"Anghofio yw Bradychu"

Hafan > Siop > Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw

Y Wasg Gymraeg Ddoe a Heddiw

Dafydd Glyn Jones

£4.00


Beth oedd arbenigrwydd Tarian Rhyddid a Dymchwelydd Gormes; hyrwyddo amcanion pa fudiad yr oedd Y Gad-lef; a beth oedd y gwahaniaeth rhwng Y Bedyddiwr a’r Gwir Fedyddiwr? I gael yr atebion, a llawer mwy, darllenwch y ddarlith gyfoethog hon lle ceir hanes twf eithriadol y wasg newyddiadurol a chyfnodol Gymraeg o’i dechreuadau yn almanaciau’r ail ganrif ar bymtheg i fwrlwm hyderus y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif gyda’u llu o gyhoeddiadau amrywiol. Traethir hanes ei dirywiad hefyd dros y degawdau diwethaf ac yn hynny gwêl yr awdur ‘ymddatodiad cenedl y Cymry’. Yn ogystal â’r ffeithiau, cawn hefyd sylwadau treiddgar y darlithydd a’i gwestiynau sy’n ein procio i feddwl – a digalonni efallai.

Ymlaen i dalu Yn ôl i'r siop