Hafan > Siop > Epil Gwiberod yr Iwnion Jac
Epil Gwiberod yr Iwnion Jac
Geraint Jones
£4.00
Detholiad o ysgrifau Sêt y Gornel a gyhoeddwyd yn Y Cymro, Chwefror 2005 hyd at Awst 2006 pan benderfynodd y papur ddiddymu’r golofn heb eglurhad.
“Un o gyfraniadau pwysig Geraint yn ystod y blynyddoedd diwethaf oedd ei golofn wythnosol Sêt y Gornel yn Y Cymro. O’r cychwyn cyntaf, llwyddodd i greu ymateb, a daeth yr ysgrifau yn eu tro yn destun trafod dros glawdd yr ardd, dros beint yn y dafarn, ar y stryd, mewn siop a chaffi, wedi’r oedfa, mewn ystafell athrawon ac mewn swyddfa…”
“Mor hawdd yw claddu’r gwir mewn gwlad lle mae osgoi realiti yn rhemp ac sydd â diwylliant sefydliadol sy’n porthi hunanoldeb ac anonestrwydd.”
“Gwir a ddywedodd Dafydd Glyn Jones pan ddisgrifiodd yr helynt (o ddiddymu colofn Sêt y Gornel) fel “pennod gyda’r fwyaf gwarthus a fu erioed yn hanes y wasg Gymraeg”.
Ieuan Wyn yn ei gyflwyniad i’r gyfrol.
“Paced o’r sigârs gorau rŵan i Geraint Jones am ei golofn ardderchog, Sêt y Gornel, yn enwedig y berl honno am ymgom cwbwl ddibwrpas y byd addysg Cymraeg y dwthwn hwn. Dim ond gobeithio fod ei neges wedi mynd adre.”
Gwilym Owen.
Erbyn hyn atgyfodwyd Sêt y Gornel a’i chyflwyno ar lafar yn Utgorn Cymru, gan ddechrau yn rhifyn 74 (Awst 2013).