Hafan > Siop > Mary King Sarah
Mary King Sarah
Aelwen Roberts
£4.00
Camp fawr Mary King Sarah, y gantores enwog o Dal-y-sarn, oedd ennill tair gwobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon, 1906. A dod yn seren.
Ymhen ychydig flynyddoedd wedyn derbyniodd wahoddiad Côr y Moelwyn i fod yn unawdydd iddynt ar eu hymweliad ag America. Y canlyniad fu iddi gael y fath groeso yno fel na ddychwelodd adref efo’r Côr. Fe’i dilynwyd i’r wlad bell gan ei rhieni a’i brawd a’i deulu yntau a chan aelodau eraill yn ddiweddarach.
Aros am dair wythnos oedd bwriad ei thaid pan ddaeth i hyfforddi gweithwyr i yrru peiriant stêm yn chwareli Dyffryn Nantlle. Ni ddychwelodd i’w gartref yng Nghernyw byth wedyn ar ôl cyrraedd Tal-y-sarn a chyfrannodd ef a’i deulu yn helaeth i’r gymdeithas leol a dod i siarad Cymraeg yn rhugl. Mae ei hanes ef a’i ddisgynyddion cerddorol yn werth ei ddarllen ac mae’r ysgrifennu yn raenus.
Dyddiad cyhoeddi: 29ain o Fedi 2010.
Mae ynddo 30 o luniau a 78 tudalen.