began Ifan    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS yn sôn am rai o’r llysenwau sy’n bodoli yn ardaloedd y chwareli yn Arfon, ac am un arbennig o’r Waun-fawr.

 

Eisteddfod Fawr Chicago    

HYWEL TEIFI EDWARDS

 

Cwymp y Dail    

TWM ELIAS gyda sgwrs ddiddorol am gwymp y dail ac arwyddion tymhorol sy’n ymwneud â’r Hydref.

 

Taith Lenyddol (3)    

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS â’r drydedd ran o daith lenyddol drwy gwmwd Eifionydd sydd yn oedi’r tro hwn yng Nghricieth.

 

Teithiau T.H.Parry-Williams(1)    

LLION JONES

 

Cofio Joan Wyn Hughes    

GERAINT JONES AC ELFYN PRITCHARD

Cyflwynydd: Morgan Jones

Cyflafan Fawr Pwllheli 1895    

Taith Lenyddol  (2)    

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS mewn dau gartref ym Mhentre’rfelin yn Eifionydd sydd â chysylltiadau agos â rhyfeddod ein diwylliant: Hendregadredd a Phlas Gwyn.

 

Y Rhyddieithwyr    

DAWI GRIFFITHS gyda sgwrs feistrolgar ar gyhoeddi rhyddiaith yn y Gymraeg a phwysigrwydd cyfieithiadau gwŷr enwog fel William Salesbury, yr Esgob William Morgan a John Davies, Mallwyd.

 

Fisitors Mwyar Duon    

TWM ELIAS

 

Eirwyn Pontsiân    

LYN EBENEZER, gŵr amryddawn, awdur toreithiog, hanesydd, darlledwr a Chymro twymgalon, yn sgwrsio am y cymeriad annwyl a diwylliedig o bentre Pontsiân.

 

Megan Watts    

BERYL GRIFFITHS yn ein tywys i ardal fyrlymus Merthyr a Dowlais y 19eg ganrif ac at hanes un o fawrion Gwlad y Gân. I ddilyn, cawn glywed JANE JONES (Llinos y Ceiri) yn canu’r gân feloddramatig ‘ Y Gardotes Fach’ a genid gan Megan Watts a’i thebyg.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Gŵyl Awst    

TWM ELIAS gŵr amryddawn a hyddysg ym maes llên gwerin, yn sgwrsio am draddodiadau gŵyl Awst.

 

Iwerddon    

HARRI PARRI gyda sgwrs ddifyr am ei fynych ymweliadau â’r Iwerddon ac abaty Mount Melleray.

 

Boots a Ffair Wyddau    

EMLYN RICHARDS,  y pregethwr a’r darlithydd poblogaidd yn sgwrsio’r ddifyr.

 

Hildegard o Bingen    

GWENLLÏAN JONES yn adrodd hanes un o’r lleianod mwyaf rhyfeddol a droediodd daear erioed, yr Almaenes, Hildegard o Bingen.

 

Sgwp  

 DYFED EVANS, a fu am rai blynyddoedd yn brif ohebydd ‘Y Cymro’, yn sôn am y sgwp a gafodd am faen mellt ym Meddgelert yn 1949.

 

Taith lenyddol (1)    

Y PRIFARDD CEN WILLIAMS o Fôn yn ein tywys ar daith lenyddol sydd yn cychwyn ym Mhorthmadog – prifddinas cwmwd Eifionydd.

 

Wil Blac Llanllyfni    

GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn adrodd stori am offerynnwr cerddorol rhyfeddol o ardal y chwareli a oedd yn chwannog i fynd dros ben llestri a’u malu’n deilchion.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Eisteddfod Abertawe 1863                   

HYWEL TEIFI EDWARDS

 

Gwenllïan, merch y Llyw Olaf             

TEGID ROBERTS

 

Gwilym Cowlyd    

Y PRIFARDD MYRDDIN AP DAFYDD yn ein tywys i Ddyffryn Conwy, bro ei febyd, i sôn am ŵr y ‘llynnau gwyrddion llonydd’.

 

Beirdd yr Uchelwyr    

DAWI GRIFFITHS yn parahau â’i gyfres ar hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda darlun o feirdd yr uchelwyr a’u hoes.

 

Cadair Dinorwig    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS, hanesydd bro Eryri, yn adrodd hanes Gŵyl Cadair Dinorwig ym mhentref Brynrefail yn 1907.

 

Crug-y-bar a’r Morlo    

GERAINT JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones
Morrisiaid Llŷn    

BERYL GRIFFITHS yn sgwrsio am rai o wlad Llŷn a fu’n ymdrechgar ym myd crefydd, diwylliant a diwydiant yr hen Sir Gaernarfon.

 

Llygaid y gath    

EMLYN RICHARDS gyda hanes Percy Shaw o Swydd Efrog a’i lygaid cathod.

 

William Tell    

GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, yn adrodd yr hanes tu ôl i’r opera ‘William Tell’ a gyfansoddwyd gan Gioacchino Rossini.

 

Caradog Prichard (2)    

J. ELWYN HUGHES

 

Bagad Gofalon Bugail  

 HARRI PARRI

Cyflwynydd: Morgan Jones

Caradog Prichard (1)           

J. ELWYN HUGHES

 

Mary Slessor  

 GWENLLÏAN JONES yn adrodd hanes Mary Slessor o’r Alban a fu’n genhades yn Affrica.

 

Helyntion Eglwys Llannor    

J. DILWYN WILLIAMS

 

Barddoniaeth Enwau Lleoedd    

MYRDDIN AP DAFYDD

 

Wil Lleidr Llongau    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS yn adrodd un o’i stôr o hanesion gwaedlyd am droseddau a throseddwyr o bob math.

 

Cantorion Corn Gwddw    

GERAINT JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones

Meddygon y Ddafad Wyllt    

HARRI PARRI

 

Anti Cadi    

AELWEN ROBERTS yn sgwrsio am un a gafodd ddylanwad pwysig ac arhosol arni.

 

Elizabeth Watkin Jones    

TEGID ROBERTS

 

Arwyr  

EMLYN RICHARDS yn sgwrsio am ei arwyr – ‘y rhai sy’n gwneud y gorau o’r gwaethaf’.

 

Dafydd ap Gwilym    

DAWI GRIFFITHS â rhan arall o’r gyfres ar hanes ein llenyddiaeth sy’n ein tywys at fywyd a gwaith un a gyfrifir gan lawer yn un o’n beirdd gorau.

 

Chwibannu (2)    

GERAINT JONES gydag ail ran o’i sgwrs o Gornel y Cerddor ar y grefft o chwibannu.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Dafydd Parry Ocsiwnïar (2)    

MEIRION LLOYD DAVIES

 

Rhamant y Rhyfel Cartref (2)    

TEGID ROBERTS

 

Buddug, Brenhines y Brythoniaid    

GWENLLIAN JONES

 

Isaac Morris, Pentyrch    

DYFED EVANS

 

Y ras o Peking i Paris (2)    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS
Chwibannu (1)    GERAINT JONES, o Gornel y Cerddor, â’r gyntaf o ddwy sgwrs yn ymdrin â’r grefft o chwibannu.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Dafydd Parry Ocsiwnïar (1)    

MEIRION LLOYD DAVIES

 

Y ras o Peking i Paris (1)    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS

 

Penillion y Canu Penillion    

MYRDDIN AP DAFYDD

 

Hen Benillion o Ddyffryn Banw    

ALUN JONES

 

Rhamant y Rhyfel Cartref (1)    

TEGID ROBERTS

 

Iodlio Gwlad y Cowboi    

GERAINT JONES

 

Hon yw fy Olwen i    

WILLIAM EDWARDS, Rhydymain, un o gewri canu penillion yn canu un o oreuon caneuon serch Cymru.   

Cyflwynydd: Morgan Jones

Bardd yr Haf yn Nyffryn Ogwen    

IEUAN WYN

 

Hanes Stâd Broom Hall (3)    

J. DILWYN WILLIAMS

 

Iodlio    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor yn ein tywys i’r Swisdir ar drywydd rhywogaeth gerddorol ryfeddol yr iodlwr.

 

Planhigion Meddyginiaethol    

ANNE ELIZABETH WILLIAMS

 

Siopau Tal-y-sarn    

AELWYN ROBERTS â sgwrs am gownteri siopau pentref bach yn Arfon ryw hanner canrif yn ol.

 

Addysg yr oes mewn ysgol a chapel  

BOB OWEN, CROESOR

Cyflwynydd: Morgan Jones

Tanchwa Pensylfania 1907    

BERYL GRIFFITHS

 

Owen Llan’iolen-Postmon y Beirdd    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS

 

Tachwedd/Rhagfyr 1957    

GWENLLIAN JONES

 

Hanes Stad Broom Hall (2)    

J. DILWYN WILLIAMS

 

Clywch Lu’r Nef  

 BAND TORERO â charol adnabyddus mewn arddull anrhaddodiadol.

 

Cyllell Williams Pantycelyn                 

HARRI PARRI

 

Pererin Wyf  

 IRIS WILIAMS yn canu un o emynau’r Perganiedydd.

 

Pen Draw’r Byd    

EMLYN RICHARDS yn sgwrsio am ardal sydd, iddo ef, ym mhen draw’r byd.

 

Carol enwoca’r byd    

GERAINT JONES  o Gornel y Cerddor yn adrodd hanes carol arbennig a gyfansoddwyd yn 1818 ac a ddaeth yn fyd enwog.

 

Dawel Nos    

JAC a WIL, y ddeuawd enwog o Gefneithin, Sir Gerfyrddin, yn canu’r garol y sonia Geraint amdani.

 

Trwy rinwedd dadleuaeth                  

DIANE JONES             (EBEN FARDD) 

Tachwedd 2007    

Cyflwynydd: Morgan Jones

 

Hanes Stad Broom Hall (1)

Dafydd y Garreg Wen     J. DILWYN WILLIAMS

 

LEILA MEGANE
Tachwedd/Rhagfyr 1907    GWENLLIAN JONES

 

Ffynnon Ddisglair (Prysgol)    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS

 

Y dôn Prysgol    

CÔR TELYN TEILO yn canu emyn Ann Griffiths ar y dôn ‘Prysgol’ a gyfansoddwyd gan William Owen.

 

Sgwrsio    

EMLYN RICHARDS y sgwrsiwr difyr yn sgwrsio mewn modd sgwrslyd ar y testun ‘Sgwrsio’.

 

Y Mabinogi    

DAWI GRIFFITHS â hanes chwedlau sy’n rhan allweddol bwysig o’n llenyddiaeth a’n treftadaeth.

 

Lle treigla’r Caveri    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor â hanes un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd y llwyfan Cymreig.

 

Lle treigla’r Caveri (deuawd)    

ELWYN AC ARTHUR JONES
    

Cyflwynydd: Morgan Jones

Helynt yr Alawon Cymreig  

DAFYDD WHITESIDE THOMAS

 

Titrwm-tatrwm    

CÔR GLANNAU ERCH ar yr unig gopi y tybir sydd ar gael o’r record gorawl Gymraeg  y soniwyd amdani yn rhifyn Gorffennaf o’r Utgorn.

 

Medi/Hydref 1957    

GWENLLÏAN JONES â rhagor o hanesion o’r papurau newydd, y tro hwn yn y flwyddyn 1957.

 

Morgan Griffith, Penmownt (2)  

MEIRION LLOYD DAVIES

 

Yr Hengerdd (2)    

DAWI GRIFFITHS gyda sgwrs addysgiadol arall ar hanes ein llenyddiaeth ysblenydd a’r englynion cynnar tair llinell.

 

Y Dref Wen  

TECWYN IFAN

 

Tyddynwyr Arfon (2)  

 TEGID ROBERTS

 

Canmlwyddiant y dôn Cwm Rhondda    

GERAINT JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones

Baner Bethel    

DYFED EVANS  yn sôn am un o ‘flaenoriaid y môr’, sef Capten Hughes, Gellidara, yn Llŷn, ac am faner a fyddai’n cyfleu neges arbennig i forwyr Cymraeg.

 

Morgan Griffith, Penmount (1)    

MEIRION LLOYD DAVIES

 

Cyffro yn Eifionydd    

DEWI WILLIAMS, athro hanes sydd wedi ymddeol, gyda stori am gyffro mawr a fu yng nghwmwd Eifionydd flynyddoedd yn ôl.

 

Yr Hengerdd (1)    

DAWI GRIFFITHS, un o olygyddion Utgorn Cymru, gyda’r gyntaf mewn cyfres ar hanes cynharaf llenyddiaeth Cymru.

 

Tyddynwyr Arfon (1)  

 TEGID ROBERTS

 

Medi/Hydref 1907    

GWENLLÏAN JONES yn sgwrsio am rai o hanesion y papurau newydd yn y flwyddyn 1907.

 

Cadair Ddu Hedd Wyn 1917    

GERAINT JONES
    

Cyflwynydd: Morgan Jones

Potsiars    

EMLYN RICHARDS yn ein tywys i fyd rhwyd a thryfer a chriw anfarwol y tywyllwch ym Môn.

 

William Meirion Evans (2)    

MARIAN ELIAS ROBERTS

 

John Jones, Tal-y-sarn, y cerddor.    

GERAINT JONES

 

Enwau bro    

Y PRIFARDD IEUAN WYN, o Fethesda yn Arfon, yn ein hannog i warchod yr enwau persain, cyfoethog eu hystyron, sydd gennym ar rannau gwahanol o’n tirwedd.

 

Ynysoedd Aran 1977    

BERYL GRIFFITHS

 

Y crymanwr lloerig    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS gyda hanes arall am anfadwaith ym mro’r llechen las yn y 19eg ganrif.   

Cyflwynydd: Morgan Jones

Modryb Mary a f’ewyrth Rhobat    

HARRI PARRI (dwy sgwrs fer)

 

Gorffennaf/Awst 1907    

GWENLLIAN JONES

 

Gwilym Hiraethog    

DAWI GRIFFITHS yn adrodd hanes gŵr dawnus ac un o arwyr mwyaf y Gymru radicalaidd ganrif a hanner yn ôl.

 

Bob Owen, Croesor (6)    

DYFED EVANS

 

William Meirion Evans (1)    

MARIAN ELIAS ROBERTS

 

F’ewyrth Griffith a’r record golledig    

GERAINT JONES

 

Rhieingerdd : John Morris-Jones    

CÔR GLANNAU ERCH

Cyflwynydd: Morgan Jones

Cyflwyno    GWYN ERFYL a’r Dr. R. TUDUR JONES, dau o brif gymwynaswyr ein cenedl, a rhan o’u sgwrs a gymerodd le rhyw ddwy flynedd ar hugain yn ôl, ac sydd yn cynnwys sylwadau praff a ddi-flewyn-ar-dafod ar y grefft o gyflwyno ym myd y llwyfan, y sgrin, a’r pulpud yng Nghymru.

 

Rhyd-ddu a’i ŵr enwog    

ROL WILLIAMS

 

Gwenwyno    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS gyda hanes gwaedlyd am anfadwaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

 

‘Pobl Od’    

EMLYN RICHARDS

 

‘Mai/Mehefin 1957’    

GWENLLIAN JONES

 

‘Ira D. Sankey’    

GERAINT JONES

 

Tyn am y lan, forwr    

CÔR LLITHFAEN ET ALIA

Cyflwynydd: Morgan Jones
Bob Owen, Croesor (5)  

DYFED EVANS

 

Mai/Mehefin 2007    

GWENLLÏAN JONES sydd yn rhoi inni fraslun arall o’r hyn a fu yng Nghymru a thu hwnt ganrif yn ôl.

 

Eleazer Roberts a Mr Moody    

GERAINT JONES

 

Mr Moody, y fam a’r plentyn    

GERAINT JONES yn adrodd y gerdd

 

Giangstars Llundain    

MORGAN, ein cyflwynydd, yn sôn am rai o giangstars dychrynllyd Llundain, rhai fel Ronald a Reginald Kray, y brodyr Richardson a llawer o ddihirod eraill.

 

Ffrae Wyddelig Farwol    

DAFYDD WHITESIDE THOMAS

 

Owain Glyndwr    

DAWI GRIFFITH â sgwrs arall o’i gyfres addysgiadol a difyr ar ein gwladgarwyr enwog.

 

Galwad y Tywysog    

DAFYDD EDWARDS, y tenor o Fethania, yng Ngheredigion.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Diferion oddi ar y fargod  

EMLYN RICHARDS

 

Mawrth/Ebrill 1957    

GWENLLÏAN JONES yn ein tywys yn ôl at digwyddiadau misoedd Mawrth ac Ebrill 1957 yn y papurau newydd.

 

Diddymu’r Fasnach Gaethweision 1807    

MORGAN JONES

 

Arwerthiant y Caethwas    

GERAINT JONES yn adrodd cerdd enwog Gwilym Hiraethog

 

Modryb Mary, Tyddyn Talgoch    

HARRI PARRI

 

Damwain Trên Abergele    

GWILYM JONES

 

Brad Dynrafon    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor gyda hanes morladron, llongddrylliwyr ac ysbeilwyr di-drugaredd.

 

Brad Dynrafon    

RICHARD REES y baswr yn canu’r unawd ‘Brad Dynrafon’ –  geiriau Watcyn Wyn a cherddoriaeth D.Pugh Evans.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Hen Gerddorion y Batus (2)    

GERAINT JONES

 

Ceridwen Peris    

BERYL GRIFFITHS yn sgwrsio am ‘ferch gyffredin anghyffredin’, y wraig ddiwyd a oedd yn awdures ac yn olygydd ‘Y Gymraes’.

 

D.J.Williams, Abergwaun    

DAWI GRIFFITHS

 

Y wên na phyla amser    

DAFYDD IWAN

 

Bob Owen, Croesor (4)    

DYFED EVANS

 

Mawrth/Ebrill 1907    

GWENLLIAN JONES, wedi pori yn y papurau newydd a bwrw’i llinyn mesur dros eu cynnwys,yn adrodd peth o hanes Cymru a’r byd ganrif union yn ôl.

 

Taid Ynysfor    

HARRI PARRI gyda rhagor o’i bortreadau difyr o rai cymeriadau teuluol.

 

Padrig Sant    

MORGAN, cyflwynydd Utgorn Cymru, yn olrhain peth o hanes nawddsant Iwerddon.

 

Cyflwynydd: Morgan Jones

Bob Owen, Croesor (3)    

DYFED EVANS

 

Ionawr/Chwefror 1957    

GWENLLIAN JONES

 

Caradog Prichard    

JOHN ELWYN HUGHES, pennaf hanesydd Dyffryn Ogwen, yn sôn am y prifardd a’r nofelydd athrylithgar hwnnw o Fethesda.

 

Yr anfarwol dân yn Llŷn'(4)    

MORGAN JONES

 

Llên Gwerin y Coed    

ANN ELIZABETH WILLIAMS yn sgwrsio’n ddifyr ac addysgiadol ar briodolaethau meddyginiaethol sydd yn perthyn i goed.

 

Hen Bethau Anghofiedig    

EMLYN RICHARDS

 

Hen Gerddorion y Batus (1)

GERAINT JONES

 

O fy Iesu bendigedig  

 ELWYN JONES

Cyflwynydd: Morgan Jones

Yr Athro W.J.Gruffydd    

BERYL GRIFFITHS

 

F’ewyrth William a’r brain    

HARRI PARRI

 

Yr anfarwol dân yn Llŷn (3)    

MORGAN JONES

 

John Puleston Jones  

 EMLYN RICHARDS, un arall o feibion Llŷn, yn sôn am un o gewri’r pulpud Methodistaidd.

 

Ionawr/Chwefror 1907       

GWENLLIAN JONES

 

Carolau Plygain (2)    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor â’r ail ran o hanes ein carolau traddiodiadol, cyfoethog eu diwinyddiaeth.

Cyflwynydd: Morgan Jones

Gruffydd ap Cynan    

DAWI GRIFFITHS ag un arall yn ei gyfres o sgyrsiau yn adrodd hanes gwŷr enwog ein gwlad.

 

Digwyddiadau 1906    

GWENLLIAN JONES

 

Yr anfarwol dân yn Llŷn (2)    

MORGAN JONES

 

Bob Owen, Croesor (2)    

DYFED EVANS

 

Cymraes yn Chicago  

 MARIAN ELIAS ROBERTS

 

Carolau Plygain (1)    

GERAINT JONES o Gornel y Cerddor yn adrodd hanes y Nadolig traddodiadol Cymreig a’r hen garolau plygain.

 

Wele’n Gwawrio Ddydd i’w Gofio   

 

Cyflwynydd: Morgan Jones
Dafydd y Garreg Wen    

GERAINT JONES

 

Cân    

Dafydd y Garreg Wen

 

Eglwys Llandegwning    

Yr hanesydd J. DILWYN WILLIAMS  yn edrych yn ôl ar gyfnodau arbennig yn hanes yr eglwys hon.

 

Llwybrau    

EMLYN RICHARDS, gŵr a fu’n hynod gefnogol i fenter Uwchgwyrfai o’r dechrau,yn sgwrsio am hen lwybrau.

 

Ffordd Newydd        

MARIAN ELIAS ROBERTS yn darllen cerdd  i’r ffordd newydd trwy Glynnog ar adeg wahanol yn ei hanes – gan Eben Fardd

 

Yr anfarwol dân yn Llŷn (1)  

 MORGAN JONES  yn ein goleuo ar yr hanes hynod hwn.

 

Penyberth    

CÔR PENYBERTH

 

Digwyddiadau 1956    

GWENLLIAN JONES yn codi cwr y llen.

 

Planhigion Meddyginiaethol   

ANNE ELIZABETH WILLIAMS yn parhau â’i hoff bwnc.Y Border Bach   

 

 

Cyflwynydd: Morgan Jones    

Gwŷr Harlech    

Seindorf Trefor 1997

 

Bob Owen, Croesor (1)    

Y Newyddiadurwr dihafal DYFED EVANS yn portreadu cymeriad poblogaidd, lliwgar a feddai ar gof eithriadol.

 

Geifr Bodlas    

BERYL GRIFFITHS yn ein tywys i hen wlad Llŷn, i fyd amaeth a chwmni geifr ‘Bodlas’.

 

Cyfri’r Geifr    

MEREDYDD EVANS

 

Daeargryn San Ffransisco (1906)    

MORGAN JONES

 

Emrys ap Iwan    

DAWI GRIFFITHS, yn y gyntaf o gyfres ar hanes rhai o wladgarwyr pwysicaf a dylanwadol Cymru.

 

Digwyddiadau 1906    

GWENLLIAN JONES yn pori yn Yr Herald Cymraeg ac yn llwyddo i ddod o hyd i ddigwyddiadau difyr.

 

Canolfan Hanes Uwchgwyrfai    

DIANE JONES, y Rheolwraig, yn egluro’r cefndir ac yn cyflwyno ein dyheadau.

 

‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn 150 oed    

GERAINT JONES