Hafan > Siop > J.R. Jones a Brwydr yr Iaith
J.R. Jones a Brwydr yr Iaith
Ieuan Wyn
£4.00
Cyhoeddiad o Ddarlith Flynyddol Utgorn Cymru 2021 a draddodwyd gan Ieuan Wyn i gynulleidfa Canolfan Hanes Uwchgwyrfai. Yr Athro J.R. Jones yw ei destun, a’i gyfraniad i frwydr yr iaith yn benodol – cyfraniad nodedig nid yn unig o ran ei arweiniad syniadaethol fel athronydd ond hefyd ei gefnogaeth gyhoeddus ddiwyro i’r gweithredwyr mewn cyfnod allweddol yn hanes y frwydr.
‘ … Cafwyd darlith wefreiddiol a gyflwynai’n gymen athroniaeth, rhesymeg ac angerdd rhyfeddol yr annwyl J.R.. Er mai dros gyfnod cymharol fyr o ryw 4-5 mlynedd yn unig y bu’n rhannu â’r genedl ei athroniaeth ddisglair ar y frwydr genedlaethol, ac yn neilltuol y frwydr dros barhad yr iaith Gymraeg, bu’r cyfraniad hwnnw’n fawr ac amhrisiadwy. Nid olrhain ac esbonio’r teithi meddwl hyn yn unig a wna Ieuan, ond hefyd ddarlunio’n gynnes iawn angerdd a dicter cyfiawn y gŵr, yn ogystal â rhychwant ei allu a’i weledigaeth.’
Geraint Jones: Rheolwr Canolfan Hanes Uwchgwyrfai