Hafan > Siop > Llofruddio Llywelyn: Cynllwyn 1282
Llofruddio Llywelyn: Cynllwyn 1282
Geraint Jones ac Ieuan Wyn
£6.00
Ffrwyth dwy ddarlith a draddodwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar y 10fed a’r 11eg o Ragfyr 2020 yw’r gyfrol hon. Ynddi cyflwynir tystiolaeth glir am yr amgylchiadau alaethus a bradwrus a arweiniodd at lofruddio Llywelyn ap Gruffudd ar y diwrnod tywyll hwnnw, yr 11eg o Ragfyr 1282 pan, yng ngeiriau’r Brut, ‘y bwriwyd holl Gymry i’r llawr’.
Yn Dinoethi Celwydd Cilmeri mae Geraint Jones yn datgelu’r modd yr ystumiwyd y ffeithiau ynghylch marwolaeth y Llyw Olaf gan y gorchfygwyr Seisnig a chroniclwyr gelyniaethus megis Walter o Guisborough, gyda haneswyr amlwg yn derbyn hyn yn ddi-gwestiwn fel y ‘gwirionedd’ ar hyd y blynyddoedd.
 Ieuan Wyn ymlaen yn Ar Drywydd y Gwir i ddangos yn ddiamwys, ar sail sawl ffynhonnell wreiddiol, mai cael ei ddenu i’w farwolaeth trwy frad gafodd Llywelyn, a hynny dan gochl cyfeillgarwch, cytundeb a hyd yn oed gariad.
Dyma gyfrol y dylid ei darllen a’i hystyried gan bawb a fyn wybod y gwir am hanes ein gwlad yn ystod un o’i chyfnodau mwyaf argyfyngus.



