
Canolfan Hanes
Uwchgwyrfai
"Anghofio yw Bradychu"
Clynnog Fawr yn Arfon, sefydlwyd 2006. Canolfan hanes wladgar, addysgiadol, difyr, cyfeillgar ac uniaith Gymraeg - dyma’n wir bwerdy bro.
Dyma lys hen gwmwd Uwchgwyrfai yng Nghantref Arfon, gwlad Gwynedd Uwch Conwy, cwmwd sy’n enwog am ei gyfraniad addysgol, diwylliannol a chrefyddol.
Cynhelir yr holl gyfarfodydd yn yr Ysgoldy am 2 o’r gloch ar y trydydd dydd Mawrth yn y mis.
Cyfarfod Nesaf: 18 Ebrill am 2 o’r gloch
Cerdded y Caeau: Rhian Parry Agorir gan yr awdures
Nos Wener 31 Mawrth: Sŵm am 7 o’r gloch
Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24 a chysylltiadau â sir Gaernarfon : Catrin Stevens
I gael y ddolen cysyllter â Jina: canolfanuwchgwyrfai@gmail.com.
10.30: Paned
11.00-12.00: Sgwrs gan AngharadTomos: Rheidrwydd Ymgyrchu
12.00-12.45: Cinio – pawb i ddod â’i fwyd ei hun – darperir paned
12.45–3.30: Cyfarfod gwladgarol, amrywiaethol, yn cynnwys anerchiadau 10 munud yr un, canu, cerddi a rhagor.
Darperir paned arall yn ystod y prynhawn.