"Anghofio yw Bradychu"

Hafan > Siop > John Preis

John Preis

Geraint Jones

£5.00


Pan gyhoeddodd rhai o’r papurau bro lythyr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai yn sôn am y bwriad i ysgrifennu llyfr am yr enwog grwydryn John Preis, gan wahodd hanesion amdano, aeth cloch y teleffon yn eiriasboeth, derbyniwyd llythyrau o bell ac agos a galwodd rhai heibio i’r swyddfa i adrodd eu profiadau.

Rhwng y rhain a’r llu hanesion lliwgar oedd gennym ni, drigolion ei hen gynefin – Capel Uchaf a Chlynnog yn fwyaf arbennig – ceir cip ar hen rebel hollol wreiddiol a hollol wahanol i bob bod dynol arall ym mhob dull a modd. Sut y llwyddodd i fyw ar y gwynt, cerdded a gwlychu’n domen ym mhob tywydd, cysgu mewn ysguboriau a beudái a theisi gwair, drewi fel buria, a chael byw i fod yn 91 oed,  sydd yn fwy na’r saith  rhyfeddod.

Gallai fod yn un hynod anniolchgar a deilliodd trafferthion lu o’i syniad ef o hwyl pan na châi ei ffordd ei hun. Maddeuid iddo, er  hynny, ac roedd ganddo ei bobl i ofalu amdano, yn un teulu mawr,o Gaergybi i Lerpwl a’r Gororau a gwahanol rannau o Gymru.  A phan fyddai yn ei lawn hwyliau byddai’n fodd i fyw i bawb o’i gydnabod.

Pwythwyd yr hanesion amdano yn hynod gelfydd gan wir lenor a wir fwynhaodd y dasg hon gan fod y gwrthrych wedi ei gyfareddu. A rhwng y cynnwys a’r mynegiant rhwydd mae yma em o lyfr – un gwahanol. Mwynhewch ei ddarllen.

Neges Trydar gan Dilwyn Roberts-Young, 3 Medi 2014:

“Chwerthin yn uchel ar garij tren @ArrivaTW wrth ddarllen  y cofiant gan Geraint Jones!    Llongyfarchiadau @Utgorn Cymru am drysor!”

  • Gwerthwyd y mil cyntaf o fewn pythefnos ym Mai 2014.
  • Cafwyd ail argraffiad yn fuan.
  • Roedd angen TRYDYDD yn yr un flwyddyn ond mae rhai copiau ar gael.

Ymlaen i dalu Yn ôl i'r siop