Hafan > Siop > Teulu Tan-y-clawdd
Teulu Tan-y-clawdd
Marian Elias Roberts
£4.00
Hanes teulu o dyddynwyr ffraeth, dirodres, hen-ffasiwn a oedd, hyd yn gymharol ddiweddar, fel yr eithin yn aur ar hen gloddiau Capel Uchaf, Clynnog.
Darlun byw o William Pritchard yn gweini ar ffermydd yr ardal a’i briod, Martha Pritchard, yn adrodd ei hanes yn cychwyn yn forwyn bach cyn bod yn ddeuddeg oed. Roedd eu merch Nan yn adnabyddus i bawb yn y cyffiniau ac mae ei dywediadau doniol a’i sylwadau gwreiddiol a bachog yn dal yn fyw ar gof yr ardalwyr.
44 tudalen yn cynnwys 28 o luniau o safon uchel. Tynnwyd y llun sydd ar y clawr gan Richard Caradog Jones, Llanelli, yn 1963.
Dyddiad cyhoeddi: 27ain o Hydref 2010 (yn y Ganolfan hon).