"Anghofio yw Bradychu"

Hafan > Siop > Gŵr Hynod Uwchlaw’rffynnon

Gŵr Hynod Uwchlaw’rffynnon

Geraint Jones

£6.00


Roedd oes Robert Hughes, Uwchlaw’rffynnon, Llanaelhaearn, sir Gaernarfon, yn rhychwantu’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar ei hyd, fwy neu lai. Dyma borthmon, ffermwr, bardd, pregethwr, darlithydd, achyddwr ac areithiwr dirwest a ddaeth, yn dilyn ei hanner canfed pen-blwydd, yn arlunydd gyda’i stiwdio ei hun yn Uwchlaw’rffynnon.  Yn y llyfr hwn ceir hanes bywyd a gwaith Robert Hughes, ynghyd â thros drigain o’i luniau mewn lliw a holl achau teulu lluosog Uwchlaw’rffynnon.

“Mae ei hanes yn ddiddorol dros ben ac mae’r modd y cyflwynir yr hanes hwnnw yn y gyfrol hon yn ddifyr odiaeth…….Rydym ni, ddarllenwyr y Ffynnon, yn gyfarwydd â’r arddull hefyd. Nid yn aml y gwelwch chwi Gymraeg mor gyhyrog â hyn ‘na mewn llyfr newydd y dyddiau hyn…. Mae’r argraffu yn wych ryfeddol….” (Dyfed Evans yn Y Ffynnon, Papur Bro Eifionydd, Tachwedd 2008)

Cyhoeddwyr: Gwasg Carreg Gwalch

70 tudalen

Ymlaen i dalu Yn ôl i'r siop