Hafan > Siop > Y Ddau Syr Love
Y Ddau Syr Love
John Dilwyn Williams
£6.00
Yn y gyfrol hon ceir hanes bywydau lliwgar, a chythryblus yn aml, Y Ddau Syr Love, y tad a’r mab, o blas Madryn yn Llŷn. Ynddynt ymgorfforwyd cryn dipyn o’r gwych a’r gwachul, camp a rhemp. Ac mewn oes lle roedd rhelyw’r uchelwyr wedi hen gefnu ar y Gymraeg a’i diwylliant, parhaodd yr heniaith, er yn ddigon clapiog mae’n wir, ar wefusau’r ddau fonheddwr, parchent y diwylliant cynhenid ac nid oedd eu llyfrgell yn brin o lyfrau Cymraeg.
Bydd y ddwy ddarlith hyn, gan un y mae hanes ystadau a theuluoedd bonheddig Llŷn ac Eifionydd ar flaenau ei fysedd, yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r bendefigaeth Gymreig yn y ddeunawfed a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r gymdeithas yr oeddent yn rhan annatod ohoni.